Tudalen 1 o 1

WMD

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 9:54 pm
gan Ffion1
Gwir ystyr WMD Blair ydi: Words of Mass Deception. Cytuno?

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 10:01 pm
gan Macsen
Edefynion ar y topic o Iraq sy'n rhedeg yn barod:

1

2

3

4

5

A rheini ydi'r rhai sy'n delio'n benodol ac Iraq yn unig, er fod nifer eraill wedi cyffwrdd ar ur un dadleuon. Does dim angen edefyn arall ar y pwnc.

*Wedi Cloi*

[Edit: Shit, dw i ddim yn weinyddwr, nadw. *Slapio pen*]

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ebr 2004 1:13 pm
gan Gowpi
Cytuno Ffion - weloch chi Amser Cwestiynu neithiwr? Gyda Simon Thomas AS, Rhona Cameron comedienne, Norman Enllibiwr Tebbitt, rhyw Sheikh a Barwnes Amos Llafur. Byddai Phoney Bliar mas fory petai ni'n dilyn yr ymateb ar y rhaglen hwnnw.
Glywoch chi enllyb Tebbitt? Ar bwnc immigration, a gweud nath e bod yn rhaid bod yn ofalus os yn Sais sy'n symud i orllewin Cymru (cadarnleoedd Plaid), a shwd ma posib i'r Blaid gytuno gydag Ewrop a nhwythe'n sepratists? Ymatebodd boi o'r gynulleidfa nol yn dda ar bwynt cardie adnabod, y gallwn felly yng Nghymru gadw golwg ar y Saeson sy'n dod draw, ond dim pwynt i ni eu cael, oherwydd y daffodils, cennin, defaid a glo sydd yn profi mai Cymry ym ni! Nododd fod beth wedodd y dic yn yr un league a choments y BNP (bu sgwrs am hynny yn gynharach hefyd). Seren o ddyn odd y boi 'na :!:

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ebr 2004 5:53 pm
gan nicdafis
Macsen a ddywedodd:*Wedi Cloi*

[Edit: Shit, dw i ddim yn weinyddwr, nadw. *Slapio pen*]


Nag wyt, ond ti'n seicig.