Tudalen 5 o 8

PostioPostiwyd: Gwe 07 Mai 2004 4:42 pm
gan Chwadan
GT a ddywedodd:Ti'n 'nabod Saeson yn well na fi, ti'n gweithio yn eu canol nhw. Onid ydi o wedi croesi dy feddwl di bod mae ganddynt gydymdeimlad efo pob math o leiafrifoedd rhyfedd, ond nad oes ganddynt fymryn o gyd ymdeimlad efo Cymry.

Dwi'm yn dallt dy bwynt ti. Os di be ti'n ddeud yn wir, oni ddylid cwyno mwy yn lle gadael i'r Saeson gerdded drosom ni?

Gyda llaw, ers i mi ddod i Loegr, dwi di cael dim bod ond "cydymdeimlad" (os mai dyna tisho alw fo) - pobl yn cymryd diddordeb yn yr iaith ac yn bod yn gefnogol tuag ati.

PostioPostiwyd: Gwe 07 Mai 2004 4:46 pm
gan GT
Chwadan a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Ti'n 'nabod Saeson yn well na fi, ti'n gweithio yn eu canol nhw. Onid ydi o wedi croesi dy feddwl di bod mae ganddynt gydymdeimlad efo pob math o leiafrifoedd rhyfedd, ond nad oes ganddynt fymryn o gyd ymdeimlad efo Cymry.

Dwi'm yn dallt dy bwynt ti. Os di be ti'n ddeud yn wir, oni ddylid cwyno mwy yn lle gadael i'r Saeson gerdded drosom ni?

Gyda llaw, ers i mi ddod i Loegr, dwi di cael dim bod ond "cydymdeimlad" (os mai dyna tisho alw fo) - pobl yn cymryd diddordeb yn yr iaith ac yn bod yn gefnogol tuag ati.


Mae'r pwynt yn weddol syml dwi'n meddwl. 'Dydi Saeson ddim yn or hoff o Gymry, ac yn sicr nid ydi'r person sy'n bwlio RET yn y gweithle am ddod i unrhyw niwed proffesiynol oherwydd ei ymddygiad ac e bost RET. Byddai gan RET well cyfle o'i gael mewn trwbwl am fod yn gas efo ffansiwrs defaid.

Yn y byd sydd ohoni efallai y byddai styds ar glun y bwli yn fwy effeithiol na'r e bost.

Alla i ddim yn fy myw ddeall pam bod y neges yna'n pechu RET.

PostioPostiwyd: Gwe 07 Mai 2004 4:48 pm
gan RET79
S.W. a ddywedodd:
2 pwynt sydyn:

1 nes i ddim sylwi na RET79 oedd dy enw di. Doedd dy rieni ddim yn licio ti neu rhywbeth?

2 Ti eisiau ei gadw'n gyfrinachol rhwng ti a 'Melissa' felly ti'n postio'r llythyr ar wefan poblogaidd Cymraeg sydd gyda cannoedd o aelodau! Ok

Sori bod yn haerllug dwi. Dylet ti fynd ar peth ymhellach, rheswm fod pobl yn dal i ddeud jôcs am Cymry ydy gan ein bod ni'n rhy embarrassed i gwyno'n swyddogol amdano.


Cytuno. Wel dwi'n rhoi stop ar y nonsens yma. Dwi'n siwr fod pobl maes-e ddim ym meindio cael updates o'r sefyllfa.

PostioPostiwyd: Gwe 07 Mai 2004 7:19 pm
gan Dylan
Ddim y 'jôc' ei hun ydi'r broblem, ond agwedd cyffredinol y boi tuag atat ti. Mae'n rhaid i ti roi'r pethau 'ma yn eu cyd-destun. Os mai jyst trio bod yn ddoniol ac ysgafn oedd o (mi fethodd), yna dylid ei anwybyddu. Ond gan fod y boi 'ma'n swnio'n reit chwerw a chas beth bynnag 'dw i'n meddwl dy fod ti wedi gwneud y peth iawn. Dylet ti bwysleisio agwedd cyffredinol y boi tuag atat ti yn hytrach na canolbwyntio ar y 'jôc' yn unig.

