RET79 a ddywedodd:Roeddwn i'n anghywir, ond roedd Barbarella yn fwy anghywir.
ma hwna'n swnio fel rhywbeth byddai plentyn ysgol yn ei ddweud, a tithau'n cyhuddo eraill o iselhau ton yr edefyn.
RET79 a ddywedodd:Yn ol y son yn y gymuned hoyw, mae 1 ym mhob 3 yn HIV+.
Tystiolaeth? Lle glywais di hyn yn y gymuned hoyw? Nid yw un dyn yn 'gymuned hoyw'. Dyma dy dro di i ddod a rhywfaint o asgwrn cefn i dy ddadl. Rhyfedd dy fod yn defnyddio'r "gymuned hoyw" fel ffynhonnell ond mor amharod i dderbyn tystiolaeth o du gwefannau hoyw gan bobl eraill.
RET79 a ddywedodd:Krusty, ti'n fy nghyhuddo o gael atgasedd? Pam? Lle mae dy dystiolaeth o hyn.
RET79 a ddywedodd:Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Ti jyst yn ffycd up yn dy ben.
... ond ddim digon ffycd up i fethu deall deddfau natur, dwi'n falch o ddweud.
rwyt ti'n honni fod bod yn hoyw'n annaturiol. yn bersonol, rwy'n gweld hyn yn beth hollol sarhaus i feddwl.
os byddai rhywun yn dweud hyn i fy wyneb, byddwn yn gadael yr ystafell yn ddi-os.
Ocê te, nai aileirio fy nghwestiwn.
Mae'n amlwg i bawb sydd wedi cyfrannu i'r edefyn fod rhywfaint o deimladau negyddol gennyt yn erbyn pobl hoyw.
A fyddet mor garedig ag egluro beth sydd wrth wraidd y teimladau hyn, hynny yw, pam fod yr agwedd hon gennyt ti?
Diolch.