Prydain Fawr Feddal?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Stewart Carson » Iau 13 Mai 2004 2:10 pm

S.W. a ddywedodd:Pwynt poblogaidd, ond y peth ydy elli di ddim 'hancuffio' rhywun i beiriant mewn ffatri a'u gorfodi nhw i weithio yne - hyd yn oed wedyn bydd cyflogwyr ddim eisiau cyflogi rhywun sydd ddim yn gwneud ei waith yn iawn ac ati. Maen gymhleth iawn, dwim yn meddwl fod atebion hudol i hwn.


beth am gyfnewid yr esgyrn diog am bobol o Latfia? 'Un ai ti'n mynd i weithio yn y wlad yma neu ti'n cael dy anfon i Sgidansg i fyw lle does dim budd-dal heb son am sick-pay'

fedri di ddim yn gorfodi pobol i fynd i ffatri, ond a finna wedi treulio cyfnod mewn un a dod ar draws pobol sy'n casau'r gwaith ond yn dweud 'It's boring, but I get paid for my boredome' dwi'n teimlo dros y bobol hyn fwy na neb - y bobol sydd mewn swyddi talu'n isel ond sydd yn dal i'w gwneud nhw yn hytrach na dibynnu ar fudd-dal.

ddyla pobol ddim cael arian am ddim byd
rwbath-rwbath rywsut-rywsut rwla-rwla fuodd dy hanas di 'rioed, y sglyfath
Stewart Carson
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 62
Ymunwyd: Gwe 30 Ebr 2004 1:57 pm

Postiogan S.W. » Iau 13 Mai 2004 2:22 pm

Dwi wedi gwethio mewn ffatri hefyd (yn neud hosepipes rhwng 10pm a 6am i ddyn aeth i'r jail am herwgipio :ofn: )

Wrth gwrs dylai pobl ddim cael arian am wneud dim, o beth welaf i maen anodd iawn ffidlo'r dole wan. Pan oddwn i ar y dole roeddwn in gorfod trio am hyn a hyn o swyddi bob wythnos a cadw nodyn o hynny mewn dyddiadur, os doeddwn i ddim yn cael job ar ol tua 3 mis roedden nhw'n ffeindio job i ti - oeddwn in lwcus a ges i job.

Mae llawer o bobl yn trio am swyddi ac yn desperate am swydd ond just methu cael un am wahanol resymau be ddylai ddigwydd i nhw?

Dwin siwr bod Latvians ddim isio Coloneiddwyr yn Latvia chwaith!

Wrth gwrs bob modd cymryd mantais o'r dole e.e mynd am swydd o dan orfodaeth y Job Centre, aros tan amser cinio wedyn rhoi'r gorau i'r swydd gan bod chi methu neud o. Ond byddai cosbi'r rhain yn gallu cosbi pobl sydd ar y dole (neu lwfans diwaith i fod yn wleidyddol gywir) am resymau dilys.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Chris Castle » Gwe 14 Mai 2004 8:37 am

Does modd mynd i Gaint i pigo mefysau am £4 yr awr os ti'n byw yng Nhaerdydd a chyda phlant i'w gofalu amdanyn nhw - hyd yn oed os wyt ti'n fodlon i ddifa eu haddysg trwy mynd â nhw i Gaint, fyddai dy fflat wedi mynd i rywun arall erbyn mynd yn ôl.

Felly dyw e ddim yn fater syml o "orfodi nhw i wneud y swyddi sydd ar gael"

Er dwi'n gweld y dylai pobl ar y dol yn Nghaint yn gweithio i'r ffermwyr.
To each according to need
From each according to ability
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Dielw » Gwe 14 Mai 2004 8:54 am

Falle sa fo'n syniad cal job cyn cal plant. Dwi ddim yn hoffi'r ffordd dwi'n gorfod talu am blant pobl anghyfrifol chwaith. Dylai fod deddfau yn erbyn hyn.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Stewart Carson » Gwe 14 Mai 2004 2:05 pm

Dielw a ddywedodd:Falle sa fo'n syniad cal job cyn cal plant. Dwi ddim yn hoffi'r ffordd dwi'n gorfod talu am blant pobl anghyfrifol chwaith. Dylai fod deddfau yn erbyn hyn.


dim swydd, dim plant. dwi'n licio fo, sens syml. fatha udodd nain, 'os fedri di'm talu amdany fo ti'm yn gael o'

ond yda ni am orfodi merched sengl i erthylu os nad oes ganddyn nhw bartner mewn gwaith llawn amser efo'r gallu i dalu am fagu'r plentyn? dydio ddim yn wleidyddol gywir, ond dwi'n meddwl fydda'r ffasiwn ddeddf yn arwain at lai o iobows yn ein cymdeithas
rwbath-rwbath rywsut-rywsut rwla-rwla fuodd dy hanas di 'rioed, y sglyfath
Stewart Carson
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 62
Ymunwyd: Gwe 30 Ebr 2004 1:57 pm

Postiogan Dylan » Gwe 14 Mai 2004 2:10 pm

ym

Beth os ti'n colli dy swydd ar ôl cael pump o blant?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dielw » Gwe 14 Mai 2004 2:26 pm

Na faswn i ddim yn gorfodi neb i erthylu chwaith. Faswn i yn gneud pob dyn yn anffrwythlon yn eu harddegau gyda ryw fath o chip cemegol (siwr bod fashwn beth yn bodoli). Unwaith dach chi di talu digon o iswiriant cenedlaethol, tynnu'r chip. Yr un peth i mewnfudwyr. Hawdd.

Poblogaeth llai, poblogaeth gwell.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Chwadan » Gwe 14 Mai 2004 2:29 pm

Dielw a ddywedodd:Na faswn i ddim yn gorfodi neb i erthylu chwaith. Faswn i yn gneud pob dyn yn anffrwythlon yn eu harddegau gyda ryw fath o chip cemegol (siwr bod fashwn beth yn bodoli). Unwaith dach chi di talu digon o iswiriant cenedlaethol, tynnu'r chip. Yr un peth i mewnfudwyr. Hawdd.

Poblogaeth llai, poblogaeth gwell.

Paid a malu cachu :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Dielw » Gwe 14 Mai 2004 2:32 pm

Na dwi'n bod yn seriys :D
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan S.W. » Gwe 14 Mai 2004 2:35 pm

Ac ar ol i ni neud dynion diwaiith a mewnfudwyr yn anffrwythlon, be nawn ni nesa ar ol i ni sylwi bod y wlad ma dal ar ei din? Troi ar y catholigion, achos ni i gyd yn gwbod bod nhw wrthi fel gwnignod, a wedyn y bobl dduon, achos bod dynion du yn hoffi cael rhyw gyda lot o ferched.

Dielw callia - ti'n neud i ni bobl y Gogledd Ddwyrain edrych yn fwy twp nag erioed.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 37 gwestai

cron