PostioPostiwyd: Sad 08 Mai 2004 12:57 pm
gan RET79
Dylan a ddywedodd:Ddim y 'jôc' ei hun ydi'r broblem, ond agwedd cyffredinol y boi tuag atat ti. Mae'n rhaid i ti roi'r pethau 'ma yn eu cyd-destun. Os mai jyst trio bod yn ddoniol ac ysgafn oedd o (mi fethodd), yna dylid ei anwybyddu. Ond gan fod y boi 'ma'n swnio'n reit chwerw a chas beth bynnag 'dw i'n meddwl dy fod ti wedi gwneud y peth iawn. Dylet ti bwysleisio agwedd cyffredinol y boi tuag atat ti yn hytrach na canolbwyntio ar y 'jôc' yn unig.


Ddim yn siwr ti'n iawn fan hyn. Beth dwi isio yw 'response' gan HR i weld beth mae nhw'n feddwl o'r fath sylwadau.

PostioPostiwyd: Sad 08 Mai 2004 1:41 pm
gan Panom Yeerum
RET79 a ddywedodd:Melissa,

I have a further query that I would like to bring to your attention.
Sawl e-bost ti di gyrru i Melissa druan? Os w ti'n cwyno iddi hi gymaint a ti'n cwyno ar y maes dwi'm yn meddwl neith hi gymyd llawer o sylw! Ma na fotwm anwybyddu di cal ei hitio ar dy gyfeiriad e-bost!

PostioPostiwyd: Sad 08 Mai 2004 5:24 pm
gan RET79
Panom Yeerum a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Melissa,

I have a further query that I would like to bring to your attention.
Sawl e-bost ti di gyrru i Melissa druan? Os w ti'n cwyno iddi hi gymaint a ti'n cwyno ar y maes dwi'm yn meddwl neith hi gymyd llawer o sylw! Ma na fotwm anwybyddu di cal ei hitio ar dy gyfeiriad e-bost!


Y query cyntaf oedd ynglyn a'r wisg. Wnes i yrru llythyr i'r 'gender champion' 12 mis yn ol yn fuan ar ol yr achos llys hefo'r dyn o'r ganolfan waith yn gofyn sut oedd y dress code yn y gwaith yn ffitio mewn hefo eu polisi cydraddoldeb yn y gwaith. Roeddwn i wedi cael fy ngorfodi i wisgo tei a cau botwm top fy nghrys tra fod merched y cwmni yn cael gwisgo pa bynnag top y licien nhw bron iawn, heb wisgo unrhyw dei na cael eu gorfodi i gau unrhyw fotymau. Achos o sexual discrimination yn fy marn i. Wnaeth y gender champion gydnabod y query, a'i basio mlaen i bobl, ond ddim ei ateb (dyna chi syndod, fe fuasai 'women's champion' fod wedi bod yn ddisgrifiad mwy cywir o'i mentality hi).

Gewn ni weld beth fydd yr ateb - dwi'n meddwl mai sgubo'r peth dan y carped fydd y canlyniad. Gen i flys cysylltu a'r cyfryngau, ddim yn siwr be i'w wneud tan gaf i ymateb.

PostioPostiwyd: Sad 08 Mai 2004 6:14 pm
gan Ffion1
RET79 a ddywedodd:GT, cer i grafu.


Arglwydd mawr ti'n gas

PostioPostiwyd: Sad 08 Mai 2004 6:17 pm
gan RET79
Ffion Larsen a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:GT, cer i grafu.


Arglwydd mawr ti'n gas


8)

:lol:

PostioPostiwyd: Sad 08 Mai 2004 6:27 pm
gan GT
RET79 a ddywedodd:Roeddwn i wedi cael fy ngorfodi i wisgo tei a cau botwm top fy nghrys tra fod merched y cwmni yn cael gwisgo pa bynnag top y licien nhw bron iawn


Arglwydd mawr, stopia winjio. Be ydi'r blydi ots os wyt ti'n gorfod gwisgo tei yn gwaith? Does yna ddim rhyfedd dy fod yn gadael y cwmni mewn pethefnos. Mae'n siwr eu bod nhw wedi blino gwrando arnat ti yn gwichian. Diolcha nad wyt yn gweithio i fi - fysat ti heb gadw dy job am ddeg munud.