Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Gwe 28 Mai 2004 9:10 am
gan S.W.
Mi astudiodd o yn Brighton a wedyn gweithio fel door man, wedyn wedi gweithio yn Afghanistan (gyda'r Muhajideen, ond ar ol hynny gyda grwpiau eraill, be oedd on neud gyda nhw mae hynny i fyny i'r Americanwyr weithio allan, mae o hefyd yn honi i fod yn gweithio gyda grwpiau Mwslemaidd yn Bosnia), ym Mhrydain ei waith oedd pregethu yn mosque Parc Finzbury a wedyn tu allan. pan gafodd ei daflu allan.

Mae'r person yn ddyn perryg, a mae'r mwyafrif o Fwslemiaid yn derbyn hynny, ac yn ei gasau am wneud pethau yn llawer anoddach iddynt nhw ym Mhrydain. Os wyt ti eisiau cael darlun iawn o sut y mae Mwslemiaid ym Mhrydain yn byw, mi allai drefny dy fod yn cael cwrdd a rhai, mi gei di fynd i Ganolfan Islamaidd a edrycha ar faint o groeso byddi di'n ei gael - ar ol hyn wedyn cer ati i ffurfio dy farn amdanynt. Rhaid i mi ddeud mae rhai o'r pobl mwyaf cyfeillgar dwi erioed wedi dod ar eu draws.

Cynyrch Gorllewinol ydy Democratiaeth felly yn amlwg byddai hynny ddim yn cyrraedd y Dwyrain Canol yn syth - mae llawer o bobl Mwslemaidd yn dymuno cael yr hawl i redeg eu bywydau eu hunain. Efallai dy fod yn meddwl fy mod yn rhywfath o 'lefti rhyddfrydol' ond dwi wedi cwrdd a nifer fawr o'r bobl yma a wedi cael fy synnu ar yr ochr orau am sut y maer bobl yma'n byw eu bywydau.

PostioPostiwyd: Gwe 28 Mai 2004 9:49 am
gan Dielw
GDG a ddywedodd:'Croeso i America arteithio a lladd pwy fynnan nhw'.

Ddim dyma be dwi'n deud. Croeso i America ladd Abu Hamza dwi'n deud os yw'n derfysgwr.

GDG a ddywedodd:Rwyt ti felly yn dweud fod hawliau dynol Iraciaid yn bwysicach na hawliau dynol y dyn yma.
Wrth gwrs dylai fod gan Iraci cyffredin fwy o hawliau dynol na fo - dylai iracis fod yn rhydd, dylai fo ddim.

Mae'n debyg amser a ddengys, S.W...

PostioPostiwyd: Gwe 28 Mai 2004 9:54 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Dielw a ddywedodd:
GDG a ddywedodd:'Croeso i America arteithio a lladd pwy fynnan nhw'.

Ddim dyma be dwi'n deud. Croeso i America ladd Abu Hamza dwi'n deud os yw'n derfysgwr.

GDG a ddywedodd:Rwyt ti felly yn dweud fod hawliau dynol Iraciaid yn bwysicach na hawliau dynol y dyn yma.
Wrth gwrs dylai fod gan Iraci cyffredin fwy o hawliau dynol na fo - dylai iracis fod yn rhydd, dylai fo ddim.

Mae'n debyg amser a ddengys, S.W...


Wel, mae 'na gytundeb rhwng America a Phrydain sy'n dweud na all Hamza gael ei ddienyddio gan y bydd yn cael ei drin o dan gyfraith Prydain.

Gyda llaw, edrych di'n ofalus a mae dy ddau ddatganiad yn gwrth-ddweud ei gilydd... :rolio:

Dielw: Dwi ddim yn deud y caiff America arteithio pwy fynnan nhw... dylai Abu Hamza gael ei ddal a'i arteithio gan America.

