Cytuno Ffion - weloch chi Amser Cwestiynu neithiwr? Gyda Simon Thomas AS, Rhona Cameron comedienne, Norman Enllibiwr Tebbitt, rhyw Sheikh a Barwnes Amos Llafur. Byddai Phoney Bliar mas fory petai ni'n dilyn yr ymateb ar y rhaglen hwnnw.
Glywoch chi enllyb Tebbitt? Ar bwnc immigration, a gweud nath e bod yn rhaid bod yn ofalus os yn Sais sy'n symud i orllewin Cymru (cadarnleoedd Plaid), a shwd ma posib i'r Blaid gytuno gydag Ewrop a nhwythe'n sepratists? Ymatebodd boi o'r gynulleidfa nol yn dda ar bwynt cardie adnabod, y gallwn felly yng Nghymru gadw golwg ar y Saeson sy'n dod draw, ond dim pwynt i ni eu cael, oherwydd y daffodils, cennin, defaid a glo sydd yn profi mai Cymry ym ni! Nododd fod beth wedodd y dic yn yr un league a choments y BNP (bu sgwrs am hynny yn gynharach hefyd). Seren o ddyn odd y boi 'na
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.