Panom Yeerum a ddywedodd:RET79 a ddywedodd:Melissa,
I have a further query that I would like to bring to your attention.
Sawl e-bost ti di gyrru i Melissa druan? Os w ti'n cwyno iddi hi gymaint a ti'n cwyno ar y maes dwi'm yn meddwl neith hi gymyd llawer o sylw! Ma na fotwm anwybyddu di cal ei hitio ar dy gyfeiriad e-bost!
Y query cyntaf oedd ynglyn a'r wisg. Wnes i yrru llythyr i'r 'gender champion' 12 mis yn ol yn fuan ar ol yr achos llys hefo'r dyn o'r ganolfan waith yn gofyn sut oedd y dress code yn y gwaith yn ffitio mewn hefo eu polisi cydraddoldeb yn y gwaith. Roeddwn i wedi cael fy ngorfodi i wisgo tei a cau botwm top fy nghrys tra fod merched y cwmni yn cael gwisgo pa bynnag top y licien nhw bron iawn, heb wisgo unrhyw dei na cael eu gorfodi i gau unrhyw fotymau. Achos o sexual discrimination yn fy marn i. Wnaeth y gender champion gydnabod y query, a'i basio mlaen i bobl, ond ddim ei ateb (dyna chi syndod, fe fuasai 'women's champion' fod wedi bod yn ddisgrifiad mwy cywir o'i mentality hi).
Gewn ni weld beth fydd yr ateb - dwi'n meddwl mai sgubo'r peth dan y carped fydd y canlyniad. Gen i flys cysylltu a'r cyfryngau, ddim yn siwr be i'w wneud tan gaf i ymateb.