Wel, mi ath yn diwedd. Ac er fod y boi wedi gwneud camgymeriad, allai ddim peidio teimlo ei fod o wedi cael cam - mi OEDD yr arteithio yma'n digwydd yn Irac (a mae o'n dal) a dwi'n reddfol yn cydymdeimlo efo unrhyw bapur sy'n rhedeg stori gwrth-bolisi Prydain yn Irac(i.e, nid The Sun <piwc>). A dwi jyst abowt a chael llond bol o'r wancars yna sy'n dweud bod cyhoeddi'r lluniau wedi 'peryglu bywydau Our Boys' - mae'r person nesa i sbowtio'r crap yna'n haeddu cael ei golbio'n ddu-las. Efo cerrig.
A dwi'n methu helpu mond gwneud y gymhariaeth - mi ddaru'r bobl nath y llun gamarwain Piers druan, a mi gollodd ei job achos ei fod o wedi gwneud error of judgement i'w credu nhw. Mi ddaru MI6 gamarwain Tony Blair(sbesifficali, y boi sy'n BENNAETH MI6 rwan aru gamarwain Tony Blair) am y rheswm dros ryfel yn Irac, a wnaeth o ddim colli ei job am wneud error of judgement. Anghysondeb bach yn fanna?