adnabod llygaid mewn meysydd awyr

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

adnabod llygaid mewn meysydd awyr

Postiogan Aran » Maw 15 Meh 2004 3:07 pm

UKauthority.com a ddywedodd:Cutting edge technology is set to revolutionise the UK's immigration controls, with the roll-out of a hi-tech iris recognition system to a number of key UK airports.

Immigration minister, Des Browne, has announced details of a new system that will store and verify the iris patterns of specially selected groups of travellers, giving watertight confirmation of their identity when they arrive in the UK. The aim is to substantially increase security as well as speed progress through immigration control.

The Home Office will roll out the programme over the next year - starting with Heathrow Airport (Terminals Two and Four) and four other airports by summer 2005. It is expected that within five years more than a million people will be registered to use the system.


brawd mawr ar ei ffordd, ta cam call ymlaen?
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 15 Meh 2004 3:12 pm

Brawd mawr. Bydd dim posib' gwneud unrhyw beth cyn bo hir heb ryw fath o bapurau adnabod.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan S.W. » Maw 15 Meh 2004 3:13 pm

Does genai ddim problem gyda'r peth o gwbl.
Pam allwn ni gwyno cael adnabyddion llygaid? Os ydy on gwneud y broses o hedfan rhywfaint yn fwy diogel fyddai'n iawn gennai. Mae'r un yn wir am gario cardiau adnabod - dim o'i le gyda hynny chwaith, dwin cario digon o nhw yn barod, os allai gario popeth mewn un cerdyn bydd on llawer gwell.

Dydy Big Brother (dim y rhaglen) ddim yn wrong yn ei hun cyn belled a bod rheolau ynglwn a fo.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Geraint » Maw 15 Meh 2004 3:31 pm

Brawd Mawr.

Dwi'n teimlo mwy fel prole pob dydd. Neu falle dwi'n gweithio i'r Ministry of Truth :?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Dielw » Maw 15 Meh 2004 3:36 pm

Be di dy broblem gyda system mewnfudo sy'n gweithio'n effeithiol, GDG? Syniad da dwi'n meddwl. Pam ti'n meddwl bod Blunkett isio cardie adnabod?

Mae oes y brawd mawr di cyrraedd yn barod beth bynnag, gyda'r wybodaeth DNA sydd gan yr heddlu a'r cronfeydd enfawr eraill sydd wrthi rwan yn casglu gwybodaeth ariannol amdanom.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Garnet Bowen » Maw 15 Meh 2004 4:03 pm

Dwi'n meddwl fod y pryderon ynglyn a 'Brawd Mawr' yn ein byd ni heddiw yn rhai hollol di-sail. Cofiwch fod nofel Orwell yn delio gyda chyfundrefn unbeniaethol, totalitarian. Mewn gwladwriaeth ddemocrataidd, rydd, mae unrhywbeth sy'n helpu'r wladwriaeth i weithredu yn fwy effeithlon - drwy ddal mwy o droseddwyr, yn yr achos yma - yn beth da. Yn wahanol i Airstrip One, mae'r bobl sy'n gyfrifol am y systemau yma yn atebol i ni y bobl, ac mae nhw'n medru cael eu barnu mewn llys, ac os ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n groes i ewyllys y mwyafrif, mae nhw'n cael ei cosbi.

Yn y pen draw, arfau ydi camerau, scaniwyr llygaid etc., sy'n galluogi'r llywodraeth i sicrhau fod pobl yn cydymffurfio a chyfreithiau. Os oes gennych chi wrthynebiad i gyfreithiau penodol, yna digon teg. Ond protesito yn erbyn y gyfraith hono ydi'r ateb, a nid protestio yn erbyn y ffordd mae hi'n cael ei phlismona.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Chwadan » Maw 15 Meh 2004 4:58 pm

Dwi'n meddwl fod profion iris yn syniad da yn gyffredinol (e.e. ma na son am gal profion iris ar beirianna twll-yn-y-wal), ond be sy'n fy mhoeni i yma ydi mai grwpia penodol o bobl sy'n cael eu dewis. Mi fasa hyn yn gallu arwain at fwy fyth o ddrwgdybiaeth ayyb rhwng gwahanol genhedloedd a grwpiau. Dwi'n gweld yr angen am fwy o ddiogelwch, ond ma hyn fel cymryd prawf DNA wrth i chi gyrraedd Prydain a dwi'm yn siwr os ydi hynna'n iawn.

Garnet Bowen a ddywedodd:Mewn gwladwriaeth ddemocrataidd, rydd, mae unrhywbeth sy'n helpu'r wladwriaeth i weithredu yn fwy effeithlon - drwy ddal mwy o droseddwyr, yn yr achos yma - yn beth da.

Sweeping statement braidd! Yn un peth, ma'r syniad o "weithredu yn effeithlon" yn beryglus o amwys achos ma'n dibynnu'n llwyr ar ba mor dotalitaraidd ma'r wladwriaeth isho bod. Dwi'n derbyn dy fod ti'n son am "wladwriaeth ddemocrataidd rydd" yn fanma, ond ma'r gair "rydd" yn awgrymu fod y dinasyddion yn rhydd i beidio cael y wladwriaeth yn ymyrryd yn eu bywyda nhw. Dwi'n meddwl dy fod ti'n cymysgu'r syniad o "wladwriaeth rydd" a "dinasyddion rhydd" - nid y wladwriaeth sy'n "rhydd" (h.y. i neud fel ag y mynno) - fedar hynna ddim digwydd mewn democratiaeth achos ma'r dinasyddion i fod i gadw llygad arni - ond y bobl.

Er hyn, dwi'n derbyn fod na beryg o ran diogelwch i ni ac felly ma'n debyg fod angen gneud rwbeth, ond dwi'n meddwl fod o'n hurt deud fod na'm ffashwn beth a'r sefyllfa Big Brother - ers canrifoedd ma na bobl di bod yn sgwennu am rol y wladwriaeth ddemocrataidd a dwi'n ama os oes unrhywun ohonyn nhw yn gwadu y medr y wladwriaeth fynd yn rhy bell wrth drio cadw llygad ar best interests y bobl.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Garnet Bowen » Mer 16 Meh 2004 8:05 am

Chwadan a ddywedodd:
Sweeping statement braidd! Yn un peth, ma'r syniad o "weithredu yn effeithlon" yn beryglus o amwys achos ma'n dibynnu'n llwyr ar ba mor dotalitaraidd ma'r wladwriaeth isho bod. Dwi'n derbyn dy fod ti'n son am "wladwriaeth ddemocrataidd rydd" yn fanma, ond ma'r gair "rydd" yn awgrymu fod y dinasyddion yn rhydd i beidio cael y wladwriaeth yn ymyrryd yn eu bywyda nhw.


Wrth gwrs fod gan bobl y rhyddid i beidio a chael y wladwriaeth yn ymyrryd mewn rhai rhannau o'u bywyd nhw, a dyma ydi'r gwahaniaeth rhwng pethau fel sganwyr llygaid a chamerau diogelwch, a Big Brother. Mae camerau Big Brother yn edrych i mewn i dai pobl, yn ymyrryd yn eu bywydau preifat. Ym Mhrydain heddiw, mae ganddo ni ddau fyd arwahan - y preifat, lle nad oes gan lywodraeth yr hawl i fusnesu, a'r cyhoeddus, sy'n cael ei lywodraethu gan y bobl yr ydym ni'n eu dewis. Os yda ni - fel etholwyr - yn penderfynnu fod dal terfysgwyr, neu ladron, neu bobl sy'n ymddwyn yn anghymdeithasol, yn beth 'da ni ishio'i wneud, yna mae sens yn deud fod unrhywbeth sy'n cynorthwyo'r wladwriaeth i wneud hyn yn fwy effeithlon - heb amharu ar y byd preifat - yn beth da.

Chwadan a ddywedodd:Er hyn, dwi'n derbyn fod na beryg o ran diogelwch i ni ac felly ma'n debyg fod angen gneud rwbeth, ond dwi'n meddwl fod o'n hurt deud fod na'm ffashwn beth a'r sefyllfa Big Brother - ers canrifoedd ma na bobl di bod yn sgwennu am rol y wladwriaeth ddemocrataidd a dwi'n ama os oes unrhywun ohonyn nhw yn gwadu y medr y wladwriaeth fynd yn rhy bell wrth drio cadw llygad ar best interests y bobl.


Nid gwadu fod llywodraethau democrataidd yn medru mynd yn rhy bell ydw i. Mi ydw i'n meddwl fod rhoi'r hawl i blismyn fedru darllen e-byst etc. yn gangymeriad, er enghraifft. Ond mi ydw i'n credu fod gweiddi "Big Brother!" bob tro mae 'na ymgais i wella'r modd yr yda ni'n plismona'n ardaloedd cyhoeddus ni yn wirion ac yn gamarweiniol.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan nicdafis » Mer 16 Meh 2004 9:44 am

Cytunaf â'r pwynt am y byd preifat a'r byd cyhoeddus, ond dw i'n poeni bod y cyntaf yn brysur cynilo, tra bod y llywodraeth yn treulio mwyfwy o'u hegni nhw, a'n harian ni, ar reolu beth sy'n digwydd yn yr ail. Falle taw effaith galw hyn yn "Frawd Mawr" yw ei or-symleiddio'r sefyllfa, ond mae yn ein hatgoffa taw weithiau mae'r llywodraeth yn fwy peryglus na'r bobl maen nhw'n dweud bod nhw'n hamddiffyn yn eu herbyn. Gyda un llaw maent yn rhoi dillad diogelwch i ni, tra bod y llaw arall yn curo bom mawr â morthwyl mwy.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan S.W. » Mer 16 Meh 2004 9:58 am

Dielw a ddywedodd:Be di dy broblem gyda system mewnfudo sy'n gweithio'n effeithiol, GDG? Syniad da dwi'n meddwl. Pam ti'n meddwl bod Blunkett isio cardie adnabod?

Mae oes y brawd mawr di cyrraedd yn barod beth bynnag, gyda'r wybodaeth DNA sydd gan yr heddlu a'r cronfeydd enfawr eraill sydd wrthi rwan yn casglu gwybodaeth ariannol amdanom.


Dim just argyfer menfudwyr mae o Dielw, mae bygythiad posibl yn dod o pob ran o gymdeithas nid o'r sawl hynny sydd yn dod yma i fyw yn unig.

Os byddai'r system hwn wedi ei anelu at un rhan o'r gymdeithas yn unig byddwn i byth o'i blaid o, dylai pob un ohonom orfod cael ein 'checkio' pan yn mynd mewn awyren ac ati. Gallai unrhyw ffanatig gipio awyren os ydy o eisiau gwneud hynny boed yn fwslim, yn gristion neu unrhyw grefydd arall, a gallai'r pobl dan sylw fod yn unrhyw liw ac o unrhyw ran o'r byd.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron