Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Sul 06 Meh 2004 9:29 pm
gan Newt Gingrich
Dylan a ddywedodd:"i ti"

I bawb arall, ffasgiaeth ydi:

1. a) A system of government marked by centralization of authority under a dictator, stringent socioeconomic controls, suppression of the opposition through terror and censorship, and typically a policy of belligerent nationalism and racism.

b) A political philosophy or movement based on or advocating such a system of government.

2. Oppressive, dictatorial control.


http://dictionary.reference.com/search?r=67&q=fascism


Dwi'n credu fod pwynt 2 yn adlewyrchu yn berffaith fy mhwynt gwreiddiol.

Nid diog yw cyhuddo SF o fod yn ffasgaidd - dim ond ffaith. Onid gair arall am ffasgiaeth yw marcsiaeth Prysor? Stalin / Hitler - spot the difference.

Trais yw sail rheolaeth SF ar gymunedau dosbarth gweithiol o fewn gogledd Iwerddon yn yr un modd a trais oedd yn galluogi ffasgwyr y 30au i wrthdroi rheolaeth ddemocratiaeth.

PostioPostiwyd: Sul 06 Meh 2004 10:03 pm
gan Eamon
Newt Gingrich a ddywedodd:Trais yw sail rheolaeth SF ar gymunedau dosbarth gweithiol o fewn gogledd Iwerddon yn yr un modd a trais oedd yn galluogi ffasgwyr y 30au i wrthdroi rheolaeth ddemocratiaeth.


Ti yn deud wrthof fi pam bod SF efo cymaint o cefnogaeth yn Iwerddon. Diolch Newt.

Ella bod nei di egluro mechanics hyn i fi. Dwi yn cerdded i lawr y Falls. Mae dyn efo baseball bat yn dod ataf fi a deud 'Fotia SF neu gei di wn tros dy pen' Wedyn dwi yn mynd i y polling station a fotio SF. Felly mae SF yn hel 175,000 vote.

Ti yn coelio y rubbish yma go iawn?

PostioPostiwyd: Llun 07 Meh 2004 10:52 am
gan Prysor
Newt Gingrich a ddywedodd: Onid gair arall am ffasgiaeth yw marcsiaeth Prysor? Stalin / Hitler - spot the difference.


Mae pobl ar y dde wleidyddol yn licio enwi Stalin wrth ymosod ar y chwith.
Doedd Stalin ddim yn cynrychioli dim ond Staliniaeth. Unben oedd o.

Marcsiaeth yw'r athroniaeth wleidyddol sosialaidd a glorianwyd gan Karl Marx yn ei Communist Manifesto yn ol yn 1848. Nid Staliniaeth yw hyn.
Mae ffasgaeth (a Staliniaeth) yn beth hollol wahanol i Farcsiaeth, a gwleidydda plentynaidd yw ceisio dweud fel arall, Newt.

PostioPostiwyd: Llun 07 Meh 2004 10:57 am
gan krustysnaks
ie sori fy mai i oedd hyna - dylen i di stopio efo lenin.
cariwch mlaen ...

PostioPostiwyd: Llun 07 Meh 2004 11:09 am
gan Mihangel Macintosh
Newt, sa ti'n galw'r ANC yn ffasgwyr?

PostioPostiwyd: Maw 08 Meh 2004 11:02 pm
gan Newt Gingrich
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Newt, sa ti'n galw'r ANC yn ffasgwyr?


Be, ti'n dweud ei bod nhw'n farcsaidd???????????

PostioPostiwyd: Mer 09 Meh 2004 8:26 am
gan S.W.
Mihangel Macintosh :
Newt, sa ti'n galw'r ANC yn ffasgwyr?


Be, ti'n dweud ei bod nhw'n farcsaidd???????????


Pa fath o ymateb ydy hwnne? Os dwyt ti ddim yn Ffasgydd dwyt ti ddim felly yn Farcsaidd, nag fel arall chwaith. Maen fy ngwylltio fi pan mae unrhyw berson sy'n anghytuno a'r dde yn cael ei alw'n 'leftie'.

PostioPostiwyd: Mer 09 Meh 2004 12:29 pm
gan Dylan
'Roedd yr ANC yn defnyddio trais er mwyn elwa'n wleidyddol, felly yn ôl dy ddiffiniad di maent yn ffasgwyr. Disgrifiodd Reagan hwy ym 1987 fel "one of the more notorious terrorist groups". Gwell taflu Mandela nôl mewn i'r carchar felly. Terfysgwr diawl.

PostioPostiwyd: Llun 14 Meh 2004 2:30 pm
gan Mihangel Macintosh
Newt Gingrich a ddywedodd:
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Newt, sa ti'n galw'r ANC yn ffasgwyr?


Be, ti'n dweud ei bod nhw'n farcsaidd???????????


Os bod yr IRA yn "ffasgwyr" am ddefnyddio'r balot a'r bom, yna yn ol dy rhesymeg di mae'r ANC (oedd yn defnyddio'r balot a'r bom) hefyd yn ffasgwyr.

PostioPostiwyd: Llun 14 Meh 2004 3:19 pm
gan Dylan
"Dal dim ateb gan Newt!!! 'Sgwn i pam???"