Atal a Chwilio (Stop and Search)

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Atal a Chwilio (Stop and Search)

Postiogan Macsen » Gwe 02 Gor 2004 10:37 pm

Mae atal a chwilio pobl o dras Asiaidd wedi saethu fyny yn y flwyddyn dwytha. Ydi'r rhyfel yn erbyn erchyd yn ddigon o esgus dros wneud hyn? :|
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Realydd » Gwe 02 Gor 2004 10:39 pm

Dwi'n hapus iawn hefo gwaith yr heddlu.
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Dr Gwion Larsen » Gwe 02 Gor 2004 10:40 pm

Dwnim ond dwin siwr bod atal a chwylio wedi cynyddu yn gyfan gwbwl hefo'r mesurau diogelwch. Ble gesdi'r ffigyrau o Macsen? Os mae hyn yn wir dwi'n siwr bod propaganda y holl ryfel wedi effeithio ar feddyliau bychain y copars.
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan Lowri Fflur » Gwe 02 Gor 2004 11:05 pm

Realydd a ddywedodd:Dwi'n hapus iawn hefo gwaith yr heddlu.


Dwi ddim yn dweud bod atal a chwilio yn gywir na chwaith yn anghywir ond dwi' n meddwl bod rhaid derbyn bod yna broblemau o fewn y garfan heddlu a bod rhaid ei datrus mor fuan a phosib. Rwyn dweud hyn oherwydd bod y garfan heddlu yn rywbeth pwerus iawn o fewn ein cymdeithas sy'n cael effaith ar fywydau pobl.

Roedd adroddiad a gyhoeddwyd gan y "Metrepolitan Police authority" yn dangos bod pobl ddu pedwar gwaith mwy debygol o gael eu atal a chwilio na phobl gwyn. Ermwyn cael ffydd y cyhoedd yn yr heddlu dwi' n meddwl bod rhaid i' r atal a chwilio yma fod mor deg a phosib a ddim yn ragfarnllud na chwaith yn hiliol. Yn bellach credaf na ddylid atal a chwilio gael ei or-ddefnyddio fel arf o bwer ond ei ddefnyddio pan mae ef yn bwrpasol a chyfiawn.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dr Gwion Larsen » Gwe 02 Gor 2004 11:47 pm

Realydd a ddywedodd:Dwi'n hapus iawn hefo gwaith yr heddlu.


Be <i>RET</i>alydd, wyt ti yn hapus bod dydi y cops methu dal neb? Wyt ti yn dwyn ceir neu gwerthu cyffuriau neu rhywbeth dy hun?
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan Realydd » Sad 03 Gor 2004 12:21 am

Dwi am weld amser yr heddlu'n cael ei ddefnyddio'n effeithiol. Felly, os oes mwy o bobl ddu yn mygio etc. a llawer mwy o gyfle fod pobl arab yn mynd i dod yn derorist yna dwi'n ddigon hapus gweld mwy o rhein yn cael eu stopio.
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Dr Gwion Larsen » Sad 03 Gor 2004 12:59 am

Os yw pobl du yn cael ei atal a chwilio yn fwy amal na pobl gwyn, dydy heddlu ddim yn fwy tebygol o ddarganfod cyffuriau, arfau a.y.y.b. ar y bobl du na'r bobl gwyn? dyna rhan o'r rheswm pam fo gymaint o bobl du yn y carchar. Yn ol y swyddfa gartref mae pobl gwyn yn fwy tebygol o gymeryd cyffuriau na pobl du (1/3 o bobl gwyn, ac 1/5 o dras asiaidd), ac mae llai fel canran o'r boblogaeth o bobl ddu yn troseddu na o bobl gwyn yn y maes o drais
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan Macsen » Sad 03 Gor 2004 2:12 pm

Be dw i'n poeni ydi bod nifer o bobl du ac asiaidd yn cael ei atal a chwilio am resymau sydd a dim iw wneud a teroristiaeth. Roedd dyn oedden nhw'n cyfweld ar Sky News ddoe yn dweud ei fod o wedi ei atal a'i chwilio, gyda'r clasur o gwestiwn: 'Where did you get the money to buy this car?' Dw i ddim yn meddwl bod posib cyfiawnhau y canran o wahaniaeth rhwng pobl wyn yn cael ei chwilio a pobl du neu asiaidd, hyd yn oed os fysan nhw'n fwy tebygol o dorri'r gyfraith. Mae PACE 1984 yn dweud bod angen 'reasonable suspicion' cyn atal a chwilio. Dyw dyn asiaidd mewn car neis ddim yn cyfri fel 'reasonable suspicion', ac felly mae'r heddlu yn torri'r gyfraith drwy ei atal a'i chwilio. Pa dystiolaeth o dororistiaid mae nhw'n gobeithio ei ddarganfod ar y bobl yma? Semtecs yn ei pocedi? :?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Realydd » Sad 03 Gor 2004 3:49 pm

Macsen a ddywedodd: Dw i ddim yn meddwl bod posib cyfiawnhau y canran o wahaniaeth rhwng pobl wyn yn cael ei chwilio a pobl du neu asiaidd, hyd yn oed os fysan nhw'n fwy tebygol o dorri'r gyfraith.


Wrth gwrs fod posib:

1. amddiffyn y cyhoedd
2. gwneud defnydd effeithiol o amser yr heddlu ac arian y trethdalwyr
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Macsen » Sul 04 Gor 2004 11:44 pm

Realydd a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd: Dw i ddim yn meddwl bod posib cyfiawnhau y canran o wahaniaeth rhwng pobl wyn yn cael ei chwilio a pobl du neu asiaidd, hyd yn oed os fysan nhw'n fwy tebygol o dorri'r gyfraith.


1. amddiffyn y cyhoedd
2. gwneud defnydd effeithiol o amser yr heddlu ac arian y trethdalwyr


Ti'n tarfod defnydd atal a chwilio yn gyffredinol fan yma, dwi'n meddwl, dim ei ddefnydd ar bobl du ac asiaidd. Mae canran ychydig yn fwy o'r bobl yma'n troeseddu (iw wneud a tlodi mwy na dim), ond dyw hyn ddim yn reswm iw atal a chwilio canran gymaint mwy mawr o weithiau. Mae atal a chwilio yn ddiarhebol fel y pwer sydd gan yr heddlu sy'n cael ei gamdrin fwyaf. Mi ddylsai nhw ddefnyddio'i pwer i gadw lefelau troeseddi i lawr, dim cadw'r poblogaeth ethnig dan ei pawen.

Mae atal a chwilio yn faes sydd angen ei ail feddwl. Mae'r heddlu wedi dangos ei bod nhw'n medru llwyddiant mawr mewn maesydd eraill -dal pobl sy'n dreifio'n rhu gyflym er engraifft. Mi fysai'n neis os fysai'r pobl yn Llu yr Hedd mor ddiogwydd a'i peiriannau. :?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 30 gwestai

cron