gan GT » Gwe 07 Mai 2004 3:58 pm
RET, 'dwin meddwl dy fod yn gwneud smonach o bethau yma.
Ti'n 'nabod Saeson yn well na fi, ti'n gweithio yn eu canol nhw. Onid ydi o wedi croesi dy feddwl di bod mae ganddynt gydymdeimlad efo pob math o leiafrifoedd rhyfedd, ond nad oes ganddynt fymryn o gyd ymdeimlad efo Cymry.
Os wyt ti yn benderfynol o yrru dy e bost at Melissa dweud wrthi bod gennyt ddiddordeb mawr mewn defaid, a dy fod wedi dy ypsetio yn ofnadwy am bod pobl yn cymryd hyn fel tystiolaeth dy fod yn Gymro, ac yn dy sbeitio o'r herwydd. Bydd gennyt well cyfle o lawer i gael y maen i'r wal.
Pe byddwn i yn dy le di byddwn yn anghofio am yr e'bost. Ffordd Seisnig o ddelio efo'r peth ydi hynny. Y ffordd gall Gymreig o ddelio efo hyn ydi tacl hwyr, hwyr, hwyr efo pob styd yn y golwg y tro nesa ti'n chwarae pel droed yn erbyn y bastad, ac yn y cyfamser mynd i weld Melissa a gofyn iddi hi os ydi hi eisiau dod am ddiod efo ti ar ol gwaith.
Mae o'n afiach treulio cymaint o amser ar faes e nag yr wyt ti.