Dwin bwyta cig gan bod dwin licio fo, dwin hoffi wyau, a pwdin gwaed. Y mwyaf o anifeiliaid marw sydd ar fy mhlat i y gorau. Serch hynny dwin hollol ymwybodol o'r broses lladd sydd yn cael eu defnyddio iw rhoi ar fy mhlat i. Ond mae hefyd yn rhoi y pethau da yn fy nghorff i dwi angen hefyd. Dwin gweld y drafodaeth ma'n eithaf digalon gan ei fod efallai yn enghraifft o ddirywiad trafodaeth Maes E - gwelwid hwn gyda'r dirywiad a gafwyd am drafodaeth diddorol am hoywon hefyd. Dwin gwbod fy mod i'n ychwanegu at y drafodaeth a felly yn gwrth ddweud fy hun ond - oes rhaid llenwi Maes E gyda'r rwtch yma?
Dwi just yn aros i Dr Gwion ddod adre o'r ysgol a cael ei ddannedd mewn i'r pwnc yma i brofi fy mhwynt. No offence Dr Gwion