Prydain Fawr Feddal?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Prydain Fawr Feddal?

Postiogan Stewart Carson » Iau 13 Mai 2004 10:13 am

newi fy nharo - y ddadl dros gael gweithwyr o wledydd newydd yr Undeb Ewropeaidd ydi 'Does neb yma eisiau gwneud y mathau o swyddi mae mewnfudwyr am ei gwneud'. ond eto mae ganddo ni filoedd ar y dole ac yn derbyn budd-daliadau - oni ddyla bo ni'n gorfodi'r bobol hyn i lenwi'r swyddi 'llai atyniadol' yn lle eu bwydo gyda'n trethi?
rwbath-rwbath rywsut-rywsut rwla-rwla fuodd dy hanas di 'rioed, y sglyfath
Stewart Carson
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 62
Ymunwyd: Gwe 30 Ebr 2004 1:57 pm

Postiogan S.W. » Iau 13 Mai 2004 10:42 am

Pwynt poblogaidd, ond y peth ydy elli di ddim 'hancuffio' rhywun i beiriant mewn ffatri a'u gorfodi nhw i weithio yne - hyd yn oed wedyn bydd cyflogwyr ddim eisiau cyflogi rhywun sydd ddim yn gwneud ei waith yn iawn ac ati. Maen gymhleth iawn, dwim yn meddwl fod atebion hudol i hwn.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Dielw » Iau 13 Mai 2004 11:02 am

Dwi'n tueddu cytuno fo Stewart, ma Prydain rhy soft - pobl yn suio trethdalwyr am gwmpo dros pafin, niferoedd gwirion mewn addysg bellach mewn cyrsiau dim-byd, derbyn gormod o fewnfudwyr, gor-boblogaeth, petrol drud yn screwio pawb sy'n gweithio tu allan i ddinas, dim pysgod yn yr afonydd, mwg pobman, pandas mewn sw, neb yn gorffen gwaith nhw'n iawn. Ffyrdd gachu, gormod o bopeth, goleuadau stryd yn cuddio'r y sêr. Swn, mwg a pobl prysur yn neud dim byd.

Gwlad sy'n mynd ar ei lawr ydi hi.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan RET79 » Iau 13 Mai 2004 11:12 am

S.W. a ddywedodd:Pwynt poblogaidd, ond y peth ydy elli di ddim 'hancuffio' rhywun i beiriant mewn ffatri a'u gorfodi nhw i weithio yne - hyd yn oed wedyn bydd cyflogwyr ddim eisiau cyflogi rhywun sydd ddim yn gwneud ei waith yn iawn ac ati. Maen gymhleth iawn, dwim yn meddwl fod atebion hudol i hwn.


Pwynt diddorol iawn. Falle fod ni'n well off yn talu dol iddyn nhw na gadael iddyn nhw wneud llanast mewn gweithle. Agwedd besimistaidd efallai, ond dyna fo.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 13 Mai 2004 11:25 am

Faint wyt TI'n cael ar y dole RET?

Ydy fe'n ddigon i TI fyw yn gartrefol?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan RET79 » Iau 13 Mai 2004 12:01 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Faint wyt TI'n cael ar y dole RET?

Ydy fe'n ddigon i TI fyw yn gartrefol?


Dwi ddim ar y dol, Hedd. Dwi'n gweithio a talu trethi mewn i'r system.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dielw » Iau 13 Mai 2004 12:20 pm

Ond be ma Hedd yn deud ydi bod o ddim yn fywyd moethus o gwbl i'r rheini sy'n byw yn onest ac ar y dôl. Dwi'n cytuno - ma o'n ddiflas ac yn anodd.

Roedd achos od iawn yn y papure am teulu fo 7 o blant yn neud tua £40,000 y flwyddyn oherwydd budd-daliadau (y ddynes na o Lerpwl oedd ar wife swap). Dyma'r fath o beth sy'n neud fi'n flin - ma plant yn costio lot o bres i bobl sy'n gweithio.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan S.W. » Iau 13 Mai 2004 12:26 pm

Dwi wedi bod ar y dole ar ol coleg ac ellai ddeud RET bod o'r peth mwyaf crap elli di fod arno. Ti'n cael dy dalu £42 y wythnos. Elli di ddim byw ar hynny, oes ma rhai yn cael lot mwy dwin derbyn hynny - gyda plant ac ati.

S.W. :
Pwynt poblogaidd, ond y peth ydy elli di ddim 'hancuffio' rhywun i beiriant mewn ffatri a'u gorfodi nhw i weithio yne - hyd yn oed wedyn bydd cyflogwyr ddim eisiau cyflogi rhywun sydd ddim yn gwneud ei waith yn iawn ac ati. Maen gymhleth iawn, dwim yn meddwl fod atebion hudol i hwn.

RET
Pwynt diddorol iawn. Falle fod ni'n well off yn talu dol iddyn nhw na gadael iddyn nhw wneud llanast mewn gweithle. Agwedd besimistaidd efallai, ond dyna fo.


Dwi ddim yn gweld hwn yn beismistaidd o gwbl, maen wir. Elli di ddim gorfodi rhywun i wethio nag rhywun i gyflogi - dim yn gweithio fel yne. Iawn wrach cymryd y dole danffynt nhw ond wedyn ti gyda rhywun sydd ar £0. Does dim ateb hydol, os nad elli di helpu RET?
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan bartiddu » Iau 13 Mai 2004 12:27 pm

Oedd yna ddeintydd newydd yn cymeryd cleifion NHS newydd ar ei rhester yn Machynlleth ddoe.
Gwr o De Affrig oedd e, roedd e’n cymerud lle deintydd o dras indiaidd.
Nawr sgen I’m byd yn erbyn pobol yn dod mewn I’r wlad I weithio ayb
Ond pam nad oes yna Gymry Cymraeg yn hyfforddi I wneud swyddi fel hyn?
Fi’n siwr fod ‘na canrhan fechan yn, ag rwyf yn setio fy hyn fynu wrth ofyn y fath gwestiwn “pam na wnei di hyfforddu fel deintydd yn lle cwyno am y peth!” :D
Ond bois bach, cyfle I gael gweithio yn eich mamwlad, ardal hyfryd, tal da siwr iawn?
Pam? Beth yw’r ateb, sgen I’m clem! :?
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan S.W. » Iau 13 Mai 2004 12:32 pm

sut ti'n gorfodi rhywun i fod yn ddeintydd? Elli di ddim, gellir rhoi temptasiynau iddynt i fod yn ddeintydd ac aros yng Nghymru ond does dim ar hyn o bryd i wneud hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai