Tudalen 4 o 8

PostioPostiwyd: Gwe 07 Mai 2004 3:31 pm
gan Dr Gwion Larsen
Ia ond dwim yn licio llafur :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 07 Mai 2004 3:34 pm
gan Cwlcymro
osna unrhywun YN licio nhw dwa?

PostioPostiwyd: Gwe 07 Mai 2004 3:37 pm
gan S.W.
Er fy mod i'n licio rhoi'r bai ar y Blaid Lafur am gymaint o bethau ag sydd bosib, elli di ddim beio nhw am neud y gair 'Packi' yn air drwg. Mae hynny wedi digwydd trwy hanes diweddar Prydain - galw unrhyw berson sydd o dras Indiaidd (Packistan, India, Bangladesh, Nepal ayyb yn Packi mewn ffordd 'derogatory' ermwyn eu rhoi nhw lawr.

Mae'r un yn wir am 'Taffy' i'r Cymry i gyd er mae i bobl sy'n byw wrth y Taf oedd o i fod.

PostioPostiwyd: Gwe 07 Mai 2004 3:38 pm
gan Dr Gwion Larsen
Ydi mae o'n air drwg

PostioPostiwyd: Gwe 07 Mai 2004 3:39 pm
gan Geraint
Ma cymry cymraeg ei hiaith yn gallu gallu galw rhywun yn 'nashi' mewn ffordd cas iawn. Dio ddim yn neis a ma nhw'n idiots. Dyna fy nghydfraniad call i'r edefyn yma.

PostioPostiwyd: Gwe 07 Mai 2004 3:40 pm
gan Cwlcymro
Er fy mod i'n licio rhoi'r bai ar y Blaid Lafur am gymaint o bethau ag sydd bosib, elli di ddim beio nhw am neud y gair 'Packi' yn air drwg. Mae hynny wedi digwydd trwy hanes diweddar Prydain - galw unrhyw berson sydd o dras Indiaidd (Packistan, India, Bangladesh, Nepal ayyb yn Packi mewn ffordd 'derogatory' ermwyn eu rhoi nhw lawr.

Dwi'n meddwl ella ma deud fod Llafur wedi troi 'Nashi' yn air drwg oni.
A fod y canlyniad fel 'paci', gair sydd i fod yn air i ddisgrifio ond sy rwan yn cael ei weld fel gair cas (paci lot mwy na Nashi ddo)

PostioPostiwyd: Gwe 07 Mai 2004 3:44 pm
gan S.W.
O.N. Rhagofn fy mod heb neud yn ddigon clir - ydy mae Packi yn air afiach iawn.

Dwi yn bersonol ddim yn gweld Nashi yn ddrwg, i fod yn onest dwi heb glywed y term yn cael ei ddefnyddiol ers tro byd. Ond os ydy pobl yn ei weld yn gas digon teg. Yn bersonol os ydych chi'n genedlaetholgar byddwch yn browd, os ydy pobl yn galw chi'n Nashi just cytuno fydda i. Does dim ateb i hynny fel arfer. Mae'r un wedi digwydd mewn cymdeithasau hoyw - mae llawer yn gweld yn honni i fod yn 'Queer and Proud' fel modd o gau ceg pobl sy'n eu casau.

I drio rhoi'r edefyn yma'n nol ar y trywydd iawn - dwin dal i weld jocs am Cymry yn neud pethau i ddefaid yn afiach a mae hynny yn fy ngwylltio, ac os ydy Ret yn gweld hynny fel hiliaeth yna yn ol y ddeddf dyna ydy o, byddai Comisiwn Cydraddoldeb Hil yn gorfod edrych arno os byddi di eisau reportio fo iddynt nhw.

PostioPostiwyd: Gwe 07 Mai 2004 3:58 pm
gan GT
RET, 'dwin meddwl dy fod yn gwneud smonach o bethau yma.

Ti'n 'nabod Saeson yn well na fi, ti'n gweithio yn eu canol nhw. Onid ydi o wedi croesi dy feddwl di bod mae ganddynt gydymdeimlad efo pob math o leiafrifoedd rhyfedd, ond nad oes ganddynt fymryn o gyd ymdeimlad efo Cymry.

Os wyt ti yn benderfynol o yrru dy e bost at Melissa dweud wrthi bod gennyt ddiddordeb mawr mewn defaid, a dy fod wedi dy ypsetio yn ofnadwy am bod pobl yn cymryd hyn fel tystiolaeth dy fod yn Gymro, ac yn dy sbeitio o'r herwydd. Bydd gennyt well cyfle o lawer i gael y maen i'r wal.

Pe byddwn i yn dy le di byddwn yn anghofio am yr e'bost. Ffordd Seisnig o ddelio efo'r peth ydi hynny. Y ffordd gall Gymreig o ddelio efo hyn ydi tacl hwyr, hwyr, hwyr efo pob styd yn y golwg y tro nesa ti'n chwarae pel droed yn erbyn y bastad, ac yn y cyfamser mynd i weld Melissa a gofyn iddi hi os ydi hi eisiau dod am ddiod efo ti ar ol gwaith.

Mae o'n afiach treulio cymaint o amser ar faes e nag yr wyt ti.

PostioPostiwyd: Gwe 07 Mai 2004 4:35 pm
gan RET79
GT, cer i grafu.

PostioPostiwyd: Gwe 07 Mai 2004 4:39 pm
gan RET79
Dwi wedi gyrru'r ebost ers bore ma am y peth defaid ac hefyd am 'dress code' y cwmni sydd yn sexist yn erbyn dynion. Dwi newydd ffonio 'Employee Advice and Support Line' mae'r cwmni'n hyrwyddo a dwedodd y ddynes fod hi'n well i mi roi y peth mewn du a gwyn yn ogystal ac mewn e-bost. Dydd Llun fydd y llythyrau'n mynd i bennaeth HR. Wedyn ddiwedd yr wythnos fydd y notice yn mynd fewn.

Dwi'n prowd i fod yn ymgyrchu dros enw da a parch i Gymru fel hyn, er gwaethaf y nonsens mae pobl fel GT yn siarad. Dwi'n Gymro, felly dwi'n cymryd dim cachu, a ddylse ddim Cymro arall gwerth ei halen roi mewn i lol fel hyn chwaith.