Tudalen 6 o 13

PostioPostiwyd: Llun 03 Mai 2004 7:24 pm
gan Dylan
Macsen a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:Mae oblygiadau gwleidyddol i fodolaeth y frenhiniaeth. Ond fel 'dw i wedi ei bwysleisio droeon, 'dydw i ddim yn teimlo'n gryf iawn am y mater yma o gwbl felly paid a phigo arna' i yn bennodol.


Ond mae'n hwyl. Does na'm wir oblygiadau gwleidyddol i bwerau'r frenhiniaeth ers... canoedd o flynyddoedd. Oce, rhaid i'r frenhines roi'r thumbs up i ambell ddogfen, ond mae o fewn pwerau y llywodraeth i anwybyddu lle mae'r bawd yn pwyntio. 'For show' dio gyfan.


Nid i'r broses wleidyddol fel y cyfryw, ond symbolaeth wleidyddol

PostioPostiwyd: Llun 03 Mai 2004 7:31 pm
gan RET79
Ti isio cnocio lawr castell Caernarfon hefyd Dylan? Symbol o Frenhiniaeth tydi?

PostioPostiwyd: Llun 03 Mai 2004 7:33 pm
gan Dylan
ydi wir. Symbol o opresiwn gan y Saeson! (ys dywed y Tystion)

PostioPostiwyd: Llun 03 Mai 2004 7:40 pm
gan RET79
Dylan a ddywedodd:ydi wir. Symbol o opresiwn gan y Saeson! (ys dywed y Tystion)


Felly ti isio ei gnocio fo lawr? Os buaset ti yn faer Caernarfon fuaset ti'n gorchymyn ei gnocio lawr Dylan?

PostioPostiwyd: Llun 03 Mai 2004 7:42 pm
gan Macsen
Dwi'm yn credu fod CC yn symbol o opresiwn yn saeson mwyach. Mwy fel magnet twristiaeth lucrative.

PostioPostiwyd: Llun 03 Mai 2004 7:42 pm
gan Dylan
yn amlwg na

PostioPostiwyd: Llun 03 Mai 2004 7:43 pm
gan RET79
Dylan a ddywedodd:yn amlwg na


pam ddim Dylan?

PostioPostiwyd: Llun 03 Mai 2004 7:44 pm
gan GT
RET79 a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:Nid dyna'r ddadl. Mae teuluoedd brenhinol yn sefydliadau hurt a hen-ffasiwn, seremoni neu beidio.


... ond os yw nhw'n gwneud arian i'r wlad beth yw'r ots?


Os na gneud pres ydi'r pwynt, beth am fod yn agored am hynny? Wedyn byddai'r ffordd y byddai'r Teulu Brenhinol yn gweithredu yn dra gwahanol. Byddent 'ar gael' yn amlach, byddai eu palesi enfawr ar agor i'r cyhoedd, byddai'r cyhoedd yn cael gweld y casgliad lluniau enfawr (sydd i fod yn perthyn i'r wladwriaeth, ond nad oes neb yn cael ei weld), ni fyddai'n rhaid cyflogi'r holl aelodau 'ymylol' o'r teulu na fyddai yn cyfranu i'r sioe fawr.

Wedi meddwl, mae'n debyg y byddet yn denu mwy o dwristiaid petaet yn sacio'r cwbl, gwerthu y cyfran o'u heiddo sy'n perthyn i'r wladwriaeth go iawn, ac yn agor Parc Thema o safon rhyngwladol efo'r elw (Beth am 'Royal Park?')

PostioPostiwyd: Llun 03 Mai 2004 7:45 pm
gan Dylan
'Di o ddim yn amlwg?

1) Mae'n hanesyddol bwysig
2) Mae'n boblogaidd iawn gyda twristiaid
3) "'Dw i ddim yn teimlo'n gryf iawn ar y mater" (x58043)
4) Mae o'n gastell rili ffycing cwl

PostioPostiwyd: Llun 03 Mai 2004 7:47 pm
gan Dylan
GT a ddywedodd: Wedi meddwl, mae'n debyg y byddet yn denu mwy o dwristiaid petaet yn sacio'r cwbl, gwerthu y cyfran o'u heiddo sy'n perthyn i'r wladwriaeth go iawn, ac yn agor Parc Thema o safon rhyngwladol efo'r elw (Beth am 'Royal Park?')


hollol. Gweler Versailles.