Tudalen 1 o 1

question time

PostioPostiwyd: Gwe 02 Gor 2004 6:06 pm
gan Realydd
Gwarth o raglen. Y banel yn hynod o adain chwith wastad. Un tori yn erbyn pawb neithiwr. Rhan fwyaf o'r gynulleidfa yn lefties. Yn fy marn i nid yw'r BBC yn gwybod sut mae trefnu dadl wleidyddol sy'n adlewyrchu teimladau'r cyhoedd.

PostioPostiwyd: Gwe 02 Gor 2004 7:36 pm
gan Macsen
Mae Llafur yn barti adain dde erbyn hyn, cofia. Dim panel adain dde wyt ti'n dadlau drosto, ond panel o bobl sy'n cytuno a ti ac yn adlewyrchu dy feddylfryd.

Re: question time

PostioPostiwyd: Llun 12 Gor 2004 4:29 pm
gan Cwlcymro
Realydd a ddywedodd:Yn fy marn i nid yw'r BBC yn gwybod sut mae trefnu dadl wleidyddol sy'n adlewyrchu teimladau'r cyhoedd.


Cytuno yn llwyr. Be di'r pwynt mynd o gwmpas Prydain os nad dydynt yn poeni am ardaloedd gwahanol? Dod i Gymru ond ddim meddwl y bysai'n syniad da cael perso o ail blaid fwya y wlad ar y panel (PC lly) a ddim hyd yn oed meddwl fod na bwynt cael Cymro yna chwaith! Na, llawer gwell rhoi Germaine Greer yna a gadael iddi hi atab y cwestiyna, achos yn amlwg mi oedd hi'n deall yn iawn be sy'n digwydd yn Gymru!!

Re: question time

PostioPostiwyd: Llun 12 Gor 2004 4:45 pm
gan eusebio
Realydd a ddywedodd:Gwarth o raglen. Y banel yn hynod o adain chwith wastad. Un tori yn erbyn pawb neithiwr. Rhan fwyaf o'r gynulleidfa yn lefties. Yn fy marn i nid yw'r BBC yn gwybod sut mae trefnu dadl wleidyddol sy'n adlewyrchu teimladau'r cyhoedd.


Rhyfedd sut bo rhywun adain dde wastad yn cwyno fod pawb yn 'lefties'.
Os ydw i'n digwydd anghytuno efo barn rhywun o'r panel neu'r gynulleidfa ar QT, tydw i ddim yn cymryd i fewn i'm mhen fod pawb yn 'righties' ...

Re: question time

PostioPostiwyd: Maw 13 Gor 2004 9:31 am
gan Ray Diota
'lefties' / 'righties' ...


Ife sôn am ba ffor ma'u cocie nhw'n hongian ych chi? :?

PostioPostiwyd: Maw 13 Gor 2004 9:34 am
gan Lletwad Manaw [gynt]
Dyw'r hen fiji-bo byth yn hongian pan fod Germaine Greer ar Q.T.!!! Stret lan bob tro...........fel twr y Dderi!!!!