Tudalen 4 o 4

PostioPostiwyd: Iau 20 Mai 2004 3:58 pm
gan Cwlcymro
Dielw a ddywedodd: Beth am drafod y pwnc?


Y pwnc ydi, yn ddigon syml, ein bod ni'n byw mewn gwlad rydd, ddemocrataidd. A bod pob person sy'n byw yn y wlad efo hawliau dynol. A felly ma unrhyw syniad o amharu ar ei cyrff i stopio nhw atgenhedlu mor wirion a ydio afiach.

PostioPostiwyd: Iau 20 Mai 2004 4:10 pm
gan S.W.
Dwi wedi bod yn ei drafod o Dielw. Maen hollol afiach osyniad - dwi ddim yn grefyddol a does gen i ddim o'i le gyda atalgenedlu nag erthyliadau ond dewis personol ydy hynny i gyd. Elli di ddim deud bod dim o'i le gyda defnyddio gwyddoniaeth i lunio cymdeithas. Maen hllol afiach o syniad.

Be fyddi di'n neud os byddai'r 'sglodion' ym ddim yn gweithio a bod rhywun yn cael babi o flaen eu amser. Fel ddudais i, dwi o blaid erthyliadau ond elli di ddim gorfodi person i gael ei wared o os does dim o'i le ar y babi a ni fyddai'n creu niwed i'r fam na'r babi.

PostioPostiwyd: Iau 20 Mai 2004 4:52 pm
gan RET79
ond pan ti'n gweld cwpl sydd ddim eisiau gweithio yn cael 10 o blant a pawb arall yn talu amdanyn nhw ti'n colli sympathi i'r hawliau dynol. Law yn llaw a hawliau dynol mae cyfrifoldebau dynol - ddylai hawliau ddim dod am ddim.

PostioPostiwyd: Iau 20 Mai 2004 8:27 pm
gan Lowri Fflur
RET79 a ddywedodd:ond pan ti'n gweld cwpl sydd ddim eisiau gweithio yn cael 10 o blant a pawb arall yn talu amdanyn nhw ti'n colli sympathi i'r hawliau dynol. Law yn llaw a hawliau dynol mae cyfrifoldebau dynol - ddylai hawliau ddim dod am ddim.



Ti' n siarad am achosion eithriadol yn fan hyn. Beth am berson sydd eisiau cael swydd a sydd efo teulu i gefnogi ond methu cael swydd?

PostioPostiwyd: Iau 20 Mai 2004 9:28 pm
gan RET79
lowri larsen a ddywedodd:Ti' n siarad am achosion eithriadol yn fan hyn. Beth am berson sydd eisiau cael swydd a sydd efo teulu i gefnogi ond methu cael swydd?


Wel, iawn i'r person yna gael help bach gan y wlad am wn i tan mae'r person yn ffeindio swydd. Gorau po gyntaf i'r person gael swydd er mwyn ei hun ac i'r wlad.

PostioPostiwyd: Gwe 21 Mai 2004 8:40 am
gan Chris Castle
Sosialwr ydw i a dwi'n o blaid rhoi Cap ar arian y dol. Dim tal ychwanegol wedi taliad am ddau o blant.
Hefyd dylai gweithwyr cael hawl i fyw mewn Tai Cyngor. Dylai'r arian oddi ar werthu Tai cyngor yn cael ei ddefnyddio i adeiladu tai newydd.

Thatcher sydd ar fai - chwalodd hi syniadau megis "mutuality", Parch at eraill fel unigolion werthus ynddo eu hunain, a chymdeithas. Creodd hi'r agwedd:-

IF UNEMPLOYMENT IS A PRICE WORTH PAYING, GREED IS GOOD, IT'S RIGHT TO DO WHAT YOU HAVE TO TO GET ON, AND THERE'S NO SUCH THING AS SOCIETY, I'M DOING THE COUNTRY A FAVOUR BY SCREWING THE DOLE!

Sorry am y Saesneg.

PostioPostiwyd: Gwe 21 Mai 2004 8:54 am
gan Clarice
Dielw a ddywedodd:
Clarice a ddywedodd:"Eugenics" ti'n galw hwnna. Odd e'n boblogaidd iawn gyda'r Natsiaid. :rolio:

Cywir Clarice. Os ma syniad yn boblogaidd gyda grwp reit annifyr o bobl, ydi hynny'n neud y syniad ei hun yn anghywir?


Be sy'n neud y syniad yn anghywir yw ei fod yn hollol hollol beryglus. Rwyt ti ishe stopio pobol sy' ddim yn ennill arian rhag cenhedlu plant. Bydde eraill ishe stopio pobol sy' a phrobleme meddyliol neu anabledd corfforol rhag cenhedlu. Bydde eraill wedyn am rwystro lleifarifoedd ethnig. Falle bydde rhai o blaid rhwystro siaradwyr Cymraeg rhag cenhedlu. Ddyle'r wladwriaeth fyth fod â'r grym i rwystro unrhyw garfan o bobol rhag cael plant os ydyn nhw ishe.

PostioPostiwyd: Gwe 21 Mai 2004 8:55 am
gan Dielw
Chris Castle a ddywedodd:Sosialwr ydw i a dwi'n o blaid rhoi Cap ar arian y dol. Dim tal ychwanegol wedi taliad am ddau o blant.
Hefyd dylai gweithwyr cael hawl i fyw mewn Tai Cyngor. Dylai'r arian oddi ar werthu Tai cyngor yn cael ei ddefnyddio i adeiladu tai newydd.

Dwi'n cytuno efo hyn. Y broblem ydi sa cap ar arian y dôl yn golygu amodau byw afiach i blant rhieni anghyfrifol, a dydi'r plant yma methu dewis eu rhieni.