Dielw a ddywedodd:Be di dy broblem gyda system mewnfudo sy'n gweithio'n effeithiol, GDG? Syniad da dwi'n meddwl. Pam ti'n meddwl bod Blunkett isio cardie adnabod?
Mae oes y brawd mawr di cyrraedd yn barod beth bynnag, gyda'r wybodaeth DNA sydd gan yr heddlu a'r cronfeydd enfawr eraill sydd wrthi rwan yn casglu gwybodaeth ariannol amdanom.
Dibynnu ar os wyt ti am fyw mewn byd lle rwyt ti angen cyfiawnhad a chaniatâd i wneud unrhyw beth, a lle gall y llywodraeth ddal yr holl wybodaeth am y pethe wyt ti'n eu gwneud mewn cronfa ddata ai peidio.