Piers Morgan wedi cael y sac

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Ffinc Ffloyd » Sul 23 Mai 2004 11:37 pm

RET79 a ddywedodd:
webwobarwla a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd: Mae'r hysbysebion ar y teledu yn dangos yn hen ddigon clir pa mor galed ydi rhyfel.


Tyrd yn dy flaen Dylan, a chdithau yn un mor gall. Hysbysebion?! Os byddai'r hysbysebion yn llwyddianus yn y nod yr wyt yn gynnig, beryg na fyddai neb yn ymuno! Meddylia am y peth...


Os ti'n hysbysebu swydd ti fel arfer ond yn hysbysebu'r manteision nid yr anfanteision.


Os ydi rhywun yn hysbysebu job llnau toilets, dydyn nhw ddim yn mynd i bwysleisio'r anfanteision; ond mi fydda hi'n cymryd moronsyn o'r radd flaenaf i beidio sylweddoli eu bod nhw'n mynd i fod yn handlo cachu.
Rhithffurf defnyddiwr
Ffinc Ffloyd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 558
Ymunwyd: Llun 12 Mai 2003 10:48 am
Lleoliad: Dolgellau

Postiogan Dylan » Llun 24 Mai 2004 11:38 am

Enghraifft bach oedd y hysbysebion. Be' 'di'r lein 'na maet yn ey defnyddio? Mai dim ond 99% sy'n ffit i ymuno?

Jyst pwysleisio'r pwynt bod y milwyr yn gwybod yn iawn beth maent yn ei wneud wrth ymuno ydw i. Ac os 'dydyn nhw ddim, dylen nhw ddim cael gwneud.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Stewart Carson » Maw 25 Mai 2004 3:07 pm

Dylan a ddywedodd:Enghraifft bach oedd y hysbysebion. Be' 'di'r lein 'na maet yn ey defnyddio? Mai dim ond 99% sy'n ffit i ymuno?

Jyst pwysleisio'r pwynt bod y milwyr yn gwybod yn iawn beth maent yn ei wneud wrth ymuno ydw i. Ac os 'dydyn nhw ddim, dylen nhw ddim cael gwneud.


mae'r Fyddin yn gwario arian mawr ar hysbysebion yn pwysleisio'r bendithion - cyfle i drafeilio, dysgu crefft all arwain at yrfa, datblygu hunanhyder ayb.

dydyn nhw ddim yn dangos cyn-filwyr sy'n dioddef problemau iechyd meddwl, yn alcis ayb. oherwydd eu bod nhw wedi gweld pethau erchyll yng ngogledd Iwerddon/lle bynnag.
rwbath-rwbath rywsut-rywsut rwla-rwla fuodd dy hanas di 'rioed, y sglyfath
Stewart Carson
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 62
Ymunwyd: Gwe 30 Ebr 2004 1:57 pm

Postiogan Cwlcymro » Maw 25 Mai 2004 3:10 pm

Stewart Carson a ddywedodd:mae'r Fyddin yn gwario arian mawr ar hysbysebion yn pwysleisio'r bendithion - cyfle i drafeilio, dysgu crefft all arwain at yrfa, datblygu hunanhyder ayb.
dydyn nhw ddim yn dangos cyn-filwyr sy'n dioddef problemau iechyd meddwl, yn alcis ayb. oherwydd eu bod nhw wedi gweld pethau erchyll yng ngogledd Iwerddon/lle bynnag.


Ond da ni i gyd yn gwybod ma dyna sy'n digwydd. Oesna unrhywun wir yn ymuno a'r fyddin ddim yn gwybod fod siawns cael ei anafu/ladd?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Panom Yeerum » Maw 25 Mai 2004 4:56 pm

Nid yw'n bosib ymuno yn 16 heb ganiatad rhiant/gwarchodwr - felly dylid edrych arno fel 18. dylan "99.9% need not apply"=marines nid y fyddin, felly stori hollol wahanol yn fana! Y prif bwynt yw, lle arall y maen bosib i ennill dros £20,000 ar ôl blwyddyn yn y swydd? I bobl ifanc heb gymwysterau mae hi'n obsiwn dda i wneud pres. Dwi isio gweithio yn y banc - i neud pres nid i dwyllo pobl oddi wrth eu pres! I lawer o bobl pres 1af, swydd 2il!
Panom Yeerum
 

Postiogan Dylan » Maw 25 Mai 2004 5:04 pm

Ond mae'r prif bwynt yn dal yn ddilys siawns - os ti'n ymuno â'r fyddin ti'n derbyn y perygl - hwyrach, efallai! - y bydd raid i ti fynd allan i ymladd!

elli di ddim cymharu hynna â gweithio mewn banc
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Stewart Carson » Mer 26 Mai 2004 3:32 pm

Dylan a ddywedodd:Ond mae'r prif bwynt yn dal yn ddilys siawns - os ti'n ymuno â'r fyddin ti'n derbyn y perygl - hwyrach, efallai! - y bydd raid i ti fynd allan i ymladd!


does dim dianc rhag hyn. Fy nghwyn yw bod y fyddin yn gwerthu'r syniad o fod yn filwr fel rhywbeth atyniadol a da (gan dderbyn y byddai'n anodd iawn gwerthu'r swydd gyda'r slogan 'Ymuna efo'r fyddin, a rho dy hun mewn bedd cynnar')

mae'n hawdd dweud 'os ti'n cymryd y pres rhaid ti ddiodda'r gwres' ond ma'r unig filwyr dwi'n nabod yn hogia iawn sydd jest methu cael gwaith call ar ol gadael ysgol, ac yn enlistio. mae'n ffaith fod fwy o Gymry yn y Fyddin o ran canran, nag o Saeson - ydi hyn oherwydd fod Cymru yn wlad dlotach na Lloegr?
rwbath-rwbath rywsut-rywsut rwla-rwla fuodd dy hanas di 'rioed, y sglyfath
Stewart Carson
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 62
Ymunwyd: Gwe 30 Ebr 2004 1:57 pm

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron