Piers Morgan wedi cael y sac

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dylan » Sul 16 Mai 2004 12:49 pm

webwobarwla a ddywedodd: Wyt ti wir yn meddwl eu bod wedi rhagweld, yn 16 oed, y byddent yn canfod eu hunain rai blynyddoedd yn ddiweddarach yn ymladd rhyfel sydd yn golygu dim iddynt?


Be' ddiawl arall ydi pwrpas byddin?

Os ydynt yn rhy dwp i allu rhagweld hynny yna 'dw i'n synnu dim nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan webwobarwla » Sul 16 Mai 2004 12:58 pm

Dylan a ddywedodd:
Be' ddiawl arall ydi pwrpas byddin?

Dim rhyfedd bod dim cymwysterau ganddyn nhw os ydi nhw mor dwp â hynny.


Barn freintiedig arall sydd ddim yn ystyried nifer fawr o ffactorau cymdeithasol, addysgol, ayyb, ayyb...
Rhithffurf defnyddiwr
webwobarwla
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 77
Ymunwyd: Gwe 14 Mai 2004 2:17 pm

Postiogan Dylan » Sul 16 Mai 2004 12:59 pm

heh

Na, 'dw i'n meddwl mai ti sydd yn bod yn anheg ar y milwyr os wyt ti'n credu eu bod mor naif â hynna
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan webwobarwla » Sul 16 Mai 2004 1:09 pm

Nid wyf yn credu fod plentyn 16 oed yn llwyr amgyffred graddfa penderfyniad megis ymuno a'r fyddin, ac yn sicr nad ydynt yn gallu ymgyffred ymladd rhyfel. Dyna'r pwynt sylfaenol.

I'r rhan fwyaf ohonom, mae'r penderfyniadau yr ydym yn ei wneud yn 16 oed yn arwain at y chweched dosbarth, neu goleg. I filwr, mae un penderfyniad a wnaed yn 16 oed yn aros gyda hwy am flynyddoedd i ddod. Ni allent benderfynnu gadael heb gael eu taflu i garchar milwrol.

I gwblhau'r gymhariaeth, os bydde plentyn ysgol 16 oed yn gwneud camgymeriad wrth ddewis pynciau ar gyfer y chweched, y gwaethaf all ddigwydd yw gorfod ail-sefyll y flwyddyn.

Beth bynnag, yr ydym wedi crwydro braidd oddi wrth destun gwreiddiol yr edefyn hwn.
Rhithffurf defnyddiwr
webwobarwla
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 77
Ymunwyd: Gwe 14 Mai 2004 2:17 pm

Postiogan Macsen » Sul 16 Mai 2004 1:11 pm

Webwobarwla a ddywedodd:Fel mae ambell filwr yr wyf yn eu hadnabod wedi dweud wrthyf, wrth gwrs eu bod yn ymwybodol mai ymladd rhyfeloedd oedd prif swyddogaeth byddin, ond yn 16 oed, nid oedd y cysyniad o 'ryfel' yn golygu dim iddynt. Eu unig brofiad o 'ryfel' oedd o ffilmiau oedd yn clodfori'r fyddin a rhyfel yn gyffredinol.


Ffordd arbennig o patronising o edrych ar ein milwyr ifanc! Ti'n cymeryd yn ganiataol ei bod nhw, yn 16, a dim math o syniad o beth oedden nhw'n ei wneud. Ti'n siarad fel ei bod nhw'n blant pedair oed a'i pysgodyn aur nhw wedi marw.

Webwobarwla a ddywedodd:Ai ddim i ymhaelaethu ymhellach, ond hoffwn ofyn wrthot Macsen, faint o filwyr wyt ti'n eu hadnabod?


Dau, a'r ddau yn gwybod mai pwrpas byddin oedd i ryfela.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan webwobarwla » Sul 16 Mai 2004 1:27 pm

Macsen a ddywedodd: Ti'n cymeryd yn ganiataol ei bod nhw, yn 16, a dim math o syniad o beth oedden nhw'n ei wneud.


Ydw i raddau, yn seiliedig ar fy atgofion i o fod yn 16 oed (aw, poenus... :winc: ). Yn sicr ddigon, nid oeddwn i na dim bachgen arall yr oeddwn yn eu hadnabod pan yn 16 oed a dim syniad beth oedden ni'n wneud. Gallaf dy sicrhau fodd bynnag ein bod yn meddwl ein bod yn gwybod.
Rhithffurf defnyddiwr
webwobarwla
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 77
Ymunwyd: Gwe 14 Mai 2004 2:17 pm

Postiogan Panom Yeerum » Sul 16 Mai 2004 3:32 pm

webwobarwla a ddywedodd:Ni allent benderfynnu gadael heb gael eu taflu i garchar milwrol.
Bolycs llwyr!

Nid wyf yn cytuno â safbwyntau web o gwbl, ond rwy'n anghytuno â'r gweddill ohonoch hefyd! Wrth edrych ar hanes diweddar byddin prydain, nid oes wedi bod unrhyw ryfel fel hyn. Gwir, roedd yna broblemau yn Iwerddon, Kosavo a.y.b ond dim byd i raddau Iraq, ac felly cyn 09/11 ni fedraf weld sut y buasai milwyr wedi gallu meddwl y buasai rhyfel o'r maint yma (anhebyg iawn y buasai milwyr sydd efo llai na 3 blynedd o brofiad wedi mynd i Iraq.) Ac ar ben hyn i gyd, i fynd yn ôl i bwynt y drafodaeth, mae gan y milwyr digon i ymdopi gyda, heb unrhyw bropoganda negyddol megis lluniau ffug!
Panom Yeerum
 

Re: Piers Morgan wedi cael y sac

Postiogan Cwlcymro » Sul 16 Mai 2004 3:33 pm

Panom Yeerum a ddywedodd:
Ffinc Ffloyd a ddywedodd:mi OEDD yr arteithio yma'n digwydd yn Irac (a mae o'n dal)
Sut w ti'n gwbod hyn - does dim tystiolaeth bod milwyr prydeinig wedi!!! Lle wyt ti wedi cael dy wybodaeth? O bapur newydd mi dybiaf - sydd wedi eu camarwain efallai? meddylia!


Gan y Red Cross ella? Neu Amnesty International?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Sul 16 Mai 2004 3:41 pm

Panom Yeerum a ddywedodd:Nid wyf yn cytuno â safbwyntau web o gwbl, ond rwy'n anghytuno â'r gweddill ohonoch hefyd! Wrth edrych ar hanes diweddar byddin prydain, nid oes wedi bod unrhyw ryfel fel hyn. Gwir, roedd yna broblemau yn Iwerddon, Kosavo a.y.b ond dim byd i raddau Iraq, ac felly cyn 09/11 ni fedraf weld sut y buasai milwyr wedi gallu meddwl y buasai rhyfel o'r maint yma (anhebyg iawn y buasai milwyr sydd efo llai na 3 blynedd o brofiad wedi mynd i Iraq.)


Os ydi pobl yn ymuno â'r fyddin heb sylweddoli bod perygl eu bod am orfod mynd mewn i ryfel, yna mae nhw'n rhy dwp i ymdopi â'r fath gyfrifoldeb.

'Dw i'n siwr nad ydi'r fyddin isio derbyn y fath bobl chwaith.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Panom Yeerum » Sul 16 Mai 2004 3:43 pm

Wrth gwrs! Nes i anghofio bod y red cross ac amnesty international yn cael mynediad i'r carchardai i gadw golwg ar y carcharorion. Yr unig beth sy'n bosib iddynt ddweud ydy beth y maent yn glywed gan bobl Iraq - propoganda unwaith eto! Does neb yn gwbod beth sy'n digwydd yno, ond mi dybiaf y bod ganddynt pethau pwysicach i'w poeni amdano na piso ar Iraqi!
Panom Yeerum
 

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron