Jocs defaid am y Cymry - hiliol?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cwlcymro » Gwe 07 Mai 2004 11:00 am

Ma genina gefnderoedd a chyfnithar o Loegr hefyd ceri. Chwara teg iddo fo am ddeud hynny mewn cwrt oni'n feddwl, os na dyna oedd ei farn o, pam trio ei guddio fo de! (Bechod fod o mor wirion ddo, sa chdi'n meddwl fysa fo'n checio os na Sais oedd y boi gynta!)
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dielw » Gwe 07 Mai 2004 11:10 am

Y ffordd gore i ddelio fo pethe fel hyn ydi trio sortio fo allan rhyngddo ti a'r boi arall gynta cyn mynd a fo mlaen ymhellach.

Chydig o synnwyr cyffredin de?

Wedi deud hynny, nath un o rheolwyr gwaith dechre neud swn dafad arna fi ar noson allan a fy ymateb yn anffodus oedd trio dyrnu'r boi. Rwan mae o'n dawel o gwmpas fi, byth yn gofyn i fi neud dim gwaith iddo fo :lol:
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan RET79 » Gwe 07 Mai 2004 11:22 am

Bois, dwi eisiau ychydig o sbort yn y cwmni yma cyn gadael mewn pythefnos. Falle wnaf yrru e-bost at HR yn egluro fod gen i dystiolaeth yn gwneud hwyl ar fy mhen am fy mod yn Gymro yn ymwneud a defaid. Yn ogystal, mae polisi dillad y cwmni yn fy marn i yn discriminatio yn erbyn dynion - dwi wedi cael fy ngorfodi i wisgo tei a cau'r botwm top, tra mae merched yn y cwmni yn gwisgo bob math o tops casual hafaidd. Dwi wedi e-bostio gender champion y cwmni hyd at 12 mis yn ol yn dweud mod i'n teimlo fod y dress code ddim yn ffitio yn gyffyrddus yn fy marn i a'u policy equal opps. Yr unig beth wnaeth y 'gender' champion yma oedd smallio fod hi am basio'r query i HR. Does dim wedi ei wneud am hyn hyd heddiw ar ol 3 neu 4 e-bost gen i ar y mater. Dwi'n cysidro cynnal protest bersonol unwaith eith y notice i fewn o beidio cae fy motwm top, neu os gaiff hwnna ddim digon o sylw wnaf weithio heb y tei. 'Back office' yw fy adran i, dyw ni byth yn cyfarfod y cwsmeriaid ac anaml iawn rydym ni'n cael cyfarfodydd ffurfiol, felly beth yw'r broblem?

Eich sylwadau plis.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan RET79 » Gwe 07 Mai 2004 11:24 am

Dielw a ddywedodd:Y ffordd gore i ddelio fo pethe fel hyn ydi trio sortio fo allan rhyngddo ti a'r boi arall gynta cyn mynd a fo mlaen ymhellach.


Dwi ddim yn siarad a'r boi ma, mae o'n wallgo mod i'n ei ddangos o fyny ar y cae peldroed bob wythnos yn un peth.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan RET79 » Gwe 07 Mai 2004 11:26 am

nicdafis a ddywedodd:Tra bod "jôcs" fel hyn yn dderbynniol yn y Telegraph ac ar y BBC, dyw e ddim yn debyg bydd unrhyw cwmni masnachol eisiau gwynebu tribiwnlys Diswyddiad Annheg drostynt.


Falle wnaf nodi hynna yn yr e-bost.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan S.W. » Gwe 07 Mai 2004 11:32 am

Mae'r ddeddf 'Race Relations Ammendment Act 2000' yn deud os ydy person yn teimlo fod ymosoddiad/harasment gyda hiliaeth ynglwm a fo yna maen rhaid i'r cyflogwr/heddlu ayyb ystyried y peth fel hiliaeth. Maen hollol glir.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan RET79 » Gwe 07 Mai 2004 11:44 am

Dielw a ddywedodd:Wedi deud hynny, nath un o rheolwyr gwaith dechre neud swn dafad arna fi ar noson allan a fy ymateb yn anffodus oedd trio dyrnu'r boi. Rwan mae o'n dawel o gwmpas fi, byth yn gofyn i fi neud dim gwaith iddo fo :lol:


Wnaeth ffrind i mi gael profiad tebyg, a fe wnaeth o ddyrnu ei fos o flaen pawb yn y parti dolig. :ofn:

Roedd y bos ma wedi bod yn speitio ei fam a'i gymreictod drwy'r cinio medde fo ac ar ol ychydig mwy o stellas fe wnaeth o beth oedd yn teimlo oedd yn iawn i'w wneud.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dielw » Gwe 07 Mai 2004 12:19 pm

:lol: :lol:
Stella rwy'n dy garu!

Beth am gicio fo yn ffwc o galed ar y cae pêl-droed tro nesa? Dyma sut i ddelio fo pobl fatha fo.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Leusa » Gwe 07 Mai 2004 1:20 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Ond ma dyrnu riwun am ei fod o yn Sais YN hiliol (damn!) Mi nathna foi bledio yn euog i racial assault ar ol dyrnu boi oddo'n feddwl oedd yn Sais (Cymro oedd o hefyd yn diwadd! :ofn:) Pan ofynodd y barnwr iddo fo gyfiawnhau ei hun mi ddudodd (rbwath tebyg i) 'If hating an English person is racist then yes. I am as racist as they come" - chwara teg!

os ti'n son am yr un boi a dwi'n meddwl yna dim chwara teg, ma'n trio codi trwbwl, ac odd be nath o'n rong. dodd gwrthod cyfreithiwr a phledio'n hiliol ddim yn helpu dim ar ei achos o.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan RET79 » Gwe 07 Mai 2004 2:01 pm

Melissa,

I have a further query that I would like to bring to your attention.

As you may have guessed, I am Welsh. Recently on an email a member of staff made what I considered to be a fairly spiteful remark regarding my nationality which involved the mention of sheep. This is not the first time that some members of staff, a very small minority, have tried to make jokes about me and sheep because I'm Welsh. My previous reaction has been to not laugh along because quite frankly I find such remarks to be fairly offensive and humiliating. They have stopped making those remarks when they realised that I didn't find them funny.

This is the first time however that someone has made such comments on e-mail with many colleagues copied in. I felt a little humiliated and did not find it humorous.

At this stage I'm not going to pass on the evidence or name the person who made the remark to HR. This person seemed to deliberately take off the officials' email off that email list I noticed. I'd be willing to let this one go.

What I am interested in is an opinion from HR department about comments of this nature and some advice about how I should deal with them in future. I have a good sense of humour, as many colleagues would testify, however when people make humiliating remarks regarding my nationality my patience is starting to wear thin. I don't see why I should have to put up with it quite frankly.

I would like to keep this matter confidential if possible.

Thankyou,

Ret79
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron