Atal a Chwilio (Stop and Search)

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Realydd » Llun 05 Gor 2004 5:22 pm

Macsen: synnwyr cyffredin ydy o os oes % uwch o mwslims/pobl ddu/bois sy'n gwisgo baseball cap/whatever yn troseddu yna mae angen stopio ac archwilio % uwch ohonynt.
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Dylan » Llun 05 Gor 2004 6:48 pm

Os mai synnwyr cyffredin ydi cyffredinoli grwpiau cyfan o bobl mor fyrbwyll â hynny yna 'dw i'n ddiolchgar iawn bod gen i ddim ohono.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cynog » Llun 05 Gor 2004 7:04 pm

Dwi'n meddwl bo chdi di methu/anwybyddu y pwint. Os ti'n canolbwintio ar archwilio un grwp ethnig, yna wrth gwrs bo ti'n mynd i ffeindio mwy ohonynt yn torri y gyfraeth. Ma sens yn gwneud hyna yn amlwg.

Mewn ffordd mae hynnu yn 'self fulfilling prophecy' mewn dwy ffordd;

1) ti'n archwilio un grwp yn fwy manwl na'r llall, felly, syrpreis syrpreis, bydd mwy ohonynt yn cael eu darganfod yn eog o wbath.

2) Os ti'n labelu un grwp fel drwg waethredwyr yna, syrpreis syrpreis, ma nhw fwy tebygol o ddechrau ymddwyn fel drwg waethredwyr. (Bydda nhw yn meddwl, ffwciwch y sistem, ffwciwch y gyfraeth, ma nhw yn ERBYN ni!!)

Ok, Mr "Realydd"(:lol: ), os mae chdi felly sydd yn gwybod y "reaiti", wyt ti'n meddwl bydd problemau ei'n cymdeithas yn cael eu datrys drwy DARGEDU grwpiau arbenig o ddinasyddion?

Neu ydi hyn am achosi problemau cymdeithasol mwy dwys?
I know my own nation the best. That's why I despise it the most. And I know and love my own people too, the swine. I'm a patriot. A dangerous man.
-Edward Abbey

http://blogcynog.blogspot.com/
Rhithffurf defnyddiwr
Cynog
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 438
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 5:43 pm

Postiogan Realydd » Llun 05 Gor 2004 7:20 pm

Y pwynt sylfaenol dwi'n wneud yw y dylai amser ac adnoddau'r heddlu gael eu defnyddio fwyaf effeithiol bosib. Felly, os oes rhai grwpiau mewn cymdeithas yn troseddu mwy na grwpiau eraill yna mae'n gwneud synnwyr i'w targedu nhw. Diawl o ots gen i os yw pobl PC trendy lefty yn meddwl fod hyn yn racist, sexist, ageist neu beth bynnag.
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan S.W. » Maw 06 Gor 2004 6:32 am

Ffordd diog o Blismona ydy 'Atal' a 'Chwilio' dangos gwendidau'r gwybodaeth mae'r heddlu yn ei chael eu bod yn troi at stopio pobl oherwydd eu croen, eu crefydd ac ati.

Mae'r heddlu yn dibynu ar gwybodaeth gan cymunedau lleol i guro troseddwyr, ond trwy wneud hyn yn amlwg bydd pobl ddim yn barod i ddod atynt i rhoi gwybodaeth.

O bryd iw gilydd mae ei angen o, ond yn anffodus mae'r paranoia am Mwslemiaid ac ati sydd yn cael ei anog gan rhai gannau o'r sefydliad, rhai rhannau o wleidyddiaeth Prydain a rhai rhannau o'r wasg yn golygu ei fod yn cael ei gam ddefnyddio.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron