A ddylai cael gwared a' r teulu brenhinol?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A ddylai cael gwared a' r teulu brenhinol?

Dylia
32
84%
Na ddylia
6
16%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 38

Postiogan Chwadan » Mer 05 Mai 2004 5:20 pm

GT a ddywedodd:1 Mae brenhiniaeth yn gwneud pobl yn daeogion yn hytrach na dinasyddion. Mae'r gwahaniaeth i mi yn arwyddocaol. Dyliai'r awdurdod eithaf fod gyda dinasyddion gwlad - ddim efo unigolyn sydd yn ei swydd oherwydd pwy oedd ei thad.

2 Mae grym gwleidyddol gan y frenhiniaeth o hyd. Nid yw hyn yn briodol mewn gwladwriaeth, ddemocrataidd fodern.

3 Nid yw trefn lle mae pobl yn cael eu hunain mewn sefyllfa o rym oherwydd eu genedigaeth yn hytrach nag oherwydd eu gallu yn iach - yn arbennig pan fod y drefn yn bodoli ar binacl cymdeithas.

4 Mae'r frenhiniaeth yn niweidiol i'r unigolion sydd yn perthyn i'r teulu brenhinol.

Dwi'n cytuno'n chwyrn efo pwyntia 3 a 4, ond pwynt 1 - mae'r awdurdod eithaf ym Mhrydain gan y Senedd, nid y frenhines, gan mai'r bobl wnaeth ethol y Senedd. Dydi'r Senedd ddim yn atebol i'r frenhiniaeth. A pwynt 2 - pa rym gwleidyddol sydd gan y frenhiniaeth? (Blaw sgwrs wsnosol y frenhines efo Tone :rolio:)
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Macsen » Mer 05 Mai 2004 5:43 pm

GT a ddywedodd:1 Mae brenhiniaeth yn gwneud pobl yn daeogion yn hytrach na dinasyddion. Mae'r gwahaniaeth i mi yn arwyddocaol. Dyliai'r awdurdod eithaf fod gyda dinasyddion gwlad - ddim efo unigolyn sydd yn ei swydd oherwydd pwy oedd ei thad.

2 Mae grym gwleidyddol gan y frenhiniaeth o hyd. Nid yw hyn yn briodol mewn gwladwriaeth, ddemocrataidd fodern.


Does gan y frenhiniaeth ddim grym erbyn hyn. Mi fysa rhaid iti fynd nol i 1641.

GT a ddywedodd:Nid yw trefn lle mae pobl yn cael eu hunain mewn sefyllfa o rym oherwydd eu genedigaeth yn hytrach nag oherwydd eu gallu yn iach - yn arbennig pan fod y drefn yn bodoli ar binacl cymdeithas.


Wel, mae pawb yn cael ei geni mewn i ryw sefyllfa. Os fyswn i wedi fy ngeni yn waelodion Ethiopia mi fyswn i'n lot tlotach. Anheg felly fy mod i wedi fy ngeni yn un o'r gwledydd mwyaf pwerus yn y byd? Dim ond ryw sosialaeth ddemocratic byd eang fysai'n rhoi stop i hyn.

GT a ddywedodd:Mae'r frenhiniaeth yn niweidiol i'r unigolion sydd yn perthyn i'r teulu brenhinol.


Ydi wir? Mae'r gwelyau aur na mor anghyfforddus. :winc:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan GT » Mer 05 Mai 2004 7:06 pm

Pwynt 1 - Mae awdurdod cyfansoddiadol gan Liz. Dyna pam mae hi'n gorfod arwyddo cymaint o bapurau cyfansoddiadol. Mae pob aelod seneddol (ac aelod Cynulliad) yn gorfod tyngu llw o ffyddlondeb iddi. Oherwydd hyn mae rhai pobl sydd wedi eu hethol methu cymryd eu lle yn San Steffan.

Pwynt 2 - Yn etholiad gyntaf 74 cafodd Llafur fwy o seddi na'r Toriaid ond dewisodd Liz roi'r cynnig cyntaf i Heath ffurfio llywodraeth. Mae hyn yn rym gwleidyddol go iawn. Cafodd llywodraeth Llafur Awstralia y marching orders gan cynrychiolydd y frenhiniaeth yn Awstralia tua 15 mlynedd yn ol, gallai'r un peth ddigwydd yma. Gyda llaw Macsen, 1688 ydi'r flwyddyn bwysig o ran sbaddu'r frenhiniaeth, nid 1641.

Pwynt 3 - Mae gwobreuo o fewn cymdeithas oherwydd genedigaeth yn hytrach na gallu yn gynsail sal.

Pwynt 4 - Macsen, tasa na lu o bobl yn cael eu cyflogi i lyfu a llempian o gwmpas dy draed, a dweud wrthyt boi mor dda wyt ti hyd at syrffed, byddet yn tyfu i fyny yn foi od - methu ffurfio perthynas call a chyfartal, yn edrych i lawr dy drwyn ar bawb a phopeth, yn meddwl bod rhyw arwyddocad anhygoel i pob gair a ddaw allan o dy geg, eisiau bod yn ffocws pob sgwrs, ddim yn gweld dim o'i le mewn doethinebu am bethau nad wyt yn gwybod dim amdanynt. Mewn gair byddet wedi dy niweidio fel unigolyn. Cwestiwn i ti - pa aelod o'r teulu brenhinol sy'n ymylu ar fod yn normal?
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Mer 05 Mai 2004 7:14 pm

GT a ddywedodd:Mae awdurdod cyfansoddiadol gan Liz. Dyna pam mae hi'n gorfod arwyddo cymaint o bapurau cyfansoddiadol.


Ond mae gan y llywodraeth yr opsiwn i anwybyddu ei hawdurdod yn gyfan gwbwl. Felly os nad ydi hi yn licio'r peth does gen hi ddim dewis ond arwyddo'r 'cymaint o bapurau'.

GT a ddywedodd:Mae pob aelod seneddol (ac aelod Cynulliad) yn gorfod tyngu llw o ffyddlondeb iddi. Oherwydd hyn mae rhai pobl sydd wedi eu hethol methu cymryd eu lle yn San Steffan.


Mi ddylsan nhw o bawb fod digon clefar i sylwi bod 'llw' o'r fath yn feddwl dim.

GT a ddywedodd:Mae gwobreuo o fewn cymdeithas oherwydd genedigaeth yn hytrach na gallu yn gynsail sal.


Croeso i'r bydysawd. Mae'n lle anheg. Lle yn y byd sydd ddim yn gwobrwyo o ran genedigaeth?

GT a ddywedodd:Macsen, tasa na lu o bobl yn cael eu cyflogi i lyfu a llempian o gwmpas dy draed, a dweud wrthyt boi mor dda wyt ti hyd at syrffed, byddet yn tyfu i fyny yn foi od - methu ffurfio perthynas call a chyfartal, yn edrych i lawr dy drwyn ar bawb a phopeth, yn meddwl bod rhyw arwyddocad anhygoel i pob gair a ddaw allan o dy geg, eisiau bod yn ffocws pob sgwrs, ddim yn gweld dim o'i le mewn doethinebu am bethau nad wyt yn gwybod dim amdanynt.


Mae'n swnio fel fi rwan, a dwi'n sicr ddim yn aelod o'r teulu brenhinol. Falle boi rhai pobl jyst yn dwats? :winc:

Ia, wel, nol i fy nhraethawd. (Dwisho mynd i Macky.. grrrr...) :crio:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dr Gwion Larsen » Mer 05 Mai 2004 7:22 pm

Macsen a ddywedodd:Mi ddylsan nhw o bawb fod digon clefar i sylwi bod 'llw' o'r fath yn feddwl dim.
Mater o egwyddor Macsen, mater o egwyddor.

Macsen a ddywedodd:Croeso i'r bydysawd. Mae'n lle anheg. Lle yn y byd sydd ddim yn gwobrwyo o ran genedigaeth?
Felly dylid ei wneud môr deg a phosib o fewn gafael.[/quote]
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan GT » Mer 05 Mai 2004 7:33 pm

Macsen a ddywedodd:Ond mae gan y llywodraeth yr opsiwn i anwybyddu ei hawdurdod yn gyfan gwbwl. Felly os nad ydi hi yn licio'r peth does gen hi ddim dewis ond arwyddo'r 'cymaint o bapurau'.


Ti'n ateb un pwynt allan o nifer. 'Does yna neb yn gwybod beth fyddai'n digwydd petai hi'n gwrthod arwyddo'r papurau.

Mae pwynt arall hefyd. Mae hi'n cael sgwrs efo'r prif weinidog pob wythnos, ac mae ganddi'r hawl i ddweud ei dweud. Byddai cwmni masnachol yn talu ffortiwn am gael yr hawl yma.

Macsen a ddywedodd:Mi ddylsan nhw o bawb fod digon clefar i sylwi bod 'llw' o'r fath yn feddwl dim.


Fel mae'r Dr Gwion yn ei ddweud mae gan bobl eu hegwyddorion. Ddylet ti ddim peidio cael cynrychioli dy etholwyr oherwydd dy egwyddorion.

Macsen a ddywedodd:Croeso i'r bydysawd. Mae'n lle anheg. Lle yn y byd sydd ddim yn gwobrwyo o ran genedigaeth?


Dadl a allai gael ei defnyddio i gyfiawnhau unrhyw anhegwch yn rhywle. Chdi ydi dyn y Chwith i fod, nid fi.

Macsen a ddywedodd:Mae'n swnio fel fi rwan, a dwi'n sicr ddim yn aelod o'r teulu brenhinol. Falle boi rhai pobl jyst yn dwats?


Ia, efallai mai ti sy'n gywir yma.
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Mer 05 Mai 2004 7:50 pm

GT a ddywedodd:'Does yna neb yn gwybod beth fyddai'n digwydd petai hi'n gwrthod arwyddo'r papurau.


Mi fysai'r llywodraeth yn newid y rheolau, a mi fysat ti'n cael dy ffordd; dim mwy o Mrs Queenie. Yn fyr, fysa hi'm yn meiddio.

GT a ddywedodd:Mae hi'n cael sgwrs efo'r prif weinidog pob wythnos, ac mae ganddi'r hawl i ddweud ei dweud.


Does gan y Frenhines ddim mwy o siawns o newid meddwl Tony Blair na ti neu fi. Mae Blair yn 'gwarndo' arni, ond tydi o'm yn gwrando arni. Mae hi wedi bod yn gynyddol yn erbyn y rhyfel yn Irac, er engraifft. Dwi'm yn gweld Mr. Blair yn newid ei feddwl.

GT a ddywedodd:Ddylet ti ddim peidio cael cynrychioli dy etholwyr oherwydd dy egwyddorion.


Dwi di gweld lot o bobl clefar yn cael ei trechu gan egwyddorion twp. Os wyt ti'n meddwl y gallet ti wir wneud da drwy fod yn aelod syneddol, mi ddylsat ti wneud hynny llw ai beidio. Dod a'r lle lawr o'r tu mewn lot haws na't tu allan.

GT a ddywedodd:Dadl a allai gael ei defnyddio i gyfiawnhau unrhyw anhegwch yn rhywle. Chdi ydi dyn y Chwith i fod, nid fi.


Pigo tyllau mewn cyfalafiaeth ydw i. Ie, fi ydi 'dyn y chwith'.

GT a ddywedodd:Ia, efallai mai ti sy'n gywir yma.


