RET79 a ddywedodd:Bois, dwi eisiau ychydig o sbort yn y cwmni yma cyn gadael mewn pythefnos. Falle wnaf yrru e-bost at HR yn egluro fod gen i dystiolaeth yn gwneud hwyl ar fy mhen am fy mod yn Gymro yn ymwneud a defaid. Yn ogystal, mae polisi dillad y cwmni yn fy marn i yn discriminatio yn erbyn dynion - dwi wedi cael fy ngorfodi i wisgo tei a cau'r botwm top, tra mae merched yn y cwmni yn gwisgo bob math o tops casual hafaidd. Dwi wedi e-bostio gender champion y cwmni hyd at 12 mis yn ol yn dweud mod i'n teimlo fod y dress code ddim yn ffitio yn gyffyrddus yn fy marn i a'u policy equal opps. Yr unig beth wnaeth y 'gender' champion yma oedd smallio fod hi am basio'r query i HR. Does dim wedi ei wneud am hyn hyd heddiw ar ol 3 neu 4 e-bost gen i ar y mater. Dwi'n cysidro cynnal protest bersonol unwaith eith y notice i fewn o beidio cae fy motwm top, neu os gaiff hwnna ddim digon o sylw wnaf weithio heb y tei. 'Back office' yw fy adran i, dyw ni byth yn cyfarfod y cwsmeriaid ac anaml iawn rydym ni'n cael cyfarfodydd ffurfiol, felly beth yw'r broblem?
Eich sylwadau plis.
OFN! Ti ydi y boi yma felly?!