Ma petha fel hyn yn dabws gan eu bo nhw'n ein styrbio ni, ac felly ma cymdeithas yn dueddol o ddeud eu bod nhw'n foesol anghywir. Ma (neu mi oedd) cal rhyw tu allan neu fod yn noeth ar draeth yn cael eu trin mewn ffordd debyg.
Nes i ddarllen yn rwla y dyla petha sy'n styrbio pobl gael eu caniatau gan eu bo nhw'n hybu dadl ynglyn a foesoldeb y peth, ac wedi cynnal y ddadl hon mi ddylsa cymdeithas fedru dod i'r casgliad iawn am y peth. Ma dadleuon fel hyn hefyd i fod i ehangu ein meddylia fel ein bod ni'n dod yn ddinasyddion gwell ac yn medru creu cymdeithas well.
Felly da iawn maes-e am gael dadl ar hyn