Wedi derbyn llyhtyr personol gan Meical Howard?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Wedi derbyn llyhtyr personol gan Meical Howard?

Postiogan Rhys » Iau 29 Ebr 2004 1:58 pm

Derbynnais i a fy nghariad lythyr (uniaith Saesneg :rolio: ) bob un dydd Sadwrn diwethaf yn ein henwau ni ein hunain. Roedd rhen Howard yn ymddiheuro ei fod wedi gorfod cael fy enw o'r rhestr etholiad. Dwi'n cofio ticio bocs pan yn cofrestru yn dweud nado oeddwn yn dymuno i fy manylion gael eu rhannu gyda eraill ac roeddwn i'n cymeryd y byddai hynny'n ymestyn at bleidiau gwleidyddol.
Byddwn wedi bod yr un mor pissed off petai wedi dod gan unthyw blaid arall, ddim jyst am mae gan y Ceidwadwyr ydoedd. Oes rhywun arall wedi derbyn un, yntai mond Cyngor Caerdydd sy'n rhoi manylion eu hetholwyr allan i unrhywun?
Dwi'n bwriadu cwyno i'r Cyngor oherwydd credaf bod hyn yn groes i Ddeddf Data protection, oes ddim mae'n wast o bapur o leiaf. Hefyd mae taflen ynddo i'w dychwelyd er mwyn cofrestru trwy'r post ac amlen rhad post i'w ddychwelyd. Mae'r daflen yn edryvh yn un swyddogol, ond mewn gwirionedd un mae'r blaid doriaedd wedi ei lunio ydyw er mwyn i chi rannu mewy o wybodaeth gyda nhw :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan S.W. » Iau 29 Ebr 2004 2:09 pm

Dwi'n cofio derbyn llythyr tebyg gan Hague pan oeddwn i yn y Coleg yn Aberystwyth. Mae nhw'n edrych yn swydogol iawn, mae'r CPHQ (Conservative Pary Headquarters) ar gyfeiriad ar gefn yr amlen yn giveaway hefyd.

Dwin cofio cael rhyw 2-3 ar adegau gwahanol. Be wnes i oedd scriblo drosto be oeddwn in ei feddwl o'r Ceidwadwyr a'r diffyg Cymraeg a'i anfon yn nol rhadbost felly roedd yn rhaid i nhw dalu i ddarllen fy sylwadau i!

8)
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Geraint » Iau 29 Ebr 2004 2:32 pm

Ges i un bore ma. cont-syrfatifs.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 29 Ebr 2004 2:35 pm

Byddwch falch nag y'ch chi'n byw yng Nghathays. Y Democratiaid Rhyddfrydol yw hi o fore gwyn tan nos. SPLITTERS!

Gwych o beth yw anfon negeseuon y Cont-serf-atives yn ol atynt gan ateb 'Ble mae'r Gymraeg?' i bob cwestiwn... Mae pob dim maen nhw'n ei anfon yn UNIAITH SAESNEG! Sydd ychydig yn waeth na chyfieithu'r Splitters... :rolio:
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Garnet Bowen » Iau 29 Ebr 2004 3:07 pm

Rhys,
Os wyt ti'n siwr dy fod ti wedi ticio'r bocs priodol, yna mae'r Toriaid wedi tori rheolau etholiadol. Cwyna yn swyddogol.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Rhys » Iau 29 Ebr 2004 3:49 pm

100% yn siwr.
Dwi'n fwy blin gyda'r Cyngor na'r Ceidwadwyr, er os ydyn nhw wedi torri rheolau byddai'n siwr o gwyno. Siawns nad ydynt yn ymwybodol o'r rheolau. Mwy na thebyg yn ymwybodol o'r rheolau ac yn dewis eu hanwybyddu fel plaidiau eraill :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Barbarella » Iau 29 Ebr 2004 3:53 pm

Pawb yn ty ni wedi cael y llythyr hefyd. Dwi ddim yn cofio blwch ar y ffurflen gofrestru i nodi nad o'n i eisiau rhannu fy manylion efo pobl eraill, a dwi fel arfer yn neud yn siwr mod i'n ticio pethau felly.

Ond fydden i'n meddwl mai cwmnïau masnachol oedden nhw'n feddwl -- o be dwi'n cofio, mae'n iawn i bleidiau ddefnyddio'r gofrestr etholiadol felna.
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan RET79 » Iau 29 Ebr 2004 4:49 pm

Trafodaeth wych, beth am ymosod record Gymreig y blaid ddoth a'r ddeddf iaith, cwricwlwm cymraeg a'n sianel Gymraeg i ni.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Chwadan » Iau 29 Ebr 2004 4:52 pm

O RET, paid a trolio nei di :rolio:

Rhys a ddywedodd:Byddwn wedi bod yr un mor pissed off petai wedi dod gan unthyw blaid arall, ddim jyst am mae gan y Ceidwadwyr ydoedd.

Ti'n gwbod yn iawn mai trafodaeth am warchod data di hon, dio'm byd i neud efo'r Ceidwadwyr (er fod na neb yn licio nhw blaw ti :winc:)
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan GT » Iau 29 Ebr 2004 4:52 pm

RET79 a ddywedodd:Trafodaeth wych, beth am ymosod record Gymreig y blaid ddoth a'r ddeddf iaith, cwricwlwm cymraeg a'n sianel Gymraeg i ni.


Hon ydi'r blaid oedd yn erbyn sefydlu'r Swyddfa Gymreig, ac oedd mor wrthwynebus i ganiatau datganoli i Gymru fel nad oeddynt hyd yn oed yn fodlon i bobl Cymru gael unrhyw ddewis yn y mater.
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 35 gwestai

cron