Dielw a ddywedodd:Fel dy TV,
tydy pobl yn cymryd pethe'n ganiataol, dwedwch?!
Dielw a ddywedodd:rwbeth cymharol newydd yw democratiaeth a chydraddoldeb i'r byd Mwslemaidd. Dwi ddim yn deud dim yn erbyn Arabeg, na mwslemiaid, ond ma'n rhaid i chi dderbyn bod y ddwy gymdeithas yn wahanol. A fydd hyn yn arwain at ymladd? Ma hyn yn dibynnu ar sut ma pobl yn addasu...
aran a ddywedodd:mae'r agwedd bod dim ond un ffordd o fyw sy'n gywir, sef y ffordd gorllewinol, a bod rhaid am batrymau llywodraethu fel y rhai sydd gennon ni, yn feddylfryd cul a pheryglus.
Pryd dwi di deud mai un ffordd o fyw sy'n gywir? Deud o'n i bod cymdeithas sy'n caniatâu dyn fel Hamza i weithredu fel mae o di neud am mor hir yn gofyn am drwbl.
i fod yn fanwl, wedest ti bod gen ti ddim fydd S.W. (hyd y gwela i), a'r 'ffydd' roedd S.W. wedi mynegi oedd 'Maen ran mawr o grefydd Mwslemaidd eu bod yn cynorthwyo'r gymuned gyfan ermwyn iddynt gael bywyd da'...
dwyt ti ddim yn credu hynny, felly?
a ti'n dal i daflu democratiaeth a chydraddoldeb i mewn i'r un lwmp, fel bod 'na ddim modd i gael un heb y llall? mae democratiaeth yn gymharol newydd yn y byd mwslemaidd, ia, ond dydy cydraddoldeb ddim - gwerth darllen y Koran, efallai...
yn bersonol, does gen i ddim dy ffydd di mewn 'democratiaeth' - nid, o leia, y fersiwn ffug sydd gennon ni yn y byd gorllewinol ar y funud...
ac wedi byw o dan unben clyfar a chymharol moesol, mae'n amlwg i mi bod 'na modd rhedeg gwlad yn fwy effeithiol o lawer na beth sy'n digwydd ym Mhrydain dyddiau hyn...