Yw jocs defaid yn erbyn y Cymry mewn gweithle Prydeinig, yn hiliol?
Falle eich bod wedi darllen yr edefyn 'Cwestiwn' gen i yn y seiat Chwaraeon.
Wel, wnes i e-bostio y 9 arall fyddai'n chwarae pel droed 5 bob ochr a rhoi fy marn sef mod i'n meddwl y dylsen ni chwarae ar y pitch arall oedd ar gael, oedd yn rhatach, saffach a hefo cyfleusterau gwell.
Fe wnaeth un person o'r gwaith ymateb yn ol i bawb, ond dileodd o e-bost y managers o'r rhestr, a fe wnaeth o comment fel "he must want to play there because I heard there's more sheep around that pitch".
Yw hwnna yn comment hiliol ar bapur y dylswn i fod yn cwyno amdano? Dwi'n tempted iawn i yrru copi o'r e-bost yna i'r adran HR/personnel, yn gofyn os yw ymddgiad felna yn gweddu a pholisi byhafio y gweithle.
Dwi'n gadael y lle o fewn mis ta beth, felly dwi ddim yn poeni llawer am upsetio rhai pobl.
Eich barn os gwelwch yn dda.