Tudalen 2 o 13

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 11:07 pm
gan Ffion1
:rolio: chop, chop, chop RET 79!

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 11:10 pm
gan Dylan
:?:

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 11:22 pm
gan GT
Macsen a ddywedodd:Mae nhw'n dod a mwy o bres twristiaid mewn na mae nhw'n defnyddio.


Sut wyt ti yn gwybod? Oes gen ti dystiolaeth tros honni hyn?

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 11:23 pm
gan GT
RET79 a ddywedodd:Mae'r windsors yn OK. Fedra i feddwl am deuluoedd eraill ddylsai gael y chop cyn nhw.


Fel pwy?

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 5:33 pm
gan Cwlcymro
Mae nhw'n dod a mwy o bres twristiaid mewn na mae nhw'n defnyddio.


Fy hun dwi'm yn meddwl fod nhw'n dod a bron dim. Dosnam lot o Americanwyr a Ffrancwyr yn dod yma jusd i weld y teulu brenhinol, just 'added extra' ydio iddy nhw. Felly dwi'm yn meddwl fod na bron ddim o dwristiaid ychwanegol yn dod i'r wlad.
Ella fod nhw'n gwario mwy drwy brynnu soufeniyrs gachu o'r palas, ac yn talu i fynd mewn yna, ond fel ddudodd Dylan mi wnath y ffrancwyr dorri penna ei teulu brenhinol nhw i ffwrdd ganrifoedd yn ol, a ma na dal giw o dwristiaid tu allan i versailles.

Macsen, os ti'n deud fod nhw'n dod a pres i mewn, profa i fi fod na gymaint o ymwelwyr yn dod i Brydain achos y teulu Brenhinol i gyfiawnhau faint ma nhw'n cael ei talu gan y trethdalwr.

Dosna ddim pwynt iddy nhw, ma nhw'n wasd o bres, ma nhw'n atgof o amser lle roedd y cyfoethog yn cael cerdded dros gefnau'r tlawd a, i ddeud y gwir, ma'r criw presennol yn uffar o joc!

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 5:42 pm
gan Macsen
Cwlcymro a ddywedodd:Macsen, os ti'n deud fod nhw'n dod a pres i mewn, profa i fi fod na gymaint o ymwelwyr yn dod i Brydain achos y teulu Brenhinol i gyfiawnhau faint ma nhw'n cael ei talu gan y trethdalwr.


Mi af i allan i ganol Llundain gyda fy clipboard o fewn yr awr. :winc:

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 5:55 pm
gan Cwlcymro
gwd man!

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 6:58 pm
gan GT
Macsen a ddywedodd:Mae nhw'n dod a mwy o bres twristiaid mewn na mae nhw'n defnyddio.


Pan mae'r tylwyth Macsen yn eistedd o gwmpas y bwrdd yn edrych ar lenyddiaeth gwyliau ym mis Ionawr neu Chwefror yn cynllunio ar gyfer eu gwyliau ydi'r sgwrs yn mynd rhywbeth fel hyn?

Macsen 1 Beth am Sbaen?

Macsen 2 Ia, swnio'n iawn i fi, mae yna frenin yn fana.

Macsen 1 Ffrainc?

Macsen 3 No we, mae'r lle yn crap - dim brenin ar gyfyl y lle.

Macsen 1 Saudi Arabia?

Macsen 2 Ia ella, mae yna uffar o frenin da yn y fan yna.

Etc, etc.

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 7:44 pm
gan Lowri Fflur
RET79 a ddywedodd:Mae'r windsors yn OK. Fedra i feddwl am deuluoedd eraill ddylsai gael y chop cyn nhw.


Felly dwi' n cymud dy fod di yn adnabod y windsors yn bersonol ret?

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ebr 2004 2:31 pm
gan Stewart Carson
hoffwn weld y Teulu Brenhinol yn gwario rhywfaint o'u harian mawr ar adnewyddu Castell Caernarfon fel gwesty, gan ddod yno'i aros am rhyw fis pob haf, a'i rentu allan fel gwesty gweddill y flwyddyn (y rhent i fynd at gronfa prynu chwaraewyr Gnarfon Town) - byddai'n hwb i dwristiaeth a'r dref yn gyffredinol. byddem yn gallu datblygu Maes Awyr Rhyngwladol Dafydd Wigley yn Dinas Dinlle, a blingo'r holl Iancs a'r Tsieiniaid fydda'n siwr o lanio

ni ddylid rhoi mwy o arian cyhoeddus i'r Teulu Brenhinol - mae ganddyn nhw ffortiwn yn barod - gadewch iddyn nhw ei wario - mae'n warthus clywed pobol unllygeidiog fel RET79 yn cwyno am bobloedd yn sbynjo ar y system, ond eto'n gweld dim o'i le gyda'r Windsors - sef y twyllwyr budd-dal gwaethaf yn hanes y byd.

mae'n joc fod y Frenhines yn cael ei henw ar sefydliadau o bwys fel Gwasanaeth Erlyn Y Goron, Carchardai Ei Mawrhydi a Byddin Ei Mawrhydi