Diolch. :gwyrdd:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Mer 05 Mai 2004 7:54 pm

Edrych ar hanes Cymru ac fe weli di ddigon o son am frenhinoedd a brenhiniaeth.

Mae 'annibyniaeth rwan' a'i debyg yn siarad nonsens anhygoel. Mae'r teulu brenhinol yn boblogaidd ac yn sicr mae nhw'n denu twristiaid i Brydain. Edrychwch ar y miloedd eith allan i Lundain pan mae digwyddiad mawr yn eu teulu fel marwolaeth neu phriodas, heb anghofio'r miliynau wneith wylio'r peth ar y teledu o gwmpas y byd.

Dwi'n meddwl fod rhywbeth eitha sefydlog mewn cael brenhiniaeth. Mae'r gwleidyddion yn mynd a dod ond mae'r frenhiniaeth yn gyson. Mewn achos o argyfwng neu thristwch mae pobl yn edrych am rywun i grynhoi teimladau'r wlad - gall brenhines, sydd yn wleidyddol niwtral, uno'r bobl mewn ffordd allai gwleidyddion byth wneud.

Bydd hi'n golled i Gaernarfon i beidio cael Prince William yn cael ei goroni yno. Mae lot fawr o dwristiaid yn mynd i Gaernarfon i weld lle cafodd Prince Charles ei arwisgo. Mae'n syndod clywed pobl ar maes-e o'r dref honno yn siarad cymaint yn erbyn y royals. Yn amlwg, lwnis y dre sydd wedi ffeindio'u ffordd i'r wefan hon.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dr Gwion Larsen » Mer 05 Mai 2004 8:02 pm

Macsen a ddywedodd:
Mi fysai'r llywodraeth yn newid y rheolau, a mi fysat ti'n cael dy ffordd; dim mwy o Mrs Queenie. Yn fyr, fysa hi'm yn meiddio.
A rhan fwyaf o Gymru.

Macsen a ddywedodd:Does gan y Frenhines ddim mwy o siawns o newid meddwl Tony Blair na ti neu fi. Mae Blair yn 'gwarndo' arni, ond tydi o'm yn gwrando arni. Mae hi wedi bod yn gynyddol yn erbyn y rhyfel yn Irac, er engraifft. Dwi'm yn gweld Mr. Blair yn newid ei feddwl.
Felly does yna'm pwrpas iddi.

Macsen a ddywedodd:
Dwi di gweld lot o bobl clefar yn cael ei trechu gan egwyddorion twp. Os wyt ti'n meddwl y gallet ti wir wneud da drwy fod yn aelod syneddol, mi ddylsat ti wneud hynny llw ai beidio. Dod a'r lle lawr o'r tu mewn lot haws na't tu allan.
Ond ma'r ffaith dal i fodoli fo pobl yn gorfod mynd yn erbyn be ma nhw wir yn feddwl i wneud gwahaniaethy gweladwy.
[/quote]
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan RET79 » Mer 05 Mai 2004 8:03 pm

Annibyniaeth RWAN a ddywedodd: Pam fod y teulu brenhinol yn cael mynd drwy fywyd heb orfod wneud dim byd... A mae'r ddadl fod y teulu brenhinol yn dod a mwy o bres i fewn na maent yn gymeryd oddi ar y wlad yn chwerthinllyd.


Os yw o mor chwerthinllyd, yna lle mae dy dystiolaeth yn erbyn y datganiad yna?

Dwi ddim yn cytuno fod y teulu brenhinol yn gwneud dim byd. Mae nhw yn gwneud gwaith anodd iawn, wastad yn llygad y cyhoedd ac yn fy marn i ar y cyfan mae nhw'n gwneud hyn yn rhagorol. Mae nhw'n sicr yn fwy gweithgar na llawer iawn o bobl y wlad ma sydd yn cwyno amdanynt.

Beth wyt ti'n cynnig yn eu lle? Arlywydd? Dim byd? Ti dy hun?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai

cron