PostioPostiwyd: Gwe 28 Mai 2004 9:59 am
gan Panom Yeerum
Tydi Dielw ddim yn gwrth ddweud ei hun o gwbl.
dyfyniad a ddywedodd:Dwi ddim yn deud y caiff America arteithio pwy fynnan nhw
h.y. pobl dieuog, e.e. unrhyw fwslim oddi ar y stryd
dyfyniad a ddywedodd:dylai Abu Hamza gael ei ddal a'i arteithio gan America.
Mae Abu Ham Sandwich yn derfysgwr, ac felly yn torri cyfreithiau America! Does dim cymharu y ddau ddatganiad uchod!

PostioPostiwyd: Gwe 28 Mai 2004 10:06 am
gan Cwlcymro
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Wel, mae 'na gytundeb rhwng America a Phrydain sy'n dweud na all Hamza gael ei ddienyddio gan y bydd yn cael ei drin o dan gyfraith Prydain.


Anghywir. Mae'n amhosib iddo gael ei drin dan gyfraith Prydain yn America. Y funud mae o ar ei tir nhw all Prydain ddim gwneud dim byd am y peth.

Ond ma Prydain wedi ei gwneud hi'n amlwg erioed wna wnaw nhw byth 'extraditio' neb i unrhyw wlad sy'n bygwth ei lladd. Felly mi wnawn nhw ofyn am addewid gan Bush i bedio ei ladd o. Mi gytunith hwnnw, a mi wneith o ordro ei erlynydd i beidio a gofyn am y gosb eithaf. Does na ddim cytundeb cyfreithol na geith o ei ladd, ond fysa America byth yn gwneud achos fysa hunna yn ddiwadd ar unrhyw 'extraditio' pellach efo Prydain.

Am Dielw, ma gan pob person yn Brydain yr hawl i reolau'r gyfraith. 'Innocent until proven guilty', dim cosb eithaf, legal aid (dyna oedd Hamsa yn ei gael dim buddaliadau).
Y funud da ni'n gwrthod rheini i bobl da ni ddim yn licio, ma'r holl system gyfreithiol yn chwalu (Geiria Peter Hain, ac am y tro cynta erioed, dwi'n cytuno efo fo!!)

Glywodd rywun Janet Street Porter ar Question Time neithiwr? Mi oddi'n mynd mlaen a mlaen am gymaint mae hi'n casau pobl hiliol!! Nachdi hypocrit!

PostioPostiwyd: Gwe 28 Mai 2004 10:06 am
gan S.W.
Dydyn ni ddim yn gwbo os ydy on derfysgwr eto, mae'r Unol Daleithiau a Yemen wedi deud bod ganddynt dystiolaeth ei fod wedi cefnogi terfysgaeth, ond dydym ni ddim yn gwbod hynny eto.

Mae Di euog nes profi yn euog yn ddal yn rhan canolog (i fod) o gyfraith a threfn ym Mhrydain (hyd yn oed i Mwlsemiaid!) felly dydym ni ddim yn gwbod yn iawn be mae wedi ei wneud eto. Ydy deud ei fod yn defnogi terfysgaeth yn ei wneud yn derfysgwr? Dydw i ddim yn siwr.

Pwynt arall - mae o rwan yn carchar Belmarsh, be sydd yn digwydd iw 'grafang' o sydd ganddo yn lle llaw, dwin cymryd byddant yn ei dynnu i ffwrdd neu gwneud iddo gerdded o gwmpas gyda fo mewn corcyn neu rhywbeth :?

PostioPostiwyd: Gwe 28 Mai 2004 10:13 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Panom Yeerum a ddywedodd:Tydi Dielw ddim yn gwrth ddweud ei hun o gwbl.
dyfyniad a ddywedodd:Dwi ddim yn deud y caiff America arteithio pwy fynnan nhw
h.y. pobl dieuog, e.e. unrhyw fwslim oddi ar y stryd
dyfyniad a ddywedodd:dylai Abu Hamza gael ei ddal a'i arteithio gan America.
Mae Abu Ham Sandwich yn derfysgwr, ac felly yn torri cyfreithiau America! Does dim cymharu y ddau ddatganiad uchod!


