Piers Morgan wedi cael y sac

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Panom Yeerum » Sul 16 Mai 2004 3:46 pm

Dylan a ddywedodd:Os ydi pobl yn ymuno â'r fyddin heb sylweddoli bod perygl eu bod am orfod mynd mewn i ryfel, yna mae nhw'n rhy dwp i ymdopi â'r fath gyfrifoldeb.
Fy mhwynt oedd (os y darlleni di yn iawn!) na fuasai neb wedi disgwyl rhyfel mor fawr a hon, ac ar ben hyn...
Fi a ddywedodd: i fynd yn ôl i bwynt y drafodaeth, mae gan y milwyr digon i ymdopi gyda, heb unrhyw bropoganda negyddol megis lluniau ffug!
Panom Yeerum
 

Postiogan Cwlcymro » Sul 16 Mai 2004 3:48 pm

Wrth gwrs! Nes i anghofio bod y red cross ac amnesty international yn cael mynediad i'r carchardai i gadw golwg ar y carcharorion. Yr unig beth sy'n bosib iddynt ddweud ydy beth y maent yn glywed gan bobl Iraq - propoganda unwaith eto!


Mi wnaeth y Red Cross a Amnesty wneud ei datganiadau ar ol cael mynd mewn i'r carchardai i weld. maen nhw wedi ei ysgrifennu ar be welso nhw yn y carchardai.

A gan fod y llywodraeth yn trio cuddio ei celwydda drwy ddeud fod y fyddin yn gwybod am bopeth wnaeth Red Cross a Amnesty son am cyn cael y reports, ma nhw'n cyfadda fod na sail i bopeth ynddo!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Sul 16 Mai 2004 3:57 pm

Panom Yeerum a ddywedodd:Fy mhwynt oedd (os y darlleni di yn iawn!) na fuasai neb wedi disgwyl rhyfel mor fawr a hon


Pam? Mae nhw mewn byddin genedlaethol. Paratoi am bethau fel yna ydi holl bwrpas y swydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan bartiddu » Llun 17 Mai 2004 10:26 pm

Ymddiheuriadau os mae hyn wedi cael ei grybwyll cyn nawr, ond, faint o chi 'conspiracy theorists' allan yna sy'n meddwl bod yna fwy i ffynhonell y lluniau ''ffug'' yma?
Gwyddir neb eto pwy a tynnwyd hwy,a odi'n bosib bod rhywyn wedi trefni yr 'hoax' gan rhagweld y canlyniadau i golygydd y Mirror. Oedd e yn ddigon o boen i'r llywodraeth yn ystod y flwyddyn diwethaf! Tybed a oes yna grymoedd cudd ar waith?
Fel wedodd y Frenhines i Paul Burrell, 'Mae yna grymoedd cudd ar waith yn y wlad hon machgen i' (ma'r frenhines yn rhugl yn yr iaith chi'n gwbod :winc: )

Be' chi'n feddwl, amhosib???
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Cwlcymro » Mer 19 Mai 2004 3:43 pm

Gwyddir neb eto pwy a tynnwyd hwy,a odi'n bosib bod rhywyn wedi trefni yr 'hoax' gan rhagweld y canlyniadau i golygydd y Mirror. Oedd e yn ddigon o boen i'r llywodraeth yn ystod y flwyddyn diwethaf! Tybed a oes yna grymoedd cudd ar waith?


Os ydi hunna'n wir dwi am newid i gefnogi Llafur! Pwy bynnag oedd tu ol i sac Piers Morgan, dwi'n ei cefnogi nhw! :P
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Ffinc Ffloyd » Iau 20 Mai 2004 1:40 pm

Cwlcymro a ddywedodd:
Gwyddir neb eto pwy a tynnwyd hwy,a odi'n bosib bod rhywyn wedi trefni yr 'hoax' gan rhagweld y canlyniadau i golygydd y Mirror. Oedd e yn ddigon o boen i'r llywodraeth yn ystod y flwyddyn diwethaf! Tybed a oes yna grymoedd cudd ar waith?


Os ydi hunna'n wir dwi am newid i gefnogi Llafur! Pwy bynnag oedd tu ol i sac Piers Morgan, dwi'n ei cefnogi nhw! :P


O hisht. Mae lot o bobl yn deud gwynt teg ar ol y Moron, ond dudwch be liciwch chi, ma'r ffordd mae'r llywodraeth yma yn cael y sac i bobl dydyn nhw'm yn licio yn ddychrynllyd iawn i mi. Dwi'n meddwl bod Barti Ddu yn llygad ei drons am ffynhonnell y lluniau.
Rhithffurf defnyddiwr
Ffinc Ffloyd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 558
Ymunwyd: Llun 12 Mai 2003 10:48 am
Lleoliad: Dolgellau

Postiogan Stewart Carson » Iau 20 Mai 2004 2:32 pm

webwobarwla a ddywedodd:Nid wyf yn credu fod plentyn 16 oed yn llwyr amgyffred graddfa penderfyniad megis ymuno a'r fyddin, ac yn sicr nad ydynt yn gallu ymgyffred ymladd rhyfel. Dyna'r pwynt sylfaenol.


mae'n anodd i unrhyw un sydd heb ryfela fedru amgyffred rhyfel, waeth faint yw ei oed. ond rwy'n cytuno fod 16 rhy ifanc i fod yn ymuno efo'r fyddin.

mae'n braf iawn sbio lawr drwyn asgell chwith a dweud 'wel nhw ymunodd efo'r fyddin', ond yn aml hogia o gefndiroedd difreintiedig sy'n ymuno efo'r fyddin am ba bynnag reswm.

o ran Piers Morgan - mae'n garismataidd, ond wedi bod ar erchywn y dibyn ers tro. drwy gyhoeddi'r lluniau a dal ati eu bod yn driw roedd Morgan yn deud celwydd. fedar celwyddgi ddim aros fel golygydd papur mor ddylanwadaol. Morgan gafodd y sac i Morgan.
rwbath-rwbath rywsut-rywsut rwla-rwla fuodd dy hanas di 'rioed, y sglyfath
Stewart Carson
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 62
Ymunwyd: Gwe 30 Ebr 2004 1:57 pm

Postiogan Dylan » Gwe 21 Mai 2004 2:29 pm

Stewart Carson a ddywedodd: mae'n braf iawn sbio lawr drwyn asgell chwith a dweud 'wel nhw ymunodd efo'r fyddin', ond yn aml hogia o gefndiroedd difreintiedig sy'n ymuno efo'r fyddin am ba bynnag reswm.


Heb os, ond maent yn dal yn llawn ymwybodol mai'r rheswm eu bod yn gwneud yr holl waith hyfforddi yna yn y fyddin ydi oherwydd y siawns y bydd galw arnynt i fynd allan i faes y gâd. Mae'r hysbysebion ar y teledu yn dangos yn hen ddigon clir pa mor galed ydi rhyfel.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan webwobarwla » Gwe 21 Mai 2004 6:50 pm

Dylan a ddywedodd: Mae'r hysbysebion ar y teledu yn dangos yn hen ddigon clir pa mor galed ydi rhyfel.


Tyrd yn dy flaen Dylan, a chdithau yn un mor gall. Hysbysebion?! Os byddai'r hysbysebion yn llwyddianus yn y nod yr wyt yn gynnig, beryg na fyddai neb yn ymuno! Meddylia am y peth...
Rhithffurf defnyddiwr
webwobarwla
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 77
Ymunwyd: Gwe 14 Mai 2004 2:17 pm

Postiogan RET79 » Gwe 21 Mai 2004 10:12 pm

webwobarwla a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd: Mae'r hysbysebion ar y teledu yn dangos yn hen ddigon clir pa mor galed ydi rhyfel.


Tyrd yn dy flaen Dylan, a chdithau yn un mor gall. Hysbysebion?! Os byddai'r hysbysebion yn llwyddianus yn y nod yr wyt yn gynnig, beryg na fyddai neb yn ymuno! Meddylia am y peth...


Os ti'n hysbysebu swydd ti fel arfer ond yn hysbysebu'r manteision nid yr anfanteision.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai