Meiji Tomimoto a ddywedodd:Dwi'n cofio ryw hen lo^wr yn deud ar y teli 'fod hi di neud mwy o niwed i gymunedau glofa^ol y de na'r lufftwaffer yn ysdod yr ail ryfel byd.
Dwi'n cytuno.
Ond wrth edrych yn ol, roedd y glowyr wedi rhoi eu hunain mewn i twll gyda hynny. Roedd yna 'chydig o fai ar arweinwyr y glowyr megis Arthur Scargill am hynny. Ond dyna rhywbeth ar gyfer edefyn arall.
Mae na lawer o bobl wedi dadlu mai bai Thatcher oedd i greu cymdeithas llawer mwy hunanol. Ond yn marn personol yw bod datblygiad yr unigolyn a hunanoldeb yn y cymdeithias wedi cychwyn yn 60au. Beth oedd Thatcher yn credu mewn oedd yr ethic protestanaidd oedd weithio'n galed, fod yn hunan gynhaliol a yn barod i gyfrannu i'r gymuned leol.
Mae na lawer o bobl yn meddwl bod pobl fel yr 'Yuppies' oedd esiampl gwych o Thachteriaeth. Ond dwi anghytuno gyda hynny, roedd yr 'Yuppies' yn sefyll am 'conpicious consumption'. Ond roedd nhw yn gwbl groes i ethics Thatcher.
Ond un peth dwi wedi casau am Tatcher oedd ei pharodrwydd i ddinistrio'r perthynas gyda EU. MI chafodd Prydain ei niweidio'n arw oherwydd hynny.