Tudalen 1 o 6

Thatcher

PostioPostiwyd: Mer 05 Mai 2004 1:52 pm
gan Stewart Carson
chwarter canrif ers ethol Margaret Thatcher - oedd hi'n dda neu'n ddrwg i Ynysoedd Prydain?

PostioPostiwyd: Mer 05 Mai 2004 2:08 pm
gan Macsen
Delwedd

PostioPostiwyd: Mer 05 Mai 2004 10:02 pm
gan pogon_szczec
ARWRES !!!

PostioPostiwyd: Mer 05 Mai 2004 10:10 pm
gan RET79
Ar y cyfan fe wnaeth hi waith da. Fe wnaeth hi adael y wlad mewn gwell stad nac yr oedd pan ddaeth hi i fewn yn 1979.

PostioPostiwyd: Iau 06 Mai 2004 4:52 pm
gan GT
Pwy ydi hi?

Thatcher

PostioPostiwyd: Iau 06 Mai 2004 5:05 pm
gan Cymro13
Ma Prydain dal yn trio clirio i fynu y mess naeth Thatcher ee Ewrop ac yn y blaen a'r Blaid Geidwadol mewn uffar o fess o achos hynny
So mae'n dibynnu o ba ongl ydych chi'n edrych arno fe

PostioPostiwyd: Iau 06 Mai 2004 5:11 pm
gan Meiji Tomimoto
RET79 a ddywedodd:Ar y cyfan fe wnaeth hi waith da. Fe wnaeth hi adael y wlad mewn gwell stad nac yr oedd pan ddaeth hi i fewn yn 1979.

Dwi'n cofio ryw hen lo^wr yn deud ar y teli 'fod hi di neud mwy o niwed i gymunedau glofa^ol y de na'r lufftwaffer yn ysdod yr ail ryfel byd.
Dwi'n cytuno.
Dwi'n cofio cachu brics pan oedd Reagan a hi wrthi'n taflu eu pwysa. Os oedden nhwn profi'r seirens "Air Raid" - (4 minute warning) pan o'n i'n ysgol, o'n i'n colli hi'n llwyr - fu raid i mam ddod i nol fi o'r ysgol unwaith am fod i mor ofn.
A nath hi ddwyn fy llefrith i.
Doedd cyfnod ei theurnasiad ddim yn adag neis i dyfu fyny.

PostioPostiwyd: Gwe 07 Mai 2004 12:31 am
gan Lowri Fflur
A edrych beth mae hi wedi ei greu "Thatcher' s children". Mae nw i weld yn bob man -ag yn edrach mor gyffyrddus yn ei siwtiau mae o' n dychrun rhiwyn.

PostioPostiwyd: Gwe 07 Mai 2004 12:33 am
gan RET79
lowri larsen a ddywedodd:A edrych beth mae hi wedi ei greu "Thatcher' s children". Mae nw i weld yn bob man -ag yn edrach mor gyffyrddus yn ei siwtiau mae o' n dychrun rhiwyn.


gen i fwy o broblem hefo'r rheiny sydd yn gwisgo tracksuits yn gyffredinol

PostioPostiwyd: Gwe 07 Mai 2004 12:41 am
gan Lowri Fflur
Dydi hynu ddim yn fy synnu i RET. Y bobl goman na ar ymylon cymdeithas de :rolio: