Derbynnais i a fy nghariad lythyr (uniaith Saesneg ) bob un dydd Sadwrn diwethaf yn ein henwau ni ein hunain. Roedd rhen Howard yn ymddiheuro ei fod wedi gorfod cael fy enw o'r rhestr etholiad. Dwi'n cofio ticio bocs pan yn cofrestru yn dweud nado oeddwn yn dymuno i fy manylion gael eu rhannu gyda eraill ac roeddwn i'n cymeryd y byddai hynny'n ymestyn at bleidiau gwleidyddol.
Byddwn wedi bod yr un mor pissed off petai wedi dod gan unthyw blaid arall, ddim jyst am mae gan y Ceidwadwyr ydoedd. Oes rhywun arall wedi derbyn un, yntai mond Cyngor Caerdydd sy'n rhoi manylion eu hetholwyr allan i unrhywun?
Dwi'n bwriadu cwyno i'r Cyngor oherwydd credaf bod hyn yn groes i Ddeddf Data protection, oes ddim mae'n wast o bapur o leiaf. Hefyd mae taflen ynddo i'w dychwelyd er mwyn cofrestru trwy'r post ac amlen rhad post i'w ddychwelyd. Mae'r daflen yn edryvh yn un swyddogol, ond mewn gwirionedd un mae'r blaid doriaedd wedi ei lunio ydyw er mwyn i chi rannu mewy o wybodaeth gyda nhw