Etholiadau 2004

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Garnet Bowen » Llun 14 Meh 2004 2:19 pm

I raddau, dwi'n meddwl ei bod hi'n biti bod yr holl ffys 'ma ynlgyn ac Ewrop wedi codi rwan. Mi fysa'r cyfansoddiad newydd wedi gwneud ffurf llywodraeth Ewrop yn hawsach i'w ddallt. Yn hytrach na'n gwneud ni'n gaeth i Frwsel, mi fyddai wedi ei gwneud hi'n haws esbonio i bobl sut yn union mae gwahanol rannau o'r Undeb yn gweithio, ac i gael dadl fwy agored ynglyn a sut mae symyd ymlaen. Bai'r garfan wrth-Ewropeaidd ydi eu bod nhw wedi gweld y cyfansoddiad fel diwedd y daith, yn hytrach na cham arall ar y ffordd.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Supersloth » Gwe 18 Meh 2004 5:10 pm

Rwy'n credu os daw hi i refferendwm fydd bobl yn pleidleisio yn ei erbyn oherwydd yr holl cach mae papurau Rupert Murdoch yn gyhoeddi. Mae pobl yn ofni oherwydd y straeon o broblemau gorboblogi a bod mewnfudwyr ac asylum seekers yn gymryd swyddi ni i gyd, mae'n hollol rwtch. Does gen i ddim syniad beth oedd safbwynt Plaid ar Ewrop a'r holl mewnfudwyr newydd na ddim yn glir gan nifer o'r bleidiau arall am for cyn lleied o wybodaeth yn dod i'r cyhoedd yn glir. Dweud hynny yr unig 'tv campaign' gwelais i oedd gan y Tories a roedd hwnna cach am trethi yn dinistrio gymdeithas a hawliau'r unigolyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Supersloth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Llun 14 Meh 2004 10:27 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron