Tudalen 3 o 3

PostioPostiwyd: Gwe 28 Mai 2004 2:43 pm
gan Cwlcymro
Dielw a ddywedodd:Fel dy TV, rwbeth cymharol newydd yw democratiaeth a chydraddoldeb i'r byd Mwslemaidd. Dwi ddim yn deud dim yn erbyn Arabeg, na mwslemiaid, ond ma'n rhaid i chi dderbyn bod y ddwy gymdeithas yn wahanol.


Dydi Cymru erioed wedi bod dan unben, comiwnydd, na arlywydd, ma gynna ni dal air amdany nhw toes!

PostioPostiwyd: Gwe 28 Mai 2004 3:45 pm
gan Panom Yeerum
be di pwynt cael gair amdanyn nhw os oes gennym ni ddim gair ynddyn nhw?! Mae Hamza yn haeddu ei drin yn deg, ond os yw wedi bod yn gwneud yr hyn y mae'r sun yn ei honni, yna lladdwch y bastad (dyna fysa yn digwydd i orllewinwr yn irac!)

on. tydi teledu ddim yn air cymraeg am television?

PostioPostiwyd: Gwe 28 Mai 2004 3:50 pm
gan Cwlcymro
Panom Yeerum a ddywedodd:Mae Hamza yn haeddu ei drin yn deg, ond os yw wedi bod yn gwneud yr hyn y mae'r sun yn ei honni, yna lladdwch y bastad (dyna fysa yn digwydd i orllewinwr yn irac!)

Cytuno efo'r rhan gynta, anghytuno yn chwyrn efo'r efo'r ail. Does na ddim lle i ddienyddio yng nghyfraith prydain, a ddylsa ni ddim cefnogi unhryw wlad sydd yn gwneud hynny. Wrth gwrs, ma'n siwr na cadw yn dawal wneith Blair pan mai'n dod yn amsar i ddienyddio Saddam.

Mi wti isho i Brydain ddechrau dienyddio eto felly? Wir? Pam?

Panom Yeerum a ddywedodd:on. tydi teledu ddim yn air cymraeg am television?


Duda hunna wrth janet Steet Porter ta!

PostioPostiwyd: Gwe 28 Mai 2004 3:54 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Panom Yeerum a ddywedodd:be di pwynt cael gair amdanyn nhw os oes gennym ni ddim gair ynddyn nhw?! Mae Hamza yn haeddu ei drin yn deg, ond os yw wedi bod yn gwneud yr hyn y mae'r sun yn ei honni, yna lladdwch y bastad (dyna fysa yn digwydd i orllewinwr yn irac!)


Nid gan y wladwriaeth, a dyna sy'n bwysig yn y mater hwn. Dyw ymateb yn yr un modd â grwpiau terfysgol ddim yn ffordd i wladwriaeth ymddwyn.

O, ac fe anghofies i bod The Sun yn bapur newydd heb ei ail sy'n gohebu mewn ffordd gwbl ddiduedd a gonest! :rolio:

PostioPostiwyd: Gwe 28 Mai 2004 4:13 pm
gan Panom Yeerum
jôc oedd y rhan the sun gwahanglwyf - wrth gwrs rydwyf fel tydi yn darllen The Observer!

Cwlcymro: ydw di yn credu yn y gosb eithaf. Yn fy marn i dylsai pob lofruddiwr a paedophile gael eu dienyddio. Ateb arall buasai cloi paedophile mewn ystafell efo 10 o famau! Cyfiawnder.

PostioPostiwyd: Gwe 28 Mai 2004 5:34 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Panom Yeerum a ddywedodd:Cwlcymro: ydw di yn credu yn y gosb eithaf. Yn fy marn i dylsai pob lofruddiwr a paedophile gael eu dienyddio. Ateb arall buasai cloi paedophile mewn ystafell efo 10 o famau! Cyfiawnder.


Felly, yn dy fyd bach di, byse'r Birmingham Six, y Guildford Four, y Cardiff Three wedi hen farw. Diddorol... :rolio:

Ti'n darllen The Observer? Ti'n siwr mai nid The Christian Monitor Observer yw e?

PostioPostiwyd: Sul 30 Mai 2004 12:38 pm
gan Cwlcymro
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Felly, yn dy fyd bach di, byse'r Birmingham Six, y Guildford Four, y Cardiff Three wedi hen farw. Diddorol... :rolio:


Tri rheswm pam does ganddo ni ddim dienyddio yn Brydain

1. Y Birmingham Six, Cardiff Three ect

2. Da ni ddim yn disgyn i lefal llofruddion

3. Dio yn gwneud DIM gwahaniaeth i nifer o lofruddiaethau

PostioPostiwyd: Sul 30 Mai 2004 12:58 pm
gan Aran
Dielw a ddywedodd:Fel dy TV,


tydy pobl yn cymryd pethe'n ganiataol, dwedwch?!

Dielw a ddywedodd:rwbeth cymharol newydd yw democratiaeth a chydraddoldeb i'r byd Mwslemaidd. Dwi ddim yn deud dim yn erbyn Arabeg, na mwslemiaid, ond ma'n rhaid i chi dderbyn bod y ddwy gymdeithas yn wahanol. A fydd hyn yn arwain at ymladd? Ma hyn yn dibynnu ar sut ma pobl yn addasu...

aran a ddywedodd:mae'r agwedd bod dim ond un ffordd o fyw sy'n gywir, sef y ffordd gorllewinol, a bod rhaid am batrymau llywodraethu fel y rhai sydd gennon ni, yn feddylfryd cul a pheryglus.

Pryd dwi di deud mai un ffordd o fyw sy'n gywir? Deud o'n i bod cymdeithas sy'n caniatâu dyn fel Hamza i weithredu fel mae o di neud am mor hir yn gofyn am drwbl.


i fod yn fanwl, wedest ti bod gen ti ddim fydd S.W. (hyd y gwela i), a'r 'ffydd' roedd S.W. wedi mynegi oedd 'Maen ran mawr o grefydd Mwslemaidd eu bod yn cynorthwyo'r gymuned gyfan ermwyn iddynt gael bywyd da'...

dwyt ti ddim yn credu hynny, felly?

a ti'n dal i daflu democratiaeth a chydraddoldeb i mewn i'r un lwmp, fel bod 'na ddim modd i gael un heb y llall? mae democratiaeth yn gymharol newydd yn y byd mwslemaidd, ia, ond dydy cydraddoldeb ddim - gwerth darllen y Koran, efallai...

yn bersonol, does gen i ddim dy ffydd di mewn 'democratiaeth' - nid, o leia, y fersiwn ffug sydd gennon ni yn y byd gorllewinol ar y funud...

ac wedi byw o dan unben clyfar a chymharol moesol, mae'n amlwg i mi bod 'na modd rhedeg gwlad yn fwy effeithiol o lawer na beth sy'n digwydd ym Mhrydain dyddiau hyn...