Tudalen 4 o 13

PostioPostiwyd: Sad 01 Mai 2004 10:47 pm
gan RET79
lowri larsen a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Lowri, wyt ti wir ddim yn barnu na edrych lawr ar neb yn ein cymdeithas?


Dwi' n trio peidio.


:)

PostioPostiwyd: Sad 01 Mai 2004 10:53 pm
gan bartiddu
Hei linc Diddorol iawn Eamon!

Wyt yn gwbod am llyfr da hefo hanesion tebyg i hyn?

Dim ots da fi ddarllen erthyglau ar y we, ond ma setlo lawr da llyfr yn amser eich hunan medru bod yn haws ambell dro, a os ma llyfr i gael ar y pwnc yma, bydde'n diddorol iawn i'w feiddianu.

Diolch ta beth.

PostioPostiwyd: Sad 01 Mai 2004 10:55 pm
gan Lowri Fflur
Ond dwi' n teimlo bod strwythyr llawer o gymdeithasau wedi ei strwythuro mewn ffordd sy' n mynd i greu snobyddiaeth. Dwi' n meddwl bod rhaid newid hyn i ddod a pobl mwy agored i mewn i' r byd.

PostioPostiwyd: Sad 01 Mai 2004 11:15 pm
gan RET79
lowri larsen a ddywedodd:Ond dwi' n teimlo bod strwythyr llawer o gymdeithasau wedi ei strwythuro mewn ffordd sy' n mynd i greu snobyddiaeth. Dwi' n meddwl bod rhaid newid hyn i ddod a pobl mwy agored i mewn i' r byd.


Falle mai natur ddynol yw snobyddiaeth. Mae pawb yn snob rili.

PostioPostiwyd: Sul 02 Mai 2004 12:31 am
gan Ffion1
GT a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:Mae nhw'n dod a mwy o bres twristiaid mewn na mae nhw'n defnyddio.


Pan mae'r tylwyth Macsen yn eistedd o gwmpas y bwrdd yn edrych ar lenyddiaeth gwyliau ym mis Ionawr neu Chwefror yn cynllunio ar gyfer eu gwyliau ydi'r sgwrs yn mynd rhywbeth fel hyn?

Macsen 1 Beth am Sbaen?

Macsen 2 Ia, swnio'n iawn i fi, mae yna frenin yn fana.

Macsen 1 Ffrainc?

Macsen 3 No we, mae'r lle yn crap - dim brenin ar gyfyl y lle.

Macsen 1 Saudi Arabia?

Macsen 2 Ia ella, mae yna uffar o frenin da yn y fan yna.

Etc, etc.


Ti yn wirioneddol yn undonog!

PostioPostiwyd: Sul 02 Mai 2004 1:28 pm
gan GT
Ffion Larsen a ddywedodd:
GT a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:Mae nhw'n dod a mwy o bres twristiaid mewn na mae nhw'n defnyddio.


Pan mae'r tylwyth Macsen yn eistedd o gwmpas y bwrdd yn edrych ar lenyddiaeth gwyliau ym mis Ionawr neu Chwefror yn cynllunio ar gyfer eu gwyliau ydi'r sgwrs yn mynd rhywbeth fel hyn?

Macsen 1 Beth am Sbaen?

Macsen 2 Ia, swnio'n iawn i fi, mae yna frenin yn fana.

Macsen 1 Ffrainc?

Macsen 3 No we, mae'r lle yn crap - dim brenin ar gyfyl y lle.

Macsen 1 Saudi Arabia?

Macsen 2 Ia ella, mae yna uffar o frenin da yn y fan yna.

Etc, etc.


Ti yn wirioneddol yn undonog!


Paid a bod mor ddigywilydd! Dwi'n cymryd mai'r Stellas sydd yn siarad. Dydi o ddim yn syniad da cywasgu sesh iawn i'r awr rhwng 10 ac 11, ac yfed Stellas tra ti wrthi.

PostioPostiwyd: Sul 02 Mai 2004 1:43 pm
gan GT
nicdafis a ddywedodd:Mae'n fwy tebyg y bydd Cymru yn ennill ei hannibynniaeth yn fy oes i na fydd y Saeson yn fodlon cael gwared â'u hoff opera sebon. Rhoi'r gambo o flaen y ceffyl yw poeni gormod am fodolaeth y sefydliad honna. Dydy hynny ddim yn golygu y dylen ni eu croesawu yma fel wnaeth ddigwydd yn 1999 gyda agoriad y Cynulliad.


'Dwi ddim yn siwr fy mod yn cytuno a thi os wyt ti'n awgrymu bod poblogrwydd y teulu brenhinol yn rhywbeth parhaol. Maent wedi bod yn hynod o amhoblogaidd am llawer o'u hanes.

