Tudalen 6 o 8

PostioPostiwyd: Sad 08 Mai 2004 6:34 pm
gan Macsen
GT a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Roeddwn i wedi cael fy ngorfodi i wisgo tei a cau botwm top fy nghrys tra fod merched y cwmni yn cael gwisgo pa bynnag top y licien nhw bron iawn

Arglwydd mawr, stopia winjio. Be ydi'r blydi ots os wyt ti'n gorfod gwisgo tei yn gwaith? Does yna ddim rhyfedd dy fod yn gadael y cwmni mewn pethefnos. Mae'n siwr eu bod nhw wedi blino gwrando arnat ti yn gwichian. Diolcha nad wyt yn gweithio i fi - fysat ti heb gadw dy job am ddeg munud.

Dim ti yw'r unig un i gwyno am RET yn winjan. Gweler. :crechwen:

PostioPostiwyd: Sad 08 Mai 2004 6:40 pm
gan Ffion1
Diddorol! mae o'n winjan yn bob man felly

PostioPostiwyd: Sad 08 Mai 2004 6:46 pm
gan GT
Ffion Larsen a ddywedodd:Diddorol! mae o'n winjan yn bob man felly

Gallai'r diawl gwirion winjan tros Gymru. Wedi meddwl, dyna'n union mae o yn ei wneud yn ei e bost diweddaraf i Melissa.

PostioPostiwyd: Sad 08 Mai 2004 6:50 pm
gan RET79
GT a ddywedodd:
Arglwydd mawr, stopia winjio. Be ydi'r blydi ots os wyt ti'n gorfod gwisgo tei yn gwaith? Does yna ddim rhyfedd dy fod yn gadael y cwmni mewn pethefnos. Mae'n siwr eu bod nhw wedi blino gwrando arnat ti yn gwichian. Diolcha nad wyt yn gweithio i fi - fysat ti heb gadw dy job am ddeg munud.

Ti'n methu'r pwynt yn llwyr, dyna syrpreis.

Dwi'n meddwl fyddet ti'n ormod o gachwr i sefyll fyny dros dy hunan barch fel cymro a dyn.

PostioPostiwyd: Sad 08 Mai 2004 6:56 pm
gan Macsen
RET79 a ddywedodd:Dwi'n meddwl fyddet ti'n ormod o gachwr i sefyll fyny dros dy hunan barch fel cymro a dyn.

Hold on wan, RET! :ofn:

Yn niddordeb ti ddim yn cael dy fanio o'r Maes (eto!) paid a mynd ymhellach mewn i wlad yr ymosodiad personnol. :?

Yffach, dyma bost 2500 hwyl. Delio hefo RET. :(

PostioPostiwyd: Sad 08 Mai 2004 6:58 pm
gan GT
RET79 a ddywedodd:Dwi'n meddwl fyddet ti'n ormod o gachwr i sefyll fyny dros dy hunan barch fel cymro a dyn.

O RET, ti mor greulon! Os dywedi'r ffasiwn beth eto byddaf yn pwdu, bygwth gwrthod siarad efo ti, trio cael nicdafis i roi botwm anwybyddu i fi a cheisio dy hel di i gylch meithrin.

PostioPostiwyd: Sad 08 Mai 2004 7:07 pm
gan RET79
GT a ddywedodd:O RET, ti mor greulon! Os dywedi'r ffasiwn beth eto byddaf yn pwdu, bygwth gwrthod siarad efo ti, trio cael nicdafis i roi botwm anwybyddu i fi a cheisio dy hel di i edefyn meithrin.

Wel, dyna'r gwir, fuasai gen ti ddim guts rhoi sialens i unrhywbeth yn y gweithle gan sgen ti ddim digon o asgwrn cefn i sefyll fyny dros dy hunan barch fel cymro a dyn.

PostioPostiwyd: Sad 08 Mai 2004 7:08 pm
gan GT
Eisiau cymharu record wyt ti?

PostioPostiwyd: Sad 08 Mai 2004 7:28 pm
gan Ffion1
RET79 a ddywedodd:
GT a ddywedodd:O RET, ti mor greulon! Os dywedi'r ffasiwn beth eto byddaf yn pwdu, bygwth gwrthod siarad efo ti, trio cael nicdafis i roi botwm anwybyddu i fi a cheisio dy hel di i edefyn meithrin.

Wel, dyna'r gwir, fuasai gen ti ddim guts rhoi sialens i unrhywbeth yn y gweithle gan sgen ti ddim digon o asgwrn cefn i sefyll fyny dros dy hunan barch fel cymro a dyn.

Na, ddim dyna yw'r gwir. Mynegu dy farn yn unig wyt ti, tydio ddim byd i wneud a gwirionedd.

PostioPostiwyd: Sad 08 Mai 2004 9:30 pm
gan RET79
Ffion Larsen a ddywedodd:

Eh?