Tudalen 1 o 2

Darnau £1 ffug

PostioPostiwyd: Maw 22 Meh 2004 1:38 pm
gan Lletwad Manaw [gynt]
Oes na rhywun arall fel fi wedi gweld cynnydd anferth mewn darnau punt ffug yn ddiweddar? Fe wagies i'm mhoced un diwrnod a fe ro'dd dau o'r byggers yna, gyda gwyneb y'r hen Lizzie druan yn edrych ychydig yn fwy wonci nag arfer ar flaen fy narn (punt)!!! Be ddiawl ma rheiny yn "The hole with the Mint" yn Llantrisant yn neud am y peth, ne o le ma'r blydi darnau diwerth yma yn dod. Puntsan (ffug) :winc: i rywun a all daflu goleunu ar y peth.

PostioPostiwyd: Maw 22 Meh 2004 2:22 pm
gan Mr Gasyth
Sut ma adnabod punten ffug ta? Dwi heb sylwi ar run.

PostioPostiwyd: Maw 22 Meh 2004 2:29 pm
gan Lletwad Manaw [gynt]
Ma'r hen ast fach yn pwyso llawer mwy na'r un iawn a ma'r paent yn dod ffwrdd yn hawdd gan adael rhyw fath o "sheen" mwy lliw arian. Hefyd am rhyw reswm mae'r darn yn fwy meddal ag wrth ei rwto fe ma imprint yn ymddangos. Ag wrth gwrs dyw peiriannau ffags/hapchwarae ddim yn eu derbyn nhw. Mae'r ysgrifen yn anealladwy bron ar ddarnau ffug gwael hefyd.

PostioPostiwyd: Maw 22 Meh 2004 2:37 pm
gan Mwnci Banana Brown
Be sy a gwyneb y cwin i neud a bod ar goll ar y we?

PostioPostiwyd: Maw 22 Meh 2004 2:39 pm
gan Lletwad Manaw [gynt]
Methu meddwl am le arall i hwpo'r peth. Unrhyw awgrymiad?

PostioPostiwyd: Maw 22 Meh 2004 2:58 pm
gan joni
Ma na dipyn ohonynt o gwmpas Aberystwyth. Ma nhw wedi'u gwneud allan o blwm er ma'n ddigon hawdd cael gwared a nhw mewn tafarn prysur.

PostioPostiwyd: Maw 22 Meh 2004 3:03 pm
gan Lletwad Manaw [gynt]
Be wi'n neud yw prynu 2 docyn loteri a rhoi puntan iawn a un ffug nol i'r siopwr. Peidiwch gweud wrth y cops!!!! Peidiwch byth rhoi un yn ol achos ma'r gwahaniaeth pwysau lot rhy amlwg. Glywes i rhywbeth credwch neu beidio fod 99% ohonyn nhw'n cael eu cynhyrchu yn Lesotho!!!!! Rhybeth i feddwl amdano tro nesa fydd Dolen Cymru/Lesotho yn edrych am help ar faes y Steddfod. Wastad wedi meddwl fod y peiriant neud bathodynnau yna ar eu stondin nhw bob Awst yn cael ei ddefnyddio i ddiben arall a la coins ffug :lol:

PostioPostiwyd: Maw 22 Meh 2004 3:23 pm
gan Barbarella
Lletwad Manaw a ddywedodd:Methu meddwl am le arall i hwpo'r peth. Unrhyw awgrymiad?

[ wedi symud e i Materion Prydain ]

PostioPostiwyd: Maw 29 Meh 2004 3:09 pm
gan Ray Diota
Pryna un o'r pens aur na a lliwia'r basdad mewn. Wedyn i'r pyb a ti a ma dowt da fi newn nhw sylwi. Odd da fi un p'ddwrnod a galles i snapo'r diawl yn 'i hanner gyda fy nwylo. Nath y Spar wrthod cymryd e fel dau 50c. :(

PostioPostiwyd: Iau 01 Gor 2004 4:16 pm
gan Mwnci Banana Brown
Ohh...na dreni!! Treia Tesco.