Cynigir gwahanol resymau tros eu parhad ar gwahanol adegau - ers talwm Duw oedd i fod wedi rhoi'r job iddynt. Yn ddiweddar cafwyd pob math o esgusion - rhai ohonynt yn swnio'n wag neu hyd yn oed yn desperate - yn y 60au a'r 70au cafwyd mantra eu bod yn esiampl da o fywyd teuluol hapus (!), yn ddiweddarach cafwyd dadl mai'r teulu hwn oedd yr unig beth oedd yn sefyll rhyngom a'r ddrychiolaeth erchyll o 'President Kinnock', ac wrth gwrs mae yna'r gorffwylldra Macsenaidd bod y teulu brenhinol yn gydadran hanfodol o'r diwydiant twristiaid.

Yn y pen draw gwag ydi'r stwff yma; ac os ydi rhywun yn sefyll yn ol ac yn meddwl am y cysyniad - bod disgwyl i'r wladwriaeth gynnal unigolyn a'i holl deulu mewn moethusrwydd grotesque, ariannu cynnal faint bynnag ydi o, o balesi, talu am ymweliadau tramor di ddiwedd iddynt, ac hyn i gyd ar sail eu bod yn perthyn i rhyw deulu neu gilydd, dydi pethau ddim yn gwneud llawer o synnwyr.

PostioPostiwyd: Llun 03 Mai 2004 12:13 am
gan Lowri Fflur
Na dydi o ddim yn gwneud dim synnwyr o gwbl i mi chwaith. Mae pobl adain dde yn tueddu cwynno am bobl sydd yn derbyn cymorth ariannol gan y ladwriaeth ac yn aml mae y bobl sy' n derbyn cymorth ariannol wirioneddol angen ac yn heuddu hyn. Tra ar yr un pryd maent yn edrach ar y teulu brenhinol drwy lygaid hollol wahanol er eu bod yn cymud llwyth o arian gan y bobl sy' n talu trethi. Fel bod ganddynt ryw hawl enedig i gael pres a statws ar blat- FFOC OFF BE SY' N GWNEUD NW' N WELL NA UNRYW UN ARALL?

PostioPostiwyd: Llun 03 Mai 2004 9:49 am
gan Cwlcymro
Na dydi o ddim yn gwneud dim synnwyr o gwbl i mi chwaith. Mae pobl adain dde yn tueddu cwynno am bobl sydd yn derbyn cymorth ariannol gan y ladwriaeth ac yn aml mae y bobl sy' n derbyn cymorth ariannol wirioneddol angen ac yn heuddu hyn. Tra ar yr un pryd maent yn edrach ar y teulu brenhinol drwy lygaid hollol wahanol er eu bod yn cymud llwyth o arian gan y bobl sy' n talu trethi. Fel bod ganddynt ryw hawl enedig i gael pres a statws ar blat- FFOC OFF BE SY' N GWNEUD NW' N WELL NA UNRYW UN ARALL?


mwya o sens ti di ddeud erioed Lowri!

PostioPostiwyd: Llun 03 Mai 2004 11:26 am
gan Ffinc Ffloyd
Cwlcymro a ddywedodd:
Mae nhw'n dod a mwy o bres twristiaid mewn na mae nhw'n defnyddio.


Fy hun dwi'm yn meddwl fod nhw'n dod a bron dim. Dosnam lot o Americanwyr a Ffrancwyr yn dod yma jusd i weld y teulu brenhinol, just 'added extra' ydio iddy nhw. Felly dwi'm yn meddwl fod na bron ddim o dwristiaid ychwanegol yn dod i'r wlad.
Ella fod nhw'n gwario mwy drwy brynnu soufeniyrs gachu o'r palas, ac yn talu i fynd mewn yna, ond fel ddudodd Dylan mi wnath y ffrancwyr dorri penna ei teulu brenhinol nhw i ffwrdd ganrifoedd yn ol, a ma na dal giw o dwristiaid tu allan i versailles.

Macsen, os ti'n deud fod nhw'n dod a pres i mewn, profa i fi fod na gymaint o ymwelwyr yn dod i Brydain achos y teulu Brenhinol i gyfiawnhau faint ma nhw'n cael ei talu gan y trethdalwr.

Dosna ddim pwynt iddy nhw, ma nhw'n wasd o bres, ma nhw'n atgof o amser lle roedd y cyfoethog yn cael cerdded dros gefnau'r tlawd a, i ddeud y gwir, ma'r criw presennol yn uffar o joc!


Ddus man, hi sbics ddy trwth.