Wel, fe wnaeth person o adran HR gael sgwrs hefo mi am y mater yma. Roedd o'n gofyn os oeddwn eisiau gwneud cwyn swyddogol gan fod sylwad o'r math yma'n torri amryw o reolau ymddygiad y cwmni, yn cynnwys cam-ddefnyddio'r e-bost.
Wnes i ddweud wrtho na fyddwn yn rhoi cwyn swyddogol mewn tro hwn (dwi'n gadael y lle o fewn mis beth bynnag) ond wnes i ddweud wrtho mod i'n falch iawn fod nhw wedi cymryd y sylwadau yma fel rhai annerbyniol. Ofn oeddwn y buasai nhw'n trio sgubo'r peth dan y carped a dweud 'cymra joc' neu rywbeth felna. Coeliwch fi, roedd y boi yma'n hynod o ddifri ar y mater yma. Buasai mater o'r math yma'n gallu bod yn embaras mawr i'r cwmni ac yn creu lot o waith a hassle o achos un unigolyn twp yn agor ei geg - roedd nhw'n barod i gymryd y dystiolaeth a cymryd y camau i ddisgyblu'r boi.
Well i'r boi ma fod yn fwy parchus a chwrtais tuag ataf i yn y 4 wythnos nesaf, gan os wneith o joc defaid, yn enwedig ar e-bost, yna fe fydda i'n pwyntio allan iddo fod sylwadau o'r fath yn anerbyniol i fi, ac i'r cwmni.