Tudalen 8 o 8

PostioPostiwyd: Sul 09 Mai 2004 9:09 pm
gan RET79
GT ti ddim yn ddoniol. Yr unig beth ti'n gallu wneud yw byhafio fel plentyn ar y maes, fedri di ddim cymryd rhan mewn trafodaeth gyda oedolion.

PostioPostiwyd: Sul 09 Mai 2004 9:17 pm
gan Macsen
Neis drio peidio chwerthin. Ond methu. :lol:

RET79 a ddywedodd:Tydi hynan ddim yn ddoniol! Winj! Winj!

PostioPostiwyd: Iau 13 Mai 2004 10:55 pm
gan Ffion1
RET79 a ddywedodd:GT ti ddim yn ddoniol. Yr unig beth ti'n gallu wneud yw byhafio fel plentyn ar y maes, fedri di ddim cymryd rhan mewn trafodaeth gyda oedolion.


Ha ha, un da wyt ti yn siarad. Doniol iawn boi

PostioPostiwyd: Iau 13 Mai 2004 11:47 pm
gan RET79
Ffion Larsen a ddywedodd:Doniol iawn boi


Www fe wnaf dderbyn hwnna fel compliment.

PostioPostiwyd: Gwe 14 Mai 2004 7:44 pm
gan DAN JERUS
Ga'i fentro gwyro'n nol at destun yr edefyn plis? Yn bersonol, dw'i'm yn meddwl fod dweud fod galw rhywun yn sheep shaggers yn hiliol.Anffodus, yndi, ond sbiwch ar y tystiolaeth.Ma'r ffrangeg yn "frogs" am ei fod yn digwydd bwyta coesau brogau, yr Albaniaid yn ei chael hi am fod yn dynn, y gwyddelod am fod yn thic ayb-cymru-shaggio defaid-ond be sy'n ddiddorol ydi mae pobl Nolfolk hefyd yn cael eu galw'n sheep shaggers neu o unrhyw ardal amaethyddol yn y bon.RET nath rhys ifans ddweud rhywbeth da unwaith, dwi'm yn cofio yr union eiriau ond rhywbeth fel "yeah we shag sheep just to tenderise them for you english fuckers" sa hyn ddim yn gweithio cystal? ta ti wedi drio fo a nath o ddim?

PostioPostiwyd: Gwe 14 Mai 2004 8:11 pm
gan Dr Gwion Larsen
we shag em, you eat 'em!
Neu
"I'd rather shag a sheep than an english person!"

PostioPostiwyd: Sad 15 Mai 2004 12:39 pm
gan Cwlcymro
"We do it becouse our sheep are sexier than your women"

PostioPostiwyd: Sad 15 Mai 2004 2:09 pm
gan RET79
Wel, fe wnaeth person o adran HR gael sgwrs hefo mi am y mater yma. Roedd o'n gofyn os oeddwn eisiau gwneud cwyn swyddogol gan fod sylwad o'r math yma'n torri amryw o reolau ymddygiad y cwmni, yn cynnwys cam-ddefnyddio'r e-bost.

Wnes i ddweud wrtho na fyddwn yn rhoi cwyn swyddogol mewn tro hwn (dwi'n gadael y lle o fewn mis beth bynnag) ond wnes i ddweud wrtho mod i'n falch iawn fod nhw wedi cymryd y sylwadau yma fel rhai annerbyniol. Ofn oeddwn y buasai nhw'n trio sgubo'r peth dan y carped a dweud 'cymra joc' neu rywbeth felna. Coeliwch fi, roedd y boi yma'n hynod o ddifri ar y mater yma. Buasai mater o'r math yma'n gallu bod yn embaras mawr i'r cwmni ac yn creu lot o waith a hassle o achos un unigolyn twp yn agor ei geg - roedd nhw'n barod i gymryd y dystiolaeth a cymryd y camau i ddisgyblu'r boi.

Well i'r boi ma fod yn fwy parchus a chwrtais tuag ataf i yn y 4 wythnos nesaf, gan os wneith o joc defaid, yn enwedig ar e-bost, yna fe fydda i'n pwyntio allan iddo fod sylwadau o'r fath yn anerbyniol i fi, ac i'r cwmni. 8)

PostioPostiwyd: Sad 15 Mai 2004 2:10 pm
gan Dylan
Delwedd

PostioPostiwyd: Sad 15 Mai 2004 2:13 pm
gan RET79
Felly y neges yw, nid yw jocs defaid mewn nifer o weithleoedd, hyd yn oed yn Lloegr, yn dderbyniol bellach.

Fy nghyngor i yw darllenwch bolisiau'r gweithle am ymddygiad tuag at eraill. Triwch egluro i'r person fod chi ddim yn gweld y sylwadau defaid yn ddoniol. Os yw nhw'n cario mlaen, cysylltwch a'r HR. Fe wneith nhw lond eu trwsus os bydd rhaid i nhw gael sgwrs hefo HR ynglyn a'u sylwadau.