Cwlcymro a ddywedodd:Dydi'r teulu brenhinol ddim yn dod a mwy o bres mewn na ma nhw yn ei gael. Hyd yn oed os y bysa nhw, swn i dal yn ei herbyn. Dadl y monarchist ydi 'ma nhw'n gwneud pres', trio gwrthbrofi hynny yda ni.
Wel ti heb wrthbrofi hynna o gwbl. Ti wedi gwneud datganiad ysgubol fod y teulu brenhinol ddim yn dod a mwy o bres na ma nhw'n ei gael. Tystiolaeth a ffynhonell plis.
Diddorol gweld cymaint o'r 'Royal town of Caernarvon' yn erbyn y teulu brenhinol. Bob tro mae'r teulu brenhinol yn ymweld a Chaernarfon mae pobl di ri allan yn y stryd yn chwifio jac yr undeb. Anodd gen i gredu fod cofis maes-e yn siarad dros eu tref.