Chwadan a ddywedodd:
Sweeping statement braidd! Yn un peth, ma'r syniad o "weithredu yn effeithlon" yn beryglus o amwys achos ma'n dibynnu'n llwyr ar ba mor dotalitaraidd ma'r wladwriaeth isho bod. Dwi'n derbyn dy fod ti'n son am "wladwriaeth ddemocrataidd rydd" yn fanma, ond ma'r gair "rydd" yn awgrymu fod y dinasyddion yn rhydd i beidio cael y wladwriaeth yn ymyrryd yn eu bywyda nhw.
Wrth gwrs fod gan bobl y rhyddid i beidio a chael y wladwriaeth yn ymyrryd mewn rhai rhannau o'u bywyd nhw, a dyma ydi'r gwahaniaeth rhwng pethau fel sganwyr llygaid a chamerau diogelwch, a Big Brother. Mae camerau Big Brother yn edrych i mewn i dai pobl, yn ymyrryd yn eu bywydau preifat. Ym Mhrydain heddiw, mae ganddo ni ddau fyd arwahan - y preifat, lle nad oes gan lywodraeth yr hawl i fusnesu, a'r cyhoeddus, sy'n cael ei lywodraethu gan y bobl yr ydym ni'n eu dewis. Os yda ni - fel etholwyr - yn penderfynnu fod dal terfysgwyr, neu ladron, neu bobl sy'n ymddwyn yn anghymdeithasol, yn beth 'da ni ishio'i wneud, yna mae sens yn deud fod unrhywbeth sy'n cynorthwyo'r wladwriaeth i wneud hyn yn fwy effeithlon - heb amharu ar y byd preifat - yn beth da.
Chwadan a ddywedodd:Er hyn, dwi'n derbyn fod na beryg o ran diogelwch i ni ac felly ma'n debyg fod angen gneud rwbeth, ond dwi'n meddwl fod o'n hurt deud fod na'm ffashwn beth a'r sefyllfa Big Brother - ers canrifoedd ma na bobl di bod yn sgwennu am rol y wladwriaeth ddemocrataidd a dwi'n ama os oes unrhywun ohonyn nhw yn gwadu y medr y wladwriaeth fynd yn rhy bell wrth drio cadw llygad ar best interests y bobl.
Nid gwadu fod llywodraethau democrataidd yn medru mynd yn rhy bell ydw i. Mi ydw i'n meddwl fod rhoi'r hawl i blismyn fedru darllen e-byst etc. yn gangymeriad, er enghraifft. Ond mi ydw i'n credu fod gweiddi "Big Brother!" bob tro mae 'na ymgais i wella'r modd yr yda ni'n plismona'n ardaloedd cyhoeddus ni yn wirion ac yn gamarweiniol.