Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Llun 05 Gor 2004 5:22 pm
gan Realydd
Macsen: synnwyr cyffredin ydy o os oes % uwch o mwslims/pobl ddu/bois sy'n gwisgo baseball cap/whatever yn troseddu yna mae angen stopio ac archwilio % uwch ohonynt.

PostioPostiwyd: Llun 05 Gor 2004 6:48 pm
gan Dylan
Os mai synnwyr cyffredin ydi cyffredinoli grwpiau cyfan o bobl mor fyrbwyll รข hynny yna 'dw i'n ddiolchgar iawn bod gen i ddim ohono.

PostioPostiwyd: Llun 05 Gor 2004 7:04 pm
gan Cynog
Dwi'n meddwl bo chdi di methu/anwybyddu y pwint. Os ti'n canolbwintio ar archwilio un grwp ethnig, yna wrth gwrs bo ti'n mynd i ffeindio mwy ohonynt yn torri y gyfraeth. Ma sens yn gwneud hyna yn amlwg.

Mewn ffordd mae hynnu yn 'self fulfilling prophecy' mewn dwy ffordd;

1) ti'n archwilio un grwp yn fwy manwl na'r llall, felly, syrpreis syrpreis, bydd mwy ohonynt yn cael eu darganfod yn eog o wbath.

2) Os ti'n labelu un grwp fel drwg waethredwyr yna, syrpreis syrpreis, ma nhw fwy tebygol o ddechrau ymddwyn fel drwg waethredwyr. (Bydda nhw yn meddwl, ffwciwch y sistem, ffwciwch y gyfraeth, ma nhw yn ERBYN ni!!)

Ok, Mr "Realydd"(:lol: ), os mae chdi felly sydd yn gwybod y "reaiti", wyt ti'n meddwl bydd problemau ei'n cymdeithas yn cael eu datrys drwy DARGEDU grwpiau arbenig o ddinasyddion?

Neu ydi hyn am achosi problemau cymdeithasol mwy dwys?

PostioPostiwyd: Llun 05 Gor 2004 7:20 pm
gan Realydd
Y pwynt sylfaenol dwi'n wneud yw y dylai amser ac adnoddau'r heddlu gael eu defnyddio fwyaf effeithiol bosib. Felly, os oes rhai grwpiau mewn cymdeithas yn troseddu mwy na grwpiau eraill yna mae'n gwneud synnwyr i'w targedu nhw. Diawl o ots gen i os yw pobl PC trendy lefty yn meddwl fod hyn yn racist, sexist, ageist neu beth bynnag.

PostioPostiwyd: Maw 06 Gor 2004 6:32 am
gan S.W.
Ffordd diog o Blismona ydy 'Atal' a 'Chwilio' dangos gwendidau'r gwybodaeth mae'r heddlu yn ei chael eu bod yn troi at stopio pobl oherwydd eu croen, eu crefydd ac ati.

Mae'r heddlu yn dibynu ar gwybodaeth gan cymunedau lleol i guro troseddwyr, ond trwy wneud hyn yn amlwg bydd pobl ddim yn barod i ddod atynt i rhoi gwybodaeth.

O bryd iw gilydd mae ei angen o, ond yn anffodus mae'r paranoia am Mwslemiaid ac ati sydd yn cael ei anog gan rhai gannau o'r sefydliad, rhai rhannau o wleidyddiaeth Prydain a rhai rhannau o'r wasg yn golygu ei fod yn cael ei gam ddefnyddio.