adnabod llygaid mewn meysydd awyr

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Iesu Nicky Grist » Mer 16 Meh 2004 10:02 am

Garnet Bowen a ddywedodd:[Ond mi ydw i'n credu fod gweiddi "Big Brother!" bob tro mae 'na ymgais i wella'r modd yr yda ni'n plismona'n ardaloedd cyhoeddus ni yn wirion ac yn gamarweiniol.


Digon gwir. Ond ma' honni mai gwella ffyrdd o blismona yw diben y ddadl hon 'run mor gamarweiniol!

Ma'n Fam wastad yn dweud - 'sdim da fi gwoto, felly beth yw'r ots bo' 'na 'identity cards' - ond hon o'dd yr un fenyw oedd yn gwrthod i'w mab wisgo crys-t gyda'i enw ar y blaen pan yn grwtyn bach yn lle bod rhyw ddieithryn brwnt yn 'i herwgipio.

Beth i'w diben y system newydd hyn? Wast arian yw e. Ma systemau newydd yn cael 'i dyfeisio oherwydd bod yr hen rai'n ddiffygiol - (hynny yw, amlwg nad yw Passports yn ddigon - a ma'r newidiadau i basports yn ddiweddar yn dangos pa mor nuts yw'r llywodraeth). Ond ma' pob system yn ddiffygiol.

Wotchwch 'Brasil' - ffilm Terry Gilliam, a ma' 'Arthur Picton' ynddi fel 'security guard' - cewch weld y problemau hyn mewn ffilm ddoniol a difyr.

Gyda llaw. Er taw un o ddemocratiaethau hynna'r byd yw Prydain - hi hefyd yw un o'r rhai mwya' llwgr a mwya' 'an-nemocrataidd'. 'Ni' (er nad wyf yn hoff o'r label, ond wedi datganoli, 'sdim lot o ddewis 'da fi) 'da hanes o fod yn fastards. A hanes o wneud fuck-up's. Felly, does dim syndod bo' pobl yn cwyno am hyn.
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan Dylan » Mer 16 Meh 2004 10:23 am

Fel mae Chwadan wedi crybwyll, 'dw i ddim yn siwr eto faint o ffydd sydd gen i yn yr awdurdodau i ddefnyddio'r wybodaeth yn y modd cywir. 'Dw i'n pryderu bod perygl o erlidigaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dielw » Mer 16 Meh 2004 10:31 am

Wel, datganiad gan y Gweinidog Mewnfudo ydi o S.W! Ond ie, ti'n iawn, o ran diogelwch cyffredinol mae o'n beth da hefyd.

S.W a ddywedodd:Os byddai'r system hwn wedi ei anelu at un rhan o'r gymdeithas yn unig byddwn i byth o'i blaid o

Troseddwyr?

Iesu Grist a ddywedodd:Ond ma pob system yn ddiffygiol felly be di'r pwynt?...

Ie falle bod popeth yn ddiffygiol ond gwelliannau sy'n bwysig. Dydi'r cyfrifiadur yma methu neud paned neu mynd ar sesh, ond mae o dipyn gwell na'r abacws...
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan S.W. » Mer 16 Meh 2004 10:48 am

Dielw a ddywedodd:Wel, datganiad gan y Gweinidog Mewnfudo ydi o S.W! Ond ie, ti'n iawn, o ran diogelwch cyffredinol mae o'n beth da hefyd.

S.W a ddywedodd:Os byddai'r system hwn wedi ei anelu at un rhan o'r gymdeithas yn unig byddwn i byth o'i blaid o


Troseddwyr?

.


Ti'n gwbod be dwin feddwl Dielw, dydy troseddwyr dim yn un rhan arbenig o'r gymdeithas, rhan o pob ran o gymdeithas ydyn nhw. Byddwn i ddim yn hoffi gweld y technoleg hwn yn cael ei ddefnyddio a'i anelu at bobl sydd yn codi amheuon gan yn benodol gan eu bod o wlad arall, yn grefydd arall, neu o liw arall. Hiliaeth fyddai wrth wraidd hyn a dim byd mwy nag hynny. Os am fabwysiadu'r technoleg dylai pob un ohonom fod yn ran ohono nid un rhan yn benodol.

