Tudalen 1 o 13

A ddylai cael gwared a' r teulu brenhinol?

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 9:21 pm
gan Lowri Fflur
A ddylai cael gwared a' r teulu brenhinol. Yn fy marn i mae o' n hen bryd i nw fynd. Dwi' n credu ei bod nhw yn wastraff arian ac ddim yn adlewyrchiad o gymdeithas ddemocrataidd deg. Beth mae pobl eraill yn meddwl am y parasites yma?

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 9:32 pm
gan Macsen
Mae nhw'n dod a mwy o bres twristiaid mewn na mae nhw'n defnyddio.

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 9:44 pm
gan Ffion1
............ond 'parasites' ydi nhw. Yn ogystal mae'n ddiawledig o boenus gwrando am eu stranciau ar y wasg!!. Cael gwared ohonnynt rwan, dyna be dwin feddwl!

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 9:48 pm
gan Geraint
Y peth dwi'n anghytuno efo'r teulu brenhinol yw fod nhw 'head of state' y wlad yma, Cymru. Os na fyddai hyn ar achos, ac mae ond teulu brenhinol i Loegr, yn llythrennol, fydde nhw, bydde ni ddim yn becso dam os yw nhw yn aros yno neu ddim.

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 10:08 pm
gan Dylan
Macsen a ddywedodd:Mae nhw'n dod a mwy o bres twristiaid mewn na mae nhw'n defnyddio.


Rhoddod y Ffrancwyr yr esgid i'w teulu brenhinol hwy bron i chwarter mileniwm yn ôl a 'dydi hynny heb stopio palas Versailles rhag derbyn llond trol o arian gan dwristiaid bob blwyddyn.

Ond...er fy mod o ran egwyddor yn erbyn y teulu brenhinol a ballu, 'dw i ddim yn meddwl eu bod werth yr ymdrech. Beth bynnag, maent yn destun sbort defnyddiol os dim byd arall.

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 10:24 pm
gan Ffion1
Geraint a ddywedodd:Y peth dwi'n anghytuno efo'r teulu brenhinol yw fod nhw 'head of state' y wlad yma, Cymru. Os na fyddai hyn ar achos, ac mae ond teulu brenhinol i Loegr, yn llythrennol, fydde nhw, bydde ni ddim yn becso dam os yw nhw yn aros yno neu ddim.


Ia dwin cytuno efo hynna hefyd.

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 10:33 pm
gan RET79
Mae'r windsors yn OK. Fedra i feddwl am deuluoedd eraill ddylsai gael y chop cyn nhw.

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 10:35 pm
gan Dylan
paid a stopio fa'na RET. Enwau!

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 11:04 pm
gan Ffion1
RET79 a ddywedodd:Mae'r windsors yn OK. Fedra i feddwl am deuluoedd eraill ddylsai gael y chop cyn nhw.


Fi hefyd RET79!

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 11:06 pm
gan Ffion1
Dylan a ddywedodd:paid a stopio fa'na RET. Enwau!


Oes rhaid gofyn Dylan. Mae RET 79 yn gwybod pwy ydio!