Garnet Bowen a ddywedodd:[Ond mi ydw i'n credu fod gweiddi "Big Brother!" bob tro mae 'na ymgais i wella'r modd yr yda ni'n plismona'n ardaloedd cyhoeddus ni yn wirion ac yn gamarweiniol.
Digon gwir. Ond ma' honni mai gwella ffyrdd o blismona yw diben y ddadl hon 'run mor gamarweiniol!
Ma'n Fam wastad yn dweud - 'sdim da fi gwoto, felly beth yw'r ots bo' 'na 'identity cards' - ond hon o'dd yr un fenyw oedd yn gwrthod i'w mab wisgo crys-t gyda'i enw ar y blaen pan yn grwtyn bach yn lle bod rhyw ddieithryn brwnt yn 'i herwgipio.
Beth i'w diben y system newydd hyn? Wast arian yw e. Ma systemau newydd yn cael 'i dyfeisio oherwydd bod yr hen rai'n ddiffygiol - (hynny yw, amlwg nad yw Passports yn ddigon - a ma'r newidiadau i basports yn ddiweddar yn dangos pa mor nuts yw'r llywodraeth). Ond ma' pob system yn ddiffygiol.
Wotchwch 'Brasil' - ffilm Terry Gilliam, a ma' 'Arthur Picton' ynddi fel 'security guard' - cewch weld y problemau hyn mewn ffilm ddoniol a difyr.
Gyda llaw. Er taw un o ddemocratiaethau hynna'r byd yw Prydain - hi hefyd yw un o'r rhai mwya' llwgr a mwya' 'an-nemocrataidd'. 'Ni' (er nad wyf yn hoff o'r label, ond wedi datganoli, 'sdim lot o ddewis 'da fi) 'da hanes o fod yn fastards. A hanes o wneud fuck-up's. Felly, does dim syndod bo' pobl yn cwyno am hyn.