Postiwyd: Gwe 28 Mai 2004 9:10 am
Mi astudiodd o yn Brighton a wedyn gweithio fel door man, wedyn wedi gweithio yn Afghanistan (gyda'r Muhajideen, ond ar ol hynny gyda grwpiau eraill, be oedd on neud gyda nhw mae hynny i fyny i'r Americanwyr weithio allan, mae o hefyd yn honi i fod yn gweithio gyda grwpiau Mwslemaidd yn Bosnia), ym Mhrydain ei waith oedd pregethu yn mosque Parc Finzbury a wedyn tu allan. pan gafodd ei daflu allan.
Mae'r person yn ddyn perryg, a mae'r mwyafrif o Fwslemiaid yn derbyn hynny, ac yn ei gasau am wneud pethau yn llawer anoddach iddynt nhw ym Mhrydain. Os wyt ti eisiau cael darlun iawn o sut y mae Mwslemiaid ym Mhrydain yn byw, mi allai drefny dy fod yn cael cwrdd a rhai, mi gei di fynd i Ganolfan Islamaidd a edrycha ar faint o groeso byddi di'n ei gael - ar ol hyn wedyn cer ati i ffurfio dy farn amdanynt. Rhaid i mi ddeud mae rhai o'r pobl mwyaf cyfeillgar dwi erioed wedi dod ar eu draws.
Cynyrch Gorllewinol ydy Democratiaeth felly yn amlwg byddai hynny ddim yn cyrraedd y Dwyrain Canol yn syth - mae llawer o bobl Mwslemaidd yn dymuno cael yr hawl i redeg eu bywydau eu hunain. Efallai dy fod yn meddwl fy mod yn rhywfath o 'lefti rhyddfrydol' ond dwi wedi cwrdd a nifer fawr o'r bobl yma a wedi cael fy synnu ar yr ochr orau am sut y maer bobl yma'n byw eu bywydau.