Dalltais i ddim mae gweinidog Menfudo oedd yn gyfrifol am y datganiad, ond gan mae rhan o'r swyddfa cartref ydy o byddwn yn gobeithio ei fod yn beth ehangach nag hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Garnet Bowen » Mer 16 Meh 2004 11:01 am

Iesu Nicky Grist a ddywedodd:Gyda llaw. Er taw un o ddemocratiaethau hynna'r byd yw Prydain - hi hefyd yw un o'r rhai mwya' llwgr a mwya' 'an-nemocrataidd'. 'Ni' (er nad wyf yn hoff o'r label, ond wedi datganoli, 'sdim lot o ddewis 'da fi) 'da hanes o fod yn fastards. A hanes o wneud fuck-up's. Felly, does dim syndod bo' pobl yn cwyno am hyn.


Anghywir. Mewn arolwg i mewn i lygredd gwleidyddol sy'n cael ei gynnal gan Transparency International mae'r Daernas Gyfunol yn gyson yn cael ei cyfrif yn un o'r gwledydd lleiaf llwgr yn y byd. Mi oedda ni'n rhif 10 allan o 107 yn 2002. Wele'r tabl yma. Ella bod 'na broblem efo atebolrwydd rhai o sefydliadau gwleidyddol Prydain - h.y. Tai'r Arglwyddi - mae gynno ni lywodraeth eithaf gonest, ar y cyfan.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Garnet Bowen » Mer 16 Meh 2004 11:04 am

nicdafis a ddywedodd:Cytunaf â'r pwynt am y byd preifat a'r byd cyhoeddus, ond dw i'n poeni bod y cyntaf yn brysur cynilo, tra bod y llywodraeth yn treulio mwyfwy o'u hegni nhw, a'n harian ni, ar reolu beth sy'n digwydd yn yr ail. Falle taw effaith galw hyn yn "Frawd Mawr" yw ei or-symleiddio'r sefyllfa, ond mae yn ein hatgoffa taw weithiau mae'r llywodraeth yn fwy peryglus na'r bobl maen nhw'n dweud bod nhw'n hamddiffyn yn eu herbyn. Gyda un llaw maent yn rhoi dillad diogelwch i ni, tra bod y llaw arall yn curo bom mawr â morthwyl mwy.


Er mod i'n pryderu rhyw ychydig ynglyn a'r modd y mae'r llywodraeth yn ceisio cadw golwg ar ein bywyd preifat, dwi ddim yn meddwl fod 'na fwy o reolaeth ar fywyd cyhoeddus. Be sydd yn digwydd ydi fod y cyfreithia' 'da ni'n ei pasio yn cael eu plismona'n well. A mi ydw i'n meddwl fod 'na ddos go gryf o baranoia yn dy ateb di Nic. Wrth gerdded drwy Gaernarfon ar nos wener, nid y camerau diogelwch ydi'r perygl mwyaf i mi yn bersonol.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Iesu Nicky Grist » Mer 16 Meh 2004 11:34 am

Garnet Bowen a ddywedodd: Ella bod 'na broblem efo atebolrwydd rhai o sefydliadau gwleidyddol Prydain - h.y. Tai'r Arglwyddi - mae gynno ni lywodraeth eithaf gonest, ar y cyfan.


Atebolrwydd? Darllen am Lord Hailsham - 'elective dictatorship'.

Gonest? Pa mor naif ti ishe bod?
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan Garnet Bowen » Mer 16 Meh 2004 11:52 am

Iesu Nicky Grist a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd: Ella bod 'na broblem efo atebolrwydd rhai o sefydliadau gwleidyddol Prydain - h.y. Tai'r Arglwyddi - mae gynno ni lywodraeth eithaf gonest, ar y cyfan.


Atebolrwydd? Darllen am Lord Hailsham - 'elective dictatorship'.

Gonest? Pa mor naif ti ishe bod?


Dwi'n dilyn yr ystadegau moel sy'n cael eu casglu gan gorff annibynol, rhyngwladol. Ar be ti'n selio dy ddadl?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Iesu Nicky Grist » Mer 16 Meh 2004 1:19 pm

Hanes.
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan Chwadan » Mer 16 Meh 2004 2:20 pm

Ma Garnet yn son am onestrwydd a Iesu Nicky Grist am atebolrwydd, ond Onid ydi'r ddau beth yn hollol wahanol - un i neud efo sut ma'r system yn gadael i bobl gymryd mantais ohoni, a'r llall yn ymwneud a gwendidau strwythrol y system?

Ydi hynna'n gneud synnwyr? :?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron