Tudalen 3 o 13
Postiwyd:
Gwe 30 Ebr 2004 3:47 pm
gan cariadgweno
Macsen a ddywedodd:Mae nhw'n dod a mwy o bres twristiaid mewn na mae nhw'n defnyddio.
Basically dwi di clywed y ddadl hon o'r blaen t'wel. Ond ti'n gwbod does dim llawer o resonence iddi yn y marn i. To put it plainly t'wel fysa llawer o'r twristiaid sy'n dod i weld y teulu brenhinol yn dal i fynd i weld lle
oedd y teulu brenhinnol yn arfer bod. Caernarfon di'r unig le sy'n elwa o hyn yng Nghymru ond mae'n bwysig cofio bod dre yn World Heritage Site t'mod. Dwi'n siwr ysa nw yn dal yn pulling in the punters heb y royals.
Postiwyd:
Sad 01 Mai 2004 10:20 am
gan huwwaters
Chi'n trio deutha fi bod pobl ond yn dod i Loegr yn y gobaith fod nhw am gael paned o de gyda'r Frenhinas yn ei hardd gefn!?
Ma pobl yn dod i ymweld a'r lle, nid y bobl. Felly be di'r pwynt o'u cadw? I wastraffu mwy o bres?
Dwi'n meddwl dyle nhw cael pay-off a gadel nhw cael bywyd preifat eu hunain, heb haslo neb. Dwi'm yn meddwl fedrwch chi jyst stripio nhw o bopeth sydd ganddyn nhw.
Postiwyd:
Sad 01 Mai 2004 11:44 am
gan Cwlcymro
Fysai'n amhosib 'stripio nhw o bopeth' gan ma nhw su bia y rhan fwya o'r tai mawr ac ati (ia?) A beth bynnag, hyd yn oed os ti'n stopio rhoi pres trethdalwyr iddy nhw, ma nhw'n dal yn ennill miliyna pob blwyddyn mewn 'set-aside' gan fod ganddy nhw filoedd o aceri nad ydy nhw'n ei ddefnyddio i ffermio.
Postiwyd:
Sad 01 Mai 2004 12:02 pm
gan DAN JERUS
Ma'n gas gen i'r ffycyrs fy hun.Be ddiawl mae "Phil y groegiwr" yn wneud fel pennaeth y WWF ac yntau mor cin o ladd anifeiliaid? Sa well sa fo'n bennaeth ar y WWF reslo, a cael ffwc o gweir mewn spandex pob nos sadwrn gan rhyw hilbili hefo mullet
Postiwyd:
Sad 01 Mai 2004 1:43 pm
gan Eamon
Postiwyd:
Sad 01 Mai 2004 5:40 pm
gan nicdafis
Mae'n fwy tebyg y bydd Cymru yn ennill ei hannibynniaeth yn fy oes i na fydd y Saeson yn fodlon cael gwared รข'u hoff opera sebon. Rhoi'r gambo o flaen y ceffyl yw poeni gormod am fodolaeth y sefydliad honna. Dydy hynny ddim yn golygu y dylen ni eu croesawu yma fel wnaeth ddigwydd yn 1999 gyda agoriad y Cynulliad.
Postiwyd:
Sad 01 Mai 2004 10:20 pm
gan pogon_szczec
Mae 'tystiolaeth' Eamon yn dod o wefan 'wacko' cwlt Americanaidd, wedi'i sefydlu gan Lyndon LaRouche,
conspiracy theorist extraordinaire.
Mae'n nhw'n credu bod bywydau pawb yn y byd yn cael eu rheoli gan
Zionists yn cyd-weithio gyda
financiers Prydeinig.
Byddwn i'n meddwl bod eu syniadau yn rhy
bizarre hyd yn oed i gefnogwyr Sinn Fein, ond falle mod i'n rong.
Gwybodaeth am LaRouche:
http://www.publiceye.org/larouche/nclcmain.htmlDyfyniadau LaRouche
http://www.publiceye.org/larouche/nclc4.htmlEr enghraifft:
The Beatles were a product of British psychological warfare
Adolf Hitler was put into power in Germany on orders from London
Zionism is the state of collective psychosis through which London manipulates international Jewry
Postiwyd:
Sad 01 Mai 2004 10:29 pm
gan Lowri Fflur
Mae o' n gwilltio fi ein bod ni fel cymdeithas fod i edrach fynu ar y teulu yma fel bod nw' n well na pawb arall neu rhywbeth. Ag y peth gweuthaf ydi bod y pobl sy'n tueddu edrach fynu ar y teulu brenhinol ydi y pobl sydd yn tueddu edrach lawr ar llawer o bobl eraill mewn cymdeithas. Dwi ddim yn gallu gweld bod snobyddiaeth yn beth iach fel rhan o strwythyr cymdeithas neu fel arall.
Postiwyd:
Sad 01 Mai 2004 10:42 pm
gan RET79
Lowri, wyt ti wir ddim yn barnu na edrych lawr ar neb yn ein cymdeithas?
Postiwyd:
Sad 01 Mai 2004 10:43 pm
gan Lowri Fflur
RET79 a ddywedodd:Lowri, wyt ti wir ddim yn barnu na edrych lawr ar neb yn ein cymdeithas?
Dwi' n trio peidio.