Tudalen 13 o 13

PostioPostiwyd: Iau 06 Mai 2004 10:59 am
gan Macsen
Mr. Cwlcymro, syr; os fysai rywun yn dweud wrthat ti: "Dy ddewis di ydi o, ond os nad wyt ti'n cytuno a ni mi gei di y sack a mi wnawn ni ei wneud o beth bynnag." Ai dy ddewis di fysa fo wir wedyn?

Cwlcwymro a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod gan y Frenhines LOT mwy o siawns o newid meddwl Blair na chdi a fi Macsen.


Sdim llawer o bwynt dadlau am hyn am bo ni ddim yn gwybod beth yn union mae nhw'n trafod. Bosib mae am materion y Byd, bosib am be mae Leo bach eisiau am ei bemblwydd. Mi fyswn i'n dadlau'r latter, yn bersonnol. Mater o draddodiad ydyw yn bennaf, yn amlwg. Dwi'n siwr bod y PM wrth ei fodd yn rhoi' draed fyny unwaith yr wythnos.

PostioPostiwyd: Iau 06 Mai 2004 11:12 am
gan Cwlcymro
Gan nad ydi y Frenhines a Blair yn barod i ni fynd draw i'r palas a gwrando, fedra ni byth wybod yn iawn.
Ond ma'n ffaith fod Liz yn cymeryd llawer mwy o ddiddordeb yn ei llywodraeth na y rhan fwya o frenhinoedd o'i blaen, a mi yda ni'n clywed yn ddigon aml fod y Frenhines wedi deud ei barn am yr hyn neu'r llall wrth Blair.
Mi fyswn i yn eitha sypraisd os ti'n iawn ma siarad am Leo bach ma nhw bob wsos.

"Dy ddewis di ydi o, ond os nad wyt ti'n cytuno a ni mi gei di y sack a mi wnawn ni ei wneud o beth bynnag." Ai dy ddewis di fysa fo wir wedyn?

We swn i'm yn meddwl y bysa Blair yn deud hunna wrthi yli. Does gan Blair DDIM pwer dros y Frenhines. Yr unig ffordd fysai'n bosib iddo feddwl am roi'r 'sac' iddi fysa refferndwm, a hyd yn oed os fysa hwnnw o blaid rhoi sac iddi (a ma hynnu yn bell o fod yn sicrwydd) wedyn mi fysa'n rhaid i'r Frenhines gytuno i fynd, mi fysa dal yn basib iddi wrthod mynd a cario ymlaen i fod yn Fren hines (ond fel ddudis i, y siawns ydi y bysa hi'n derbyn refferendwm)

Fe gafodd Heath ei wneud yn Brif Weinidog er nad ei barti o oedd y mwyafrif (nath hynna ddim para'n hir, fe golapsiodd y senedd a mi oedd yn rhaid cael etholiad arall). Dewis y Brenin oedd hynnu.

PostioPostiwyd: Iau 06 Mai 2004 7:04 pm
gan RET79
Dwi'n hapus hefo'r cyfansoddiad sef fod gan dy'r arglwyddi a'r Frenhines y pwer i dynnu'r plwg petai'r gwleidyddion yn gwneud rhywbeth cwbl wallgof.

PostioPostiwyd: Iau 06 Mai 2004 7:07 pm
gan GT
RET79 a ddywedodd:Dwi'n hapus hefo'r cyfansoddiad sef fod gan dy'r arglwyddi a'r Frenhines y pwer i dynnu'r plwg petai'r gwleidyddion yn gwneud rhywbeth cwbl wallgof.


Pwy sy'n dweud bod rhaid i'r hyn a wneir fod yn wallgo cyn i'r plwg gael ei dynnu? Pwy sy'n diffinio beth sy'n wallgo?

PostioPostiwyd: Iau 06 Mai 2004 7:09 pm
gan RET79
GT a ddywedodd:
Pwy sy'n dweud bod rhaid i'r hyn a wneir fod yn wallgo cyn i'r plwg gael ei dynnu? Pwy sy'n diffinio beth sy'n wallgo?


Gen i fwy o ffydd yn Liz i roi y stop ar rywbeth gwallgo na lot fawr o'r pobl sy'n erbyn y teulu brenhinol.

PostioPostiwyd: Iau 06 Mai 2004 7:15 pm
gan GT
RET79 a ddywedodd:
GT a ddywedodd:
Pwy sy'n dweud bod rhaid i'r hyn a wneir fod yn wallgo cyn i'r plwg gael ei dynnu? Pwy sy'n diffinio beth sy'n wallgo?


Gen i fwy o ffydd yn Liz i roi y stop ar rywbeth gwallgo na lot fawr o'r pobl sy'n erbyn y teulu brenhinol.


Mae llawer o'i chyn dadau wedi bod yn hollol boncyrs. Jest deud bod y ddynas yma efo ychydig mwy na'r cyfryw o synnwyr cyffredin (a does ganddi hi ddim), beth am ei mab - mae o'n siarad efo'i nionod. Oes gen ti ffydd ynddo fo?

PostioPostiwyd: Gwe 07 Mai 2004 10:38 am
gan Cwlcymro
Dwi'n hapus hefo'r cyfansoddiad sef fod gan dy'r arglwyddi a'r Frenhines y pwer i dynnu'r plwg petai'r gwleidyddion yn gwneud rhywbeth cwbl wallgof.


Actyli RET sgen Ty'r Argwyddi ddim y fath hawl. Os ydi'r gwleidyddion isho deddf ddigon i bigo ffeit, mi allw nhw ddefnyddio'r Parliament Acts i'w fforsho fo drwodd, dim ots be ma Ty'r Argwyddi yn ei ddeud.

Mae llawer o'i chyn dadau wedi bod yn hollol boncyrs. Jest deud bod y ddynas yma efo ychydig mwy na'r cyfryw o synnwyr cyffredin (a does ganddi hi ddim), beth am ei mab - mae o'n siarad efo'i nionod. Oes gen ti ffydd ynddo fo?

Yn hollol. O leia ma Liz yn dalld y dalldings ac yn cadw ei phen lawr pan ma angan. Be uffar ddigwyddith i ni pan ma Clustiau Mawr yn dod yn frenin!

PostioPostiwyd: Sad 22 Mai 2004 9:35 am
gan Ray Diota
Macsen a ddywedodd:Mae nhw'n dod a mwy o bres twristiaid mewn na mae nhw'n defnyddio.


Cae dy geg. Sneb byth yn gweld y basdads. Y palasau a'r cestyll ma pobl yn dod i weld. Se nhw'n ca'l 'u saethu fory bydde'r atyniadau twristaidd dal yn sefyll.