Yr hyn y mae Dielw yn ei ddweud yw fod hawliau dynol yn bethau mympwyol y gellir ei cymhwyso fel y mae America'n dewis. Hawliau dynol i un grwp, ond ddim i grwp arall. Sut yn union y mae ei annwyl ddemocratiaeth i fod i weithio o dan amodau o'r fath? Mae'n anghyfreithlon i America arteithio neu ladd Hamza (paid â gwneud sbort am ei enw fe'r ffwlbart), diwedd y stori.

Ta beth, sylwer ar ddechrau'r drafodaeth fy mod i'n condemnio Hamza. Rwy'n cytuno gymaint â chi ei fod e'n foi atgas sy'n haeddu cael ei arestio, ond allwch chi ddim dweud 'hawliau dynol i Irac, dim hawliau dynol i Abu Hamza'. Byddai democratiaeth yn cael ei chwalu'n deilchion.

PostioPostiwyd: Gwe 28 Mai 2004 10:16 am
gan Dielw
Janet Street Porter yn gymaint o bitch wirion. Deud y gwir ma hi jyst mor wirion â'r Hamza na.

Dydyn ni ddim yn gwbo os ydy on derfysgwr eto, mae'r Unol Daleithiau a Yemen wedi deud bod ganddynt dystiolaeth ei fod wedi cefnogi terfysgaeth, ond dydym ni ddim yn gwbod hynny eto.

Ie, ma hynny digon gwir. Ma o fel dyn drwg mewn pantomeim - rili windio fi fyny.

PostioPostiwyd: Gwe 28 Mai 2004 10:48 am
gan Aran
Dielw a ddywedodd:Dim ond yn ddiweddar ma'r ieithoedd mwslemaidd di creu geiriau ar gyfer "democratiaeth" a "cydraddoldeb", felly dwi ddim gyda dy ffydd di yn anffodus.


o le yn union ydy'r nonsens 'ma yn dod? be nesaf, hawlio nad ydy'r Gymraeg yn iaith fodern oherwydd bod ganddi ddim gair am television?

mae arabeg yn un o'r ieithoedd cyfoethocaf y byd, ac mae dy agweddau di tuag at ffydd cyfan yn gywilyddus.

mae gen y byd mwslemaidd lawer iawn o bethe iach sydd wedi'u colli i raddfeydd dychrynllyd yn y byd mawr gorllewinol mor hynod o berffaith yma, fel deall pwysigrwydd cymunedau, fel parchu'r henoed, fel parchu athrawon, fel cadw'r uned teuleuol at ei gilydd...

mae'r agwedd bod dim ond un ffordd o fyw sy'n gywir, sef y ffordd gorllewinol, a bod rhaid am batrymau llywodraethu fel y rhai sydd gennon ni, yn feddylfryd cul a pheryglus.

agweddau tebyg, wrth gwrs, sydd wrth wraidd llawer iawn o'r drwgdeimlad sydd wedi helpu creu awyrgylch lle mae terfysgaeth yn medru ffynnu...

PostioPostiwyd: Gwe 28 Mai 2004 1:12 pm
gan Dielw
aran a ddywedodd:mae gen y byd mwslemaidd lawer iawn o bethe iach sydd wedi'u colli i raddfeydd dychrynllyd yn y byd mawr gorllewinol mor hynod o berffaith yma
Dydw i'n sicr ddim yn deud bod byd y gorllewin yn berffaith, jyst gwahanol.

Fel dy TV, rwbeth cymharol newydd yw democratiaeth a chydraddoldeb i'r byd Mwslemaidd. Dwi ddim yn deud dim yn erbyn Arabeg, na mwslemiaid, ond ma'n rhaid i chi dderbyn bod y ddwy gymdeithas yn wahanol. A fydd hyn yn arwain at ymladd? Ma hyn yn dibynnu ar sut ma pobl yn addasu...

aran a ddywedodd:mae'r agwedd bod dim ond un ffordd o fyw sy'n gywir, sef y ffordd gorllewinol, a bod rhaid am batrymau llywodraethu fel y rhai sydd gennon ni, yn feddylfryd cul a pheryglus.

Pryd dwi di deud mai un ffordd o fyw sy'n gywir? Deud o'n i bod cymdeithas sy'n caniatâu dyn fel Hamza i weithredu fel mae o di neud am mor hir yn gofyn